Mae ProMo-Cymru wedi cymryd pob gofal wrth baratoi cynnwys y wefan hon, ond, darperir y wefan hon, y wybodaeth a’r deunyddiau ar y wefan, a’r feddalwedd a sicrheir sydd ar gael ar y wefan, “fel y mae” heb unrhyw gynrychiolaeth na chefnogaeth yn cael eu gwneud, a heb unrhyw warant o unrhyw fath, boed hynny’n benodol neu yn cael ei awgrymu, gan gynnwys ond heb ei gyfyngu i, unrhyw warantau ymhlyg o ansawdd boddhaol, ffitrwydd i bwrpas arbennig, o beidio â thorri amodau, cytunedd, diogeledd a chywirdeb.

I’r graddau a ganiateir gan y gyfraith, caiff yr holl delerau a gwarantau o’r fath trwy hyn eu heithrio. Ni fydd ProMo-Cymru o dan unrhyw amgylchiadau yn gyfrifol am unrhyw golledion a gollir ac sy’n deillio o neu mewn cysylltiad gyda’r defnydd o’r wefan hon gan gynnwys, heb gyfyngiad, colli elw, colli data neu golli ewyllys da (yn yr holl achosion hyn boed hynny yn uniongyrchol neu yn anuniongyrchol) nac am unrhyw golled anuniongyrchol, economaidd, ôl-ddilynol neu arbennig.

Ni warantir bod trosglwyddo unrhyw ddata dros y Rhyngrwyd yn gwbl ddiogel. Er ein bod yn ceisio gwarchod gwybodaeth o’r fath, nid ydym yn gwarantu ac ni allwn sicrhau diogelwch unrhyw wybodaeth a drosglwyddwch inni. Felly, trosglwyddir unrhyw wybodaeth a drosglwyddwch i ni yn ôl eich risg eich hun.

Nid yw ProMo-Cymru yn dweud bod yr wybodaeth a gynhwysir yn y wefan hon yn gywir, yn gynhwysfawr, wedi ei dilysu nac yn gyflawn, ac ni fydd yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am gywirdeb neu gyflawnder yr wybodaeth a gynhwysir yn y wefan hon nac am unrhyw hyder a roddir gan unrhyw unigolyn yn y wybodaeth.

Ni all ProMo-Cymru roi unrhyw warant y bydd y wefan yn parhau yn ddi-dor neu yn rhydd o wallau, neu y bydd diffygion yn cael eu cywiro neu fod y wefan yn rhydd o firysau neu broblemau cyfrifiadurol maleisus eraill. Chi sy’n gyfrifol am sicrhau bod gennych chi feddalwedd berthnasol i wirio firysau ar eich cyfrifiadur. Ni allwn dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw golled, amhariad na difrod i’ch data neu’ch system gyfrifiadurol a all ddigwydd wrth ddefnyddio deunydd yn deillio o’r wefan hon.