Adlewyrchu ar Brosiectau a Gwasanaethau 2023

by ProMo Cymru | 27th Chw 2024

Roedd 2023 yn flwyddyn brysur yn ProMo Cymru – buom yn gweithio ar lawer o brosiectau gwahanol yn ystod y flwyddyn. Gobeithiwn y gallwn barhau â’r gwaith gwych yma yn 2024 a chael effaith gadarnhaol ar ein rhanddeiliaid a’r cymunedau rydym yn gwasanaethu.

EVI Pantry group photo

Institiwt Glyn Ebwy

Mae wedi bod yn flwyddyn anhygoel i Institiwt Glyn Ebwy (EVI), Canolfan Cymunedol a Diwylliannol ProMo yng nghalon Glyn Ebwy, gyda lansiad ein prosiect UKSPF.

Lansiwyd y prosiectau Pantri Cymunedol EVI a’r Caffi Trwsio yn fis Chwefror 2023. Ar ddiwedd 2023 roedd dros 200 o gartrefi yn cael cymorth y Pantri Cymunedol ym Mlaenau Gwent, gan gwtogi biliau siopa a lleihau gwastraff bwyd. Mae’r Caffi Trwsio wedi arbed dros 140 o eitemau rhag y sbwriel.

Yn ystod Nadolig 2023, bu staff EVI a gwirfoddolwyr yn danfon hamperi i’r gymuned mewn partneriaeth â’r AS Nick Smith gyda #MaePawbYnHaedduNadolig.

Ni fydda’r gwaith yma wedi bod yn bosib heb wirfoddolwyr ymroddedig a brwdfrydig EVI. Diolch enfawr i’r 54 gwirfoddolwr sydd wedi cyfrannu i gymaint i sawl prosiect EVI dros y flwyddyn.

Prosiectau Digidol: Cefnogaeth Ddigidol Trydydd Sector a Newid

Rydym wedi bod yn brysur yn gweithio ar ddau brosiect newydd, Newid a Cefnogaeth Ddigidol Trydydd Sector.

Bwriad y ddau brosiect yw helpu’r trydydd sector yng Nghymru i wella’r gwasanaethau maent yn cynnig wrth ddefnyddio dulliau ac adnoddau digidol yn well. Yn 2023, rydym wedi cefnogi dros 100 o sefydliadau trydydd sector. Mae rhai o’r uchafbwyntiau yn cynnwys:

– Lansio DigiCymru, gwasanaeth yn cynnig cymorth un i un, byr, am ddim i sefydliadau trydydd sector Cymru
– Lansio gwefan Newid, llawn adnoddau digidol a chymorth
– Cwrs Cynllunio Gwasanaethau Digidol wedi hyfforddi, mentora a chefnogi sefydliadau i ailfeddwl eu gwasanaethau gan ddefnyddio dulliau digidol
– Cynnal gweminarau ar TikTok, Canva a Deallusrwydd Artiffisial

Podlediad ERYICA

Yn gweithio gyda ERYICA (Asiantaeth Gwybodaeth a Chwnsela Ieuenctid Ewrop) cynhyrchwyd podlediad ERYICAst, yn archwilio effaith digidol ar waith ieuenctid.

Bûm yn siarad ag ymarferwyr, academyddion a phobl ifanc ledled y byd i greu chwe phennod o’r podlediad am sut mae gwasanaethau’n addasu i ymateb i dechnoleg newydd.

Ymhlith y penodau mae Llythrennedd yn y Cyfryngau, Algorithmau, AI, y Metaverse a mwy. Gwrandewch!

Llinell Gymorth Meic

Mae’r cynghorwyr ar linell gymorth Meic wedi bod yn gweithio’n galed unwaith eto i ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth i filoedd o blant a phobl ifanc yng Nghymru. Mae cannoedd o ymyriadau eiriolaeth unigol wedi’u cyflawni. Rydym wedi cael llawer o adborth positif am y gwasanaeth dros y flwyddyn, gan blant, pobl ifanc, aelodau’r teulu a gweithwyr proffesiynol.

“Rydw i wir yn gwerthfawrogi’r cyngor. Mae rhywfaint o oleuni nawr.”

Aelod o’r teulu.

“Diolch am yr ymateb cyflym. Mae’n wasanaeth gwych a byddaf yn siŵr o’i hyrwyddo”

Gweithiwr proffesiynol pobl ifanc.

“Diolch am fod mor garedig a pheidio barnu. Mae’n braf cael dy glywed

Person ifanc.

Mae nifer o flogiau wedi’u cyhoeddi ar wefan Meic ar amrywiaeth o bynciau. Rydym hefyd wedi postio llawer o gynnwys ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol. Eleni cafwyd tri ymgyrch ymwybyddiaeth hefyd:

Ymgyrch Arholiadau
Dim Cywilydd Dim Cyfrinachau: Ymgyrch Iechyd a Lles Rhyw
Byw Gyda Cholled: Ymgyrch Galar

Rydym hefyd wedi datblygu adran Cael Help newydd ar wefan Meic, fel ei bod yn haws i bobl ifanc ddarganfod y wybodaeth maent yn chwilio amdano. Wrth chwilio am gategori, byddant yn dod o hyd i wybodaeth, dolenni i wasanaethau a all helpu, a rhestr o flogiau yn sydyn.

Yn 2024 bydd gwasanaeth WhatsApp newydd Meic yn cael ei lansio, pwynt cyswllt newydd ar gyfer ein galwyr. Mae llawer o’r paratoadau ar gyfer hyn wedi bod yn digwydd y tu ôl i’r llenni yn 2023.

Meddwl Ymlaen Gwent

Mae Meddwl Ymlaen Gwent (MYG) yn brosiect ProMo Cymru a Mind Casnewydd a ariennir gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

Cyflogwyd 10 o Ymchwilwyr Cyfoed 16-24 oed. Ymgynghorwyd â 203 o bobl ifanc (11-27) yng Ngwent i gasglu mewnwelediadau iechyd meddwl.

Ar ôl dadansoddi’r wybodaeth, cynhaliwyd digwyddiad preswyl dwy noson, ac yma cafodd adroddiad darganfod ei greu gyda saith o fewnwelediadau allweddol. Mae’n werth ei ddarllen!

Yng nghyfnod nesaf y prosiect, byddem yn cydweithio â phartneriaid i fynd i’r afael â heriau a gwella gwasanaethau iechyd meddwl yng Ngwent.

Ymunwch â’r rhestr rhanddeiliaid ar gyfer y prosiect yma.

Ein Meddyliau Ein Dyfodol

Mae Ein Meddyliau Ein Dyfodol (EMED) Cymru yn rhan o brosiect pum mlynedd gyda phartneriaid yn Lloegr, Gogledd Iwerddon, a’r Alban. Y nod yw grymuso lleisiau ifanc ar gyfer newid ystyrlon mewn gwasanaethau iechyd meddwl.

Gyda’n partner Adferiad Recovery, aethom ati i gynnal cynhadledd ar-lein yn archwilio gofal claf mewnol, ymyrraeth gynnar, gofal atal, a rôl cyfryngau cymdeithasol pan ddaw at iechyd meddwl. Roedd dros 30 o weithwyr proffesiynol yn bresennol, a chafwyd canmoliaeth fawr fel “y gynhadledd ar-lein orau” y maen nhw wedi bod iddi.

Rhannodd cyfranogwr arall, “Wrth fy modd clywed yn uniongyrchol gan y bobl ifanc. Mor bwerus ac atyniadol. Dwi wedi synnu pa mor hyderus a huawdl oeddent o ystyried pwnc mor heriol a phersonol. Da iawn wir ar eich gwaith yn ymgysylltu â nhw; mae’n amlwg eu bod yn gallu ymddiried ynoch chi ac yn teimlo eu bod wedi’u grymuso!”

Cynhyrchu Cyfryngau

Mae ein tîm cyfryngau wedi bod yn brysur iawn yn 2023, yn creu llawer o fideos, brandio a dyluniadau ar gyfer sawl sefydliad. Un o’r prosiectau nodedig oedd creu fideos ar gyfer Canolfan Gyfreithiol Plant Cymru.

Nod y fideos yma oedd arwain ceiswyr lloches ifanc trwy’r camau cyntaf ar ôl cyrraedd Cymru. Aethom ati i greu cyfres o bedwar fideo byr wedi’u cyfieithu i 14 o ieithoedd gwahanol (cyfanswm o 56 fideo).

Cyd-gynlluniwyd y prosiect gyda phobl ifanc, a roddodd fewnbwn i’r arddull animeiddio a’r bwrdd stori. Nhw hefyd oedd yn darparu’r troslais yn ystod sesiynau recordio gyda chyfieithwyr ar y pryd. Cwblhawyd y prosiect yma mewn cydweithrediad â Phrifysgol Abertawe a TGP Cymru.

Ofcom 

Wedi’i gomisiynu gan Ofcom, rydym wedi defnyddio methodoleg cynllunio gwasanaeth i gynnal gweithdai llythrennedd cyfryngau ar gyfer pobl ifanc 11 i 14 oed ym Mlaenau Gwent. Yn y cyfnod darganfod cychwynnol darganfuwyd bod bwlch sylweddol yng ngwybodaeth pobl ifanc am algorithmau cyfryngau cymdeithasol a siambrau atsain.

Roedd y mewnwelediad yma yn ein galluogi i ddatblygu gweithdai a oedd yn canolbwyntio ar ddangos i bobl ifanc sut roedd cadw rheolaeth mewn gofodau ar-lein. Mae’r adroddiad a gynhyrchwyd yn manylu ein darganfyddiadau ac mae wedi helpu i drosglwyddo’n esmwyth i’r cyfnod datblygu nesaf.

Yn 2024 rydym wedi bod yn gweithio gyda thri pherson ifanc yn cyd-gynllunio’r gweithdai. Bydd y tri yn ein helpu i gyflwyno i bobl ifanc eraill mewn clybiau ieuenctid ledled Blaenau Gwent.

Arwain Cynefin

Mae’r prosiect Arwain Cynefin yn gydweithrediad rhwng ProMo Cymru, Ysgolion Cynradd, a TLP Cymru. Mae’n cael ei gefnogi gan yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol. Y nod yw cyfarparu athrawon a phobl ifanc gyda sgiliau digidol, creadigol ac adrodd straeon.

Mewn partneriaeth â Janet Hayward (OBE) a TLP Cymru, mae’r prosiect peilot yma wedi datblygu glasbrint ar gyfer Cwricwlwm i Gymru ac Ysgolion Bro ar waith. Bydd yn rhoi hyder i  archwilio, cysylltu, a dathlu trysorau a hanes cymunedol.

Cynhaliwyd dau weithdy adrodd stori yn ddigidol gydag athrawon a disgyblion blwyddyn pump. Cafodd eu gwaith anhygoel, gan gynnwys gwaith celf a straeon digidol, eu harddangos yn adeilad Y Pierhead ym Mae Caerdydd fis Tachwedd. Cefnogwyd gan Lee Waters AS, Jane Hutt AS, ac Alun Davies AS.

Ymgyrch TheSprout: Y Dyfodol Yn Ein Dwylo

Ym mis Mawrth, lansiodd TheSprout, gwefan wybodaeth a blogio i bobl ifanc 11-25 Cymru, yr Ymgyrch ‘Y Dyfodol yn Ein Dwylo’.

Y nod oedd codi ymwybyddiaeth gwneud dewisiadau cynaliadwy, helpu lleihau gwastraff, a bod yn ecogyfeillgar o ran ffasiwn.

Wedi’i ddatblygu gan grŵp o bum person creadigol ifanc yng Nghaerdydd, mewn cydweithrediad â Bloedd Amgueddfa Cymru. Cafodd deg blog ei gyhoeddi ar wefan TheSprout a bron i 100 o negeseuon cyfryngau cymdeithasol (13 ohonynt yn TikToks).

Roedd yna gynnwys am ddewisiadau arall i ffasiwn gyflym fel prynu’n ail-law, trwsio, uwchgylchu a gwneud dillad eich hun. Darllenwch yr ymgyrch yma.

Prosiectau 2024

Rydym yn gobeithio gweithio gyda’n cleientiaid blaenorol eto, ac edrychwn ymlaen am y cyfle i weithio gyda llawer mwy!

Cofrestrwch i gylchlythyr ProMail i gael gwybod y diweddaraf am ein prosiectau a’n cyfleoedd yn ystod y flwyddyn. Rydym yn addo na fyddem yn eich sbamio.

Dilynwch ni ar gyfryngau cymdeithasol i weld pytiau bach ac i fod yn rhan o’n rhwydwaith!