Profiad Gwirfoddoli Yn ProMo-Cymru

by Tania Russell-Owen | 5th Chw 2019

Gwirfoddolais yn ProMo-Cymru gyda’r bwriad o wella fy mhortffolio ffotograffiaeth i fuddio fy mwriad gyrfa yn y dyfodol. Roeddwn yn ymwybodol o ProMo-Cymru yn barod, gyda syniad go dda o ba mor broffesiynol a chyfeillgar oedd y sefydliad. Treuliais ddeufis yn gwirfoddoli gyda ProMo-Cymru ac yn mwynhau pob eiliad ohono.

Cefais dasgau diddorol iawn o’r cychwyn cyntaf, dyma’n union roeddwn i eisiau pan gychwynnais yma. Derbyniais groeso mawr gan bob un o’r tîm yn y swyddfa a chael gofod fy hun hyd yn oed.

Rhan o’r tîm

Pob bore byddwn yn dal y trên (y bws hefyd weithiau) i’r swyddfa, ac roedd fy nghostau teithio yn cael eu talu pob wythnos. Roedd Dayana, Cynhyrchydd a Chyfarwyddwr Amlgyfryngau, wedi gosod cynlluniwr a chalendr ar-lein yn barod i mi gyda chyfeiriad e-bost i’w ddefnyddio’n fewnol ac allanol. Er nad oeddwn yn weithiwr ‘swyddogol’ ProMo-Cymru, teimlais groeso mawr ac yn rhan o’r tîm yn eithaf sydyn.

Mae’r swyddfa yn amgylchedd eithaf dymunol, gyda phawb yn hapus iawn i helpu pawb arall. O weld hyn, ni theimlwn ofn i ofyn am gymorth neu gyngor.

Liam, gwirfoddolwr, yn tynnu lluniau mewn sesiwn tynnu lluniau staff

Teimlo’n werthfawr

Un o fy mhrif dasgau oedd rheoli cyfrif Instagram ProMo-Cymru. Roeddwn eisiau cynyddu’r dilyniant yn ogystal â sawl un oedd yn hoffi’r postiadau, felly ymchwiliais wahanol ddulliau a rhoi tro ar bob un gan ddefnyddio’r cyfrif @promocymru nes i mi ddarganfod un oedd yn gweithio’n effeithiol. Dechreuodd y dilynwyr a’r hoffiadau dyfu’n sylweddol. Un peth trysorais oedd y ffaith mod i’n derbyn canmoliaeth yn rheolaidd am hyn, yn teimlo bod yna werthfawrogiad o’m ngwaith.

Rhywbeth gallai fod yn anodd oed y cyfieithu i Gymraeg. Mae ProMo-Cymru yn gwmni dwyieithog ond gan nad allem gyfieithu pethau’n yn syth bob tro, golygai bod rhaid cynllunio cynnwys o flaen llaw, cyfieithu ac yna’u gosod i gael eu postio dros yr wythnos. Gan nad wyf yn siaradwr Cymraeg rhugl, roedd hyn yn gallu bod yn anodd a bu camgymeriadau ar y cychwyn. Trafodais hyn gyda Dayana a rhoddwyd cynllun at ei gilydd i brofi’r cyfieithiadau ddwywaith gyda dau berson gwahanol cyn postio.

Heriau newydd

Cefais y cyfle i ymweld â Institiwt Glyn Ebwy hefyd, canolfan cymunedol yn cael ei redeg gan ProMo-Cymru. Roedd yn braf cael mynd i rywle gwahanol, er ei fod yn bell i deithio. Roedd Dayana yn help mawr unwaith eto ac yn fy ngyrru’r mwyafrif o’r ffordd adref fel na fyddai’n cymryd cymaint o amser, esiampl arall o ba mor gyfeillgar oedd y tîm (yn enwedig Dayana).

Rwyf hefyd wedi rhoi tro ar bethau newydd, fel defnyddio Adobe Premiere, recordio fideo a defnyddio WordPress. Roedd Dayana, oedd wastad yn barod i roi cyngor os oeddwn i angen arweiniad, yn egluro popeth i mi. Mae’r rhain yn ddefnyddiol ar gyfer fy ngradd ac uchelgeisiau gyrfa’r dyfodol, felly rwy’n ddiolchgar o gael y cyfle i ddysgu’r sgiliau hyn.

Lluniau staff wedi'u tynnu gan Liam, yn gwirfoddoli gyda ProMo-Cymru

Lluniau staff

Cefais y dasg o dynnu lluniau staff ar gyfer gwefan ProMo-Cymru, mwynheais gael gwneud hyn. Roedd gen i’r rhyddid i osod y stiwdio fel yr oeddwn eisiau, ac fel oedd orau ar gyfer y briff. Er bod hyn yn bwysau arnaf, roedd yn rhywbeth mwynheais yn fawr, gan nad oeddwn eisiau cael fy nghyfarwyddo’n gyfan gwbl.

Derbyniais ganmoliaeth gyson am y gwaith roeddwn i’n ei gynhyrchu, yn teimlo wedi fy ngwerthfawrogi ac yn rhan o’r tîm. Cefais roi tro ar wahanol dechnegau stiwdio a dod yn gyfarwydd gyda’r amgylchedd stiwdio hefyd.

Un broblem cefais wrth dynnu lluniau’r tîm oedd y diffyg lle yn y stiwdio. Roedd yr ystafell yn eithaf bach, ac felly’n anodd gosod y goleuadau fel yr hoffwn. Er bod hyn yn her, roedd yn gyfle i ddefnyddio sgiliau datrys problemau, a gan fod hyn yn digwydd tra roeddwn i’n tynnu lluniau, roedd rhaid meddwl am ddatrysiad yn sydyn iawn.

Penderfynu’r dyfodol

Rwyf wedi mwynhau fy amser yn ProMo-Cymru yn fawr iawn, yn fwy nag yr oeddwn wedi meddwl. Er i mi gael siwrne hir i’r swyddfa bob bore, roedd yr awyrgylch yn un hyfryd ac roedd y staff cyfeillgar yn gwneud i mi fod eisiau deffro’n fuan a theithio i Bae Caerdydd.

Gwerthfawrogais fod pawb wedi gwneud i mi deimlo mor groesawus ac yn rhan o’r tîm. Cefais fewnwelediad da i fyd creadigol nad oeddwn wedi bod yn rhan ohono gynt, a helpodd hyn i mi benderfynu beth i’w wneud yn y dyfodol.

Dysgais sgiliau a gwybodaeth ddefnyddiol iawn a gwneud ffrindiau da mewn cyfnod byr. Rwyf yn ddiolchgar iawn i’r tîm cyfan, ond yn arbennig o ddiolchgar i Dayana, yn cynnig arweiniad bob dydd ac yn datblygu fy sgiliau technegol yn sylweddol, a sicrhau mod i’n hapus o hyd. Mae’n fentor ac yn ffrind grêt. Byddaf yn colli gweithio fel rhan o’r tîm ond yn bendant yn cadw cysylltiad.

———————-

Dymunwn bob lwc i Liam yn ei ddyfodol a gobeithiwn ddod ar ei draws eto’n fuan. Os hoffech chi drafod profiad gwaith neu wirfoddol gyda ni, cysylltwch â info@promo.cymru.