Gelwir y prosiect yn Cefnogaeth Ddigidol Trydydd Sector.
Bydd CGGC yn ein cynorthwyo i gyrraedd sefydliadau’r trydydd sector ledled Cymru.
Byddem yn cyflawni pedwar peth i greu newid cadarnhaol.
Rydym wedi creu’r gwasanaeth DigiCymru. Bwriad hyn yw helpu sefydliadau’r trydydd sector gydag unrhyw heriau sydd yn ymwneud â digidol. Bydd aelod o’n staff yno i sgwrsio am unrhyw broblemau ac yn gweithio gyda chi i ddatblygu datrysiad neu i gynyddu eich sgiliau a hyder.
Yn ystod y prosiect hefyd, byddem yn cynnig cefnogaeth ar bynciau sydd o ddiddordeb i sefydliadau, fel:
– Sut mae talu am hysbysebion ar-lein yn gweithio i ddenu gwirfoddolwyr?
– Pa system rheoli cynnwys dylid defnyddio?
– Allech chi fy helpu i adeiladu gwefan mewn llai nag diwrnod?
– Sut ydw i’n defnyddio Google Analytics?
Sut mae’n gweithio
– Rhowch wybod am unrhyw her/broblem ddigidol
– Dywedwch pryd rydych chi’n rhydd
– Bydd eich arbenigwr digidol yn cysylltu i drefnu cyfarfod cychwynnol
– Os nad yw’n rhywbeth gallem helpu ag ef, byddem yn ceisio darganfod rhywun fydd yn gallu helpu
Os hoffech gysylltu â’r tîm i drafod eich her ddigidol, cadwch eich lle.
Os ydych chi’n sefydliad trydydd sector sydd yn cefnogi aelodaeth ehangach, yna gallem ddarparu hyfforddiant a chyllid i chi gyflwyno gweithdai hyfforddiant digidol eich hun.
Cysylltwch ag andrew@promo.cymru am wybodaeth bellach.
Bydd y gwaith yma yn cychwyn yn 2024 a 2025 a rhown wybod i chi yn agosach i’r amser.
Dyma sut rydym yn diffinio beth mae da yn edrych fel pan ddaw at ddigidol yn y trydydd sector:
– Datrys gwir her neu broblem sydd gan bobl
– Yn cael ei adeiladu gyda phobl gan ddefnyddio proses cynllunio yn canolbwyntio ar y person neu’n ailddefnyddio proses sydd wedi ei chyflawni gan brosiect mewn bodolaeth
– Darparu profiad da i’r bobl sy’n ei ddefnyddio
– Caniatáu i bobl gael mynediad i wasanaeth yn y ffordd maen nhw’n ei ddewis (gall hyn fod wyneb i wyneb hefyd)
Byddem yn ehangu ar hyn ac yn rhoi cyngor ymarferol i wella eich gwasanaeth gan ddefnyddio digidol.
Cofrestrwch am ein cylchlythyr
Am unrhyw gwestiynau pellach, cysylltwch â andrew@promo.cymru am sgwrs.