Llwyddiant: Marc Ansawdd Efydd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru

by ProMo Cymru | 3rd Tach 2023

Rydym yn hynod falch o gael cyhoeddi bod ProMo Cymru wedi derbyn y Marc Ansawdd Efydd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru!

Beth ydy’r Marc Ansawdd?

Yn cael ei weinyddu gan Gyngor y Gweithlu Addysg (CGA), mae’r Marc Ansawdd yn wobr genedlaethol sydd yn cefnogi ac yn adnabod gwella safonau mewn darpariaeth a pherfformiad sefydliadau sydd yn darparu gwasanaethau gwaith ieuenctid. Mae angen i sefydliadau gwaith ieuenctid hunanasesu yn erbyn cyfres o safonau ansawdd a phasio asesiad allanol er mwyn derbyn yr achrediad.

Dywedodd Andrew Borsden, Swyddog Datblygu Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) ar gyfer y Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid, “Llongyfarchiadau mawr i ProMo Cymru ar gyrraedd y Marc Ansawdd efydd.

“Mae sefydliadau fel ProMo Cymru yn cynnig gwasanaethau pwysig i lawer o bobl ifanc ledled Cymru. Rwy’n falch o weld bod gwaith caled ac ymrwymiad y tîm cyfan wedi cael ei gydnabod.”

Roedd un o’r aseswyr, Mick Conroy, wedi disgrifio ProMo fel “Ciplun o sut y dylai Gwaith Ieuenctid yr 21ain ganrif edrych”

Dywedodd Marco Gil-Cervantes, Prif Weithredwr ProMo Cymru, “Rydym yn falch iawn o’r bobl ifanc rydym yn gweithio â nhw, ein staff, a chyflawni’r Marc Ansawdd Efydd – mae’r broses wedi helpu i’n harwain yn bositif tuag at y dyfodol.”

Ymdrech Tîm

Hoffem ddiolch i’r bobl ifanc a gyfrannodd tuag at ProMo yn derbyn y wobr hon. Mae hyn yn cynnwys yr Ymchwilwyr Cyfoed sydd yn rhan o’r prosiect Meddwl Ymlaen Gwent, y bobl ifanc sydd yn rhan o Radio Platfform, a’r bobl ifanc sydd wedi gweithio ar TheSprout. Eu lleisiau a’u profiadau nhw sydd wrth galon ein gwaith. Eu gwytnwch, creadigrwydd a’u hangerdd nhw sydd yn ein hysbrydoli’n barhaol.

Hoffem hefyd fynegi ein gwerthfawrogiad mawr i’r staff, profwyd bod eu gwaith nhw yn cael effaith bositif ar fywydau pobl ifanc.

Dywedodd Sue Hayes, ein Rheolwr Cymorth Corfforaethol, “Wrth fy modd cael cyfle i arwain ar gwblhau’r hunanasesiad Marc Ansawdd Efydd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru yn llwyddiannus.

“Mae’r cyflawniad yma yn gam sylweddol yn ein hymrwymiad i ddylunio, adeiladu, ac eirioli gyda phobl ifanc a chymunedau er mwyn gwneud i bethau da ddigwydd.”

Cyfle i hunan fyfyrio a datblygu

Mae gwneud cais am y Marc Ansawdd Efydd hefyd wedi rhoi cyfle gwych i ni fyfyrio ar ein harferion a’n gwasanaethau. Mae wedi atgyfnerthu ein methodoleg o Ddylunio Gwasanaeth.

Mae wedi ein hannog i ailadrodd yn barhaus i wella ansawdd y gwaith ieuenctid rydym yn darparu i bobl ifanc Cymru. Mae’r cyflawniad yma yn gymhelliant i fireinio ein strategaethau, addasu i anghenion newidiol, ac archwilio ffyrdd arloesol o rymuso a chefnogi pobl ifanc.