Nid Oes Angen App – Datrysiad Digidol i Connect

by Andrew Collins | 10th Ion 2024

Mae’r flog yma yn astudiaeth achos o’n gwasanaeth DigiCymru, sydd yn cynnig cefnogaeth un i un, byr, am ddim, i sefydliadau’r trydydd sector yng Nghymru. Mae Connect yn un o’r sefydliadau sydd wedi cysylltu â’r gwasanaeth i ofyn am gyngor a chymorth i ddarganfod datrysiadau i’w problem.

Nid oes angen app i yrru hysbysiadau gwthio (push notifications)

Beth yw Connect?

Mae Connect yn cael ei gynnal gan Adoption Cymru ac yn cael ei ariannu gan y National Adoption Service. Mae’n wasanaeth cenedlaethol ar gyfer plant a phobl ifanc sydd wedi’u mabwysiadu.

Maent yn cynnal cyfarfodydd grŵp bob mis gyda’r nod o wella hunanhyder y plant a’r bobl ifanc. Maent yn helpu cynyddu hunan-barch, lleihau teimladau  ynysiad, a datblygu sgiliau bywyd.

Cyflawnir hyn wrth gynnig amrywiaeth o weithgareddau, fel celf, drama, sgiliau syrcas, bwyta/coginio iach, cerddoriaeth, ayb.

Pa broblem oedd Connect yn wynebu?

Cyn y sesiwn DigiCymru, dywedodd Connect mai eu her ddigidol oedd:

“Rydym eisiau archwilio os dylem ddatblygu app at ddefnydd pobl ifanc”

Yn y cyfarfod cychwynnol rhwng Andrew Collins, Uwch-reolwr Digidol ProMo Cymru, ac Ann a Fran o Adoption Cymru, eglurwyd pa mor heriol oedd ceisio cysylltu gyda phobl ifanc. Oherwydd natur sensitif y broses mabwysiadu, nid ydynt yn cadw data’r bobl ifanc a dim ond manylion cyswllt syml sydd ganddynt i’r rhieni.

Mae gan Connect wefan prosiect sydd yn hysbysu cyfarfodydd grŵp ble gall pobl ifanc sydd wedi’u mabwysiadu gyfarfod mewn gofod diogel a chymryd rhan mewn gweithgareddau hwyl. Ond, mae Ann a Fran yn cael trafferth rhannu’r wybodaeth yma gyda’r bobl ifanc yn uniongyrchol.

Roeddent yn teimlo fel y byddai app newydd, gall y bobl ifanc a’u rhieni lawr lwytho, yn caniatáu iddynt yrru negeseuon gwthio, heb angen unrhyw wybodaeth bersonol.

Roeddent yn poeni y byddai creu hyn yn waith mawr. Byddai’n rhaid iddynt ddiweddaru’r wefan a’r ap, gan greu mwy o waith a chostau yn yr hirdymor.

Darganfod datrysiad digidol

Mae datblygu app yn gallu bod yn broses hir a drud. Edrychom ar adnoddau fydda’n caniatáu i chi yrru negeseuon gwthio fel y gallech gyda app, heb orfod datblygu rhywbeth newydd.

Mae AppyPie yn caniatáu i chi droi eich gwefan presennol i app. Gellir ei lawr lwytho o’r Apple App Store a Google Play Store.

Mae AppyPie hefyd yn:

– Caniatáu i staff yrru negeseuon gwthio i ddefnyddwyr eu gwasanaeth
– Ddatrysiad dim cod gyda rhwystrau mynediad isel
– Tynnu cynnwys o’ch gwefan, fel nad oes angen diweddaru’r wefan a’r app
– Costio dim ond £10 y mis felly’n ddatrysiad fforddiadwy iawn ac yn llawer rhatach nag datblygu app o’r newydd.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn sesiwn un i un DigiCyru am ddim ar gyfer eich sefydliad trydydd sector, gwnewch apwyntiad gydag un o’n harbenigwyr digidol yma i ddarganfod datrysiad digidol i chi.

Ariannir yr astudiaeth achos hwn drwy Cefnogaeth Ddigidol Trydydd Sector, prosiect Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i gefnogi Trydydd Sector Cymru gyda digidol. I ddarganfod mwy am sut gall y prosiect yma gefnogi eich sefydliad chi, cliciwch y ddolen neu cysylltwch â andrew@promo.cymru