Beth yw Ein Meddyliau Ein Dyfodol?

Mae Ein Meddyliau Ein Dyfodol (EMED) yn brosiect sydd yn rhoi cyfle i bobl ifanc i ddylanwadu ar y ffordd mae gwasanaethau iechyd meddwl yn cael eu cynllunio a’u cynnal ledled y DU.

Mae pobl ifanc yn dod at ei gilydd ar draws Lloegr, Gogledd Iwerddon, Yr Alban a Chymru, i godi llais cyfunol ar gyfer y math o newid trawsffurfiol maent am ei weld yn y system iechyd meddwl yn eu cymunedau.

Yng Nghymru, mae EMED yn cael ei ddarparu gan ProMo Cymru a’n partner, Adferiad Recovery (Hafal gynt). Gyda’n gilydd, rydym yn cefnogi grŵp o bobl ifanc o ledled Cymru i fod yn rhan o waith ymgyrchu a dylanwadu i greu newid ystyrlon.

Ariannir y prosiect am 5 mlynedd, diolch i grant gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol o 2019-2024.

Galwad i Weithredu

Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae yna bryderon cynyddol wedi bod am iechyd meddwl a llesiant emosiynol pobl ifanc, a galwadau cynyddol i wella’r ffordd mae pobl ifanc yn cael eu helpu a’u cefnogi.

Y lleisiau mwyaf dylanwadol yw rhai’r bobl ifanc eu hunain. Mae eiriolwyr ifanc EMED, grŵp o bobl ifanc sydd yn rhan o’r prosiect, wedi bod yn ddewr iawn yn rhannu eu profiadau o wasanaethau iechyd meddwl yn y gobaith o wella hyn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Mae’r ddogfen Galwad i Weithredu, wedi’i gynhyrchu ar y cyd ag eiriolwyr ifanc EMED o Gymru gan ddefnyddio dull wedi’i selio ar hawliau, yn egluro’r newidiadau mae pobl ifanc Cymru yn mynnu arnynt.

Mae yna 5 gorchymyn sydd yn cael eu hamlygu:

Gorchymyn 1 – Rydym eisiau dull canolog i bobl ifanc 16-25 oed i ddarganfod a chael mynediad i gefnogaeth

Gorchymyn 2 – Rydym eisiau gweld gwasanaethau yn defnyddio dull holistig i weithio’n dda gyda’i gilydd i’n helpu

Gorchymyn 3 – Rydym eisiau mynediad i osodiadau wyneb i wyneb ac ar-lein sydd yn ddiogel, yn groesawus, ac yn barchus

Gorchymyn 4 – Rydym eisiau i ddylanwadwyr a’r rhai sydd yn gwneud penderfyniadau i wrando arnom, i glywed ein llais ac i fod yn atebol i ni

Gorchymyn 5 – Rydym eisiau gweld gweinidog gyda phortffolio ar gyfer plant a phobl ifanc hyd at 25 oed

Mae’r Galwad i Weithredu yn siarad gyda phobl ifanc ac oedolion gan fod gan bawb ran i’w chwarae i wneud gwahaniaeth i iechyd meddwl a llesiant emosiynol plant a phobl ifanc.

Ymgyrchu a dylanwadu

Ers cychwyn y prosiect, mae’r eiriolwyr ifanc EMED o Gymru wedi ymgyrchu fel bod dylanwadwyr a’r rhai sydd yn gwneud y penderfyniadau pan ddaw at iechyd meddwl a gwleidyddiaeth yn clywed y gorchmynion yma.

Mae eiriolwyr ifanc EMED wedi bod yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau i gysylltu gyda gweithwyr proffesiynol, gan gynnwys ysgrifennu llythyrau ac e-byst i Aelodau’r Cabinet a Gweinidogion Llywodraeth Cymru, a mynychu gweithdai wedi’i gyflwyno gan Gomisiynydd Plant Cymru.

Maent wedi cynnal cyfarfodydd a fforymau trafod gyda rhanddeiliaid i godi ymwybyddiaeth o’r prosiect a’n nodau.

Y digwyddiad mwyaf dylanwadol oedd cynhadledd ar-lein cynhaliwyd ar 8fed Mehefin 2023. Roedd y digwyddiad pedair awr ar-lein yn canolbwyntio ar dri phrif faes oedd yn bwysig i’r 7 person ifanc sydd yn rhan o’r prosiect.

Gweithdy 1 – yn archwilio gofal iechyd meddwl fel claf mewnol i bobl ifanc yng Nghymru. Rhannodd dau eiriolwr ifanc, Martha a Rain, eu hanes personol o fod yng ngofal claf mewnol, yn arwain at drafodaethau am yr hyn aeth yn dda a’r hyn gellir ei wella. Hwyluswyd y gweithdy gan Dr. Euan Hails, a dderbyniodd MBE yn Rhestr Anrhydeddau Flwyddyn Newydd y Frenhines yn 2022 am ei wasanaethau i iechyd meddwl plant a phobl ifanc yng Nghymru.

Gweithdy 2 – yn amlygu sut gellir defnyddio cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo iechyd meddwl da. Eglurodd Andrew Collins a Lucy Palmer, arbenigwyr digidol yn ProMo Cymru, bod angen i wasanaethau fod ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol fel y gallant gynnig cymorth i bobl ifanc yn y llefydd maent yn treulio’u hamser. Canolbwyntiwyd ar sut gall sefydliadau dorri trwy’r sŵn cynnwys niweidiol ar-lein a bod yno i gynnig cymorth i bobl ifanc.

Gweithdy 3 – yn amlygu’r rhwydwaith NYTH a sut mae hwnnw’n gwneud gwahaniaeth mawr gydag ymyrraeth gynnar a gofal atal yng Nghymru. Cyflwynwyd y sesiwn gan Millie Boswell, Arweinydd gweithredu NYTH Llywodraeth Cymru. Eglurodd sut y mae hi’n gweithredu’r fframwaith NYTH i greu dull system gyfan i wella gwasanaethau iechyd meddwl a llesiant i fabanod, plant a phobl ifanc. Rhannodd Josh a pherson ifanc arall, dau eiriolwr ifanc EMED, eu hanes o sut mae cymorth ymyrraeth gynnar dda yn edrych a sut mae hyn wedi helpu yn eu hadferiad.

Roedd dros 30 o weithwyr proffesiynol o sefydliadau cyhoeddus a trydydd sector wedi mynychu’r gynhadledd, gan gynnwys CAMHS, Llywodraeth Cymru, Platfform, Barnardo’s, Mind, GIG Cymru, Mind Casnewydd, Y Fenter, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Roedd pawb yn ymgysylltu’n dda ac wedi gadael adborth positif iawn, gan gynnwys:

“Dyma’r gynhadledd ar-lein gorau i mi fynychu”.

“Wrth fy modd clywed yn syth gan y bobl ifanc. Roedd hwn mor bwerus ac atyniadol, ac wedi synnu pa mor hyderus a huawdl oeddent o ystyried pwnc mor heriol a phersonol. Da iawn wir ar eich gwaith yn ymgysylltu â nhw; mae’n amlwg eu bod yn gallu ymddiried ynoch chi ac yn teimlo eu bod wedi’u grymuso!”

Canlyniadau

Mae newid polisïau yn gallu bod yn broses hir iawn. Ond, rydym yn teimlo fel bod y prosiect Ein Meddyliau Ein Dyfodol (Cymru) wedi cysylltu pobl ifanc gyda’r dylanwadwyr a’r rhai sydd yn gwneud penderfyniadau yn llwyddiannus, a’u bod wedi gwrando ar eu profiadau ac am symud hyn ymlaen wrth ystyried newidiadau polisi.

Rhannodd un rhanddeiliaid:

“Fel rhywun sydd yn gweithio i CAMHS yn Llywodraeth Cymru, nid oes gen i gysylltiad â phobl ifanc, felly mae’r hyn dwi wedi’i ddysgu yn siŵr o fod ar flaen y meddwl pan fyddaf mewn cyfarfodydd ac yn gwneud gwaith o hyn ymlaen”.

Mae’r eiriolwyr ifanc EMED yn falch iawn o’u gwaith ymgyrchu ac wedi mynegi sut mae’r prosiect Ein Meddyliau Ein Dyfodol wedi helpu iddynt gynyddu hyder ac wedi bod yn gymorth wrth wella’u hiechyd meddwl.

Dywedodd un aelod o Gaerdydd, sydd yn 19 oed, “Roeddwn eisiau ymuno i gyfarfod â phobl ifanc arall gyda chefndir tebyg i mi, sydd â safbwyntiau a barn debyg am wasanaethau a gwella gwasanaethau”.

Mae llawer ohonynt bellach yn rhan o brosiectau iechyd meddwl eraill, fel ‘Don’t Touch – Tell’ (Adferiad Recovery), Bwrdd Cynghori’r Senedd, Ymyrraeth Gynnar yn y Gwasanaethau Seicosis yng Ngwent (Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan), Cyngor Ieuenctid Caerdydd, grŵp strategol Mind, a grŵp strategol Blooming Change.

Mae rhai wedi penderfynu ceisio cael cymwysterau ac wedi cofrestru ar gyrsiau fel cwrs mentora cyfoed NYAS a chwrs cwnsela yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro.

Cyfwelwyd yr eiriolwyr ifanc EMED i helpu mesur effaith y prosiect. Mae’r fideo yma yn amlygu’r newidiadau positif mae pobl ifanc wedi’i weld mewn gwasanaethau yng Nghymru, a hefyd yn rhoi cipolwg o gynnydd personol y bobl ifanc sydd wedi bod yn rhan o’r prosiect EMED.