Cofiwch yn ôl i 2007, lle’r oedd gwybodaeth ieuenctid a gwybodaeth gwasanaethau yng Nghaerdydd i’w gael ar bapur, yn aml mewn iaith anghyfeillgar i ieuenctid. Nid oedd yn rhwydd i bobl ifanc gael mynediad i’r wybodaeth yma pan roeddent ei angen, ac roedd gwybodaeth yn mynd yn hen yn sydyn iawn.

Roedd y wybodaeth oedd ar gael i bobl ifanc yn dod o’r top i lawr – yn cael ei ddarparu gan oedolion, “pobl swyddogol” fel arfer, oedd yn aml ddim yn cysylltu gyda gwir anghenion pobl ifanc.

Ein dull cychwynnol

Aeth TheSprout ar-lein – a mwy. Cafodd gwefan ei greu, lle i bobl ifanc rannu newyddion, syniadau, gwybodaeth, cyngor a barn. Roedd y cyngor cyfoed i gyfoed yma wedi ei danategu gan y wybodaeth ieuenctid a chyfarwyddiadau sefydliadau gellir bellach eu diweddaru a’u rhannu yn llawer rhwyddach.

Ffurfiwyd Grŵp Golygyddol TheSprout wedi ei arwain gan bobl ifanc, ac roedd hwn yn llywio cyfeiriad TheSprout ac yn cael barn ar y math o gynnwys oedd ar y wefan.

Ailddyfeisio parhaol

Mae TheSprout yn parhau i fod yn wefan gwybodaeth a blogio, ond wedi datblygu i gyd-gynllunio ymgyrchoedd gyda phobl ifanc am y pethau sydd yn bwysig iddyn nhw. Mae llwyfan TheSprout yn annog pobl ifanc i feddwl yn feirniadol, bod yn greadigol, a defnyddio’u llais i rannu eu hangerdd, am bethau fel iechyd meddwl a newid hinsawdd. Rydym hefyd yn talu rhai pobl ifanc creadigol i’n helpu.

Ers 2020 rydym wedi creu saith o ymgyrchoedd ar y cyd â phobl ifanc 11-25 yng Nghaerdydd, gan gynnwys:

#TiYnHaeddu: Perthnasau Iach

Y Dyfodol Ffeministaidd

Paid Byth ag Ildio: Chwarae Da Meddwl Positif

Mae dros 1400 o erthyglau ar wefan TheSprout ac, ar gyfartaledd, mae 290,000 yn ymweld â’r wefan a gwylio’r fideos bob mis, ac mae’n edrych yn dda hefyd! Mae bron i 9,000 yn dilyn TheSprout ar gyfryngau cymdeithasol ar draws TikTok, Instagram, Twitter a Facebook, gan ddenu pobl ifanc yng Nghaerdydd a phobl broffesiynol sydd yn dymuno’u cefnogi (ffigyrau’n wir yn 2021).

Gweithio gyda ProMo

Os oes gennych chi ddiddordeb yn gweithio gyda ni yn cyd-gynllunio ac yn datblygu gwybodaeth neu ymgyrchoedd digidol gyda phobl, cysylltwch â andrew@promo.cymru