Swyddi

Mae ProMo-Cymru yn elusen ac yn sefydliad dielw yn darparu datrysiadau datblygiad arloesol yn y sector cymdeithasol. Rydym hefyd yn arbenigo mewn cyfathrebu digidol ieuenctid a theuluoedd, eiriolaeth plant ac adfywiad adeiladau cymunedol.

Gweithio Gyda Ni

Mae ProMo-Cymru wedi profi arloesiad a thyfiant sylweddol yn y 30 mlynedd diwethaf. Rydym yn gwerthfawrogi pwysigrwydd cymwysterau a phrofiad ond mae ProMo-Cymru hefyd yn chwilio am yr unigolion cywir sydd yn gallu cynnig rhywbeth newydd a gwahanol i’n sefydliad. Mae yna sawl prosiect yn cynnig cyfle i’r staff ddatblygu’i gyrfaoedd a phrofi gwahanol agweddau o’r sefydliad. Mae yna gydbwysedd o waith tîm, annibyniaeth a synnwyr o gyfrifoldeb wrth wella ein gwasanaethau a’n cynnyrch. Rydym yn gweithio’n galed ar gyfer ein cleientiaid a’n partneriaid ac yn mwynhau rhannu’r gwobrwyon â nhw. Rydym yn annog ein gweithwyr i fod yn rhan o’r broses arweinyddiaeth a gwneud penderfyniadau, rhoi sylw personol i eraill a gwneud i bob unigolyn deimlo fel eu bod yn cael eu gwerthfawrogi’n unigryw. Mae ysgogiad deallusol yn annog golwg newydd ar hen ddulliau ac yn hybu creadigrwydd. Rydym yn ysbrydoli ac yn ysgogi. Mae hyn yn cynyddu gobaith a brwdfrydedd wrth gyfathrebu disgwyliadau uchel. Mae hefyd yn canfod posibiliadau nad oedd wedi’u hystyried cynt. Rydym yn rhannu gweledigaeth a synnwyr o bwrpas wrth ennyn parch, ffydd a hyder. Rydym yn chwilio am gyd-weithwyr sy’n gallu gweithio i’r gwerthoedd yma. Rydym yn gofyn am bobl ragweithiol gydag ysfa, eglurder a gweledigaeth.

Os ydych chi’n teimlo fel bod yr uchod yn wir i chi, rydym yn recriwtio ac yn edrych ymlaen at glywed gennych chi!


Swyddi Gwag: