Mae Meddwl Ymlaen Gwent (MYG) yn brosiect £999,888.00 ariannir gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol sydd yn cael ei gyflwyno gan ProMo-Cymru a Mind Casnewydd. Mae sefydliadau Mind lleol Gwent a gwasanaethau ieuenctid Gwent yn bartneriaid prosiect hefyd.

I sicrhau llwyddiant Meddwl Ymlaen Gwent mae’n hanfodol bod pobl ifanc yn galon i’r holl beth. Rydym wedi recriwtio grŵp o 10 ymchwilydd cyfoed 16-24 oed ledled Gwent i arwain cyfeiriad y prosiect.

Bwriad y Prosiect

Bwriad y rhaglen yw grymuso pobl ifanc i greu a gweithredu gweledigaeth ar gyfer dyfodol  pobl ifanc eu cymunedau sydd yn fwy gwydn ac yn iachach yn feddyliol. Rydym yn awyddus i gynllunio ffyrdd newydd i atal datblygiad neu waethygiad heriau iechyd meddwl ac i sicrhau bod pobl ifanc yn derbyn y gefnogaeth gywir ar yr amser cywir, ble bynnag yr ânt am gymorth.

Yng nghyfnod 5 mlynedd y prosiect, bydd ProMo a Mind Casnewydd yn cefnogi pobl ifanc i gyd-gynllunio a datblygu dulliau sydd yn canolbwyntio ar ddatrysiadau i iechyd meddwl a gwydnwch pobl ifanc gan ddefnyddio methodoleg cynllunio gwasanaeth.

Ymchwilwyr Cyfoed Meddwl Ymlaen Gwent mewn cyfarfod Zoom

Y Dull Cynllunio Gwasanaeth

I gychwyn, rydym yn ymchwilio anghenion y bobl ifanc yng Ngwent ac yn magu dealltwriaeth glir o’r gefnogaeth sydd ar gael. Fel nad ydym yn ailddyfeisio’r olwyn, mae’r prosiect yn adeiladu ar yr hyn sydd eisoes yn llwyddiannus yng Ngwent, gan adnabod unrhyw fylchau yn y gwasanaethau darparir ac yn canolbwyntio ar ddatblygu a gwella’r rhain fel bod pobl ifanc yn cael eu cefnogi’n well.

Ar ôl penderfynu ar yr anghenion sydd yn flaenoriaeth, byddem yn datblygu syniadau ac yn eu profi. Byddem yn dysgu o’r profion yma, yn cynyddu’r syniadau yma, ac yn cyflwyno’r datrysiadau.

Mae’r broses yma yn rhoi grym i bobl ifanc i wella mynediad i gefnogaeth iechyd meddwl.

Gweithio gyda ProMo

Dilynwch ni ar gyfryngau cymdeithasol am ddiweddariadau Meddwl Ymlaen Gwent a chofrestrwch am ein cylchlythyr.

Os oes gennych chi ddiddordeb yn gweithio gyda ni i gyd-gynllunio prosiectau gyda phobl ifanc, neu i helpu gwella gwasanaeth gan ddefnyddio methodoleg cynllunio gwasanaeth, cysylltwch â arielle@promo.cymru