Cynllunio Gwasanaeth

Rydym yn gweithio gyda phobl sydd yn cefnogi eu cymunedau i gynllunio gwasanaethau gwell.

Defnyddir methodoleg gelwir yn Cynllunio Gwasanaeth i gyflawni hyn. Mae’r dull yma yn cyfuno ein profiad gwaith ieuenctid, trefnu cymunedol, cyd-gynllunio ac ymgysylltu diwylliannol, yn sail i hyn i gyd mae ein syniadau digidol creadigol.

 

Y camau cyflawnir gyda chi a’ch cymuned:

Darganfod: Creu sgyrsiau am yr hyn sydd yn bwysig. Gan ddefnyddio ymchwil cyfranogol, bydd ProMo-Cymru yn eich helpu i siarad gyda’ch cymunedau. Yn cysylltu drwy ddigidol, wyneb i wyneb, trafodaeth grŵp a gwrando ar eich arbenigedd. Bydd ein mewnwelediadau cyfunol yn ein caniatáu i weld ystod lawn eich her.

Diffinio: Rydym yn dadorchuddio mewnwelediadau ffres o’n sgyrsiau. Bydd ProMo-Cymru yn gweithio gyda chi, eich cymuned ac unrhyw hapddalwyr, yn dadansoddi ein trafodaethau ac ymchwilio i weld pa ddatrysiadau fydd yn cyflawni’r newid mwyaf. Bydd tynnu ar ein profiadau o fewnwelediadau ymddygiad a chyd-greu gwasanaeth digidol yn cynllunio’r ffordd orau ymlaen.

Datblygu: Yn gwneud mwy nag siarad. Er mwyn profi syniadau, rydym yn creu prototeipiau digidol neu gorfforol ac yn cyflwyno’r rhain i’r gymuned. Byddech yn gallu gweld sut mae pobl yn defnyddio’r hyn sydd wedi cael ei adeiladu, ac yn dysgu beth sydd yn gweithio gyda’n gilydd. Mae’r atebion gennych chi a’r bobl rydych chi’n gweithio â nhw, gallem helpu chi i’w darganfod a’u datblygu.

Cyflawni: Ar y pwynt yma, byddech eisoes wedi bod ar siwrne gan ddysgu’r hyn sydd yn gweithio ar gyfer eich cymuned. Nawr mae’n amser gweithredu. Byddem yn eich cyfarparu â’r offer, hyfforddiant a’r sgiliau sydd ei angen i lwyddo.

Am wybodaeth bellach ar Gynllunio Gwasanaeth, cysylltwch ag arielle@promo.cymru

Prosiectau yn cynnwys