Hanes

Yn y 30 mlynedd diwethaf, mae ProMo-Cymru wedi datblygu gwasanaethau sydd yn amrywio o wefannau gwybodaeth a phrosiectau adfywio cymunedol, i linell gymorth eiriolaeth.

Yn y 30 mlynedd diwethaf, mae ProMo-Cymru wedi datblygu gwasanaethau sydd yn amrywio o wefannau gwybodaeth a phrosiectau adfywio cymunedol, i linell gymorth eiriolaeth.

Sefydlwyd ProMo-Cymru Cyf yn 1982 fel Cymdeithas Datblygu Gydweithredol De Cymru. Yn defnyddio, ble’n bosib, egwyddorion cydweithredol ac agweddau datblygiad cymunedol i ddatblygu, hyfforddi a chefnogi busnesau.

Themâu creiddiol ProMo-Cymru ydy rhoi grym, cynnal a datblygu pobl ifanc ac i weithio mewn partneriaeth ag eraill mewn cyd-destun cymdeithasol ac economaidd ar gyfer dysgu gydol oes a datblygiad personol a chymunedol.

Individuals benefit from team working, pooling skills and resources through mutual self-help groups, co-operatives and community enterprises.

Mae unigolion yn buddio o weithio fel tîm, cronni sgiliau ac adnoddau gyda grwpiau hunangymorth cilyddol, cydweithrediadau a mentrau cymunedol. Cychwynnodd y prosiect ProMo yn 1998 gydag ymchwil ariannwyd gan TEC, oedd yn adnabod atgyfodiad yn y diwydiannau diwylliannol yn enwedig y gallu creadigol ymysg pobl ifanc dadryddfreinio yn gweithredu ar ymylon cerddoriaeth ac adloniant yng Nghymru. Nid oedd gan y bobl ifanc yma’r profiad ymarferol, gweithle cynaledig, mynediad i wybodaeth a chyngor busnes cefnogol i’w galluogi i newid dymuniad a gallu i mewn i lwyddiant economaidd, yn darparu catalydd iddynt anelu tuag ato.

Yn 1997 roedd prosiect tair blynedd gan y Loteri Genedlaethol yn caniatáu i ProMo ddatblygu, yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg i gychwyn. Tyfodd hyn tu hwnt i holl ddisgwyliadau i’r ProMo-Cymru sydd yn bodoli heddiw, sydd yn gweithio ledled Cymru gyfan, yn datblygu gwasanaethau gyda’r profiad a’r arbenigedd helaeth casglwyd, ac wedi denu arian o amryw ffynhonnell i sicrhau datblygiad parhaus.