Mae’r prosiect yma yn dysgu sgiliau adrodd stori yn ddigidol ac yn greadigol i athrawon a phobl ifanc, yn creu hyder i archwilio, cysylltu â dathlu trysorau a hanes cymunedol.
Yn gweithio fel prosiect peilot, rydym wedi datblygu glasbrint ar gyfer Cwricwlwm i Gymru ac Ysgolion Bro ar waith gyda Janet Hayward OBE (Pennaeth Gweithredol Ysgolion Tregatwg ac Oak Field yn y Bari) a TLP Cymru , gan gyfuno ein harbenigedd eang mewn addysg, digidol a gwaith ieuenctid.
Ein nod yw darparu pobl ifanc gyda’r hyn sydd ei angen arnynt i ddatblygu dealltwriaeth o’u Cynefin; y bobl, llefydd a’r hanes sydd yn siapio’u cymunedau, yn ysbrydoli angerdd a balchder dros eu hunain a’r byd o’u cwmpas.
Cynhaliwyd dau weithdy adrodd stori yn ddigidol gyda hyfforddwyr cyfryngau ProMo Cymru, yn tynnu athrawon a disgyblion blwyddyn 5 o ysgolion cynradd Tregatwg, Oak Field a Willowtown at ei gilydd i ddysgu yng nghanolfan cymunedol a diwylliannol hanesyddol Institiwt Glyn Ebwy (EVI) a Chanolfan Cymunedol Victoria Park. Roedd y gweithdai yn trafod y theori a’r ymarferol o:
– Gosodiad camera a saethu
– Goleuo a chyfansoddiad
– Sain a throsleisio
– Digideiddio hen ddelweddau
– Rhag-gynhyrchu a chreu bwrdd stori
– Rhannu ac allforio ffeiliau cyfryngol
– Ffilmio a golygu fideo
Archwiliodd ac arbrofodd y grwpiau gyda gwahanol offer cyfryngol, ymarfer cynnal a ffilmio cyfweliadau gyda microffonau ac yn rhoi theori ar waith. Roedd y profiad dysgu cyfoethog yma y tu allan i’r ystafell ddosbarth yn eu hysbrydoli i gysylltu gyda’u hamgylchedd cymunedol a syniadau ar gyfer eu prosiectau.
Gyda’r hyn dysgwyd, aeth y plant ati i ddarganfod a dogfennu trysor eu cymuned fel rhan o’u Hymholiadau Cynefin.
Ymestynnodd y disgyblion wahoddiad i aelodau’r gymuned i ddod at ei gilydd a rhannu’r eu barn am beth oedd ystyr Cynefin iddyn nhw. Dogfennwyd y straeon a’r trysorau i Fari a Glyn Ebwy, gan gynhyrchu gwaith celf a darnau ysgrifenedig eu hunain ynghyd â defnyddio adrodd stori yn ddigidol i arddangos yr hyn darganfuwyd.
Cynhaliwyd arddangosiad a dathliad o’r prosiect yn adeilad Y Pierhead ym Mae Caerdydd ar 24ain Tachwedd, wedi’i gefnogi gan Lee Waters AS, Jane Hutt AS, ac Alun Davies AS. Cafodd teuluoedd y disgyblion ac aelodau’r cyhoedd oedd yn pasio eu gwahodd i archwilio’u harddangosfa, yn llawn balchder wrth ddangos y darnau anhygoel a rhannu hanes eu cymuned!
I drafod y prosiect neu i ddarganfod mwy, cysylltwch gyda Janet Hayward a Marco Gil-Cervantes ar marco@promo.cymru neu haywardJ@hwbcymru.net.
Cefnogir gan
Cydweithrediad arloesol gyda: