Ymunodd Dayana â ProMo-Cymru dros 10 mlynedd yn ôl, yn creu ac yn datblygu adran cyfryngau sydd yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau cyfryngau dwyieithog i’r Sector Cyhoeddus a’r Trydydd Sector.
Yn flaenorol bu Dayana yn gweithio i gyfryngau newyddion cenedlaethol Sbaeneg. Bellach mae’n defnyddio dylunio, animeiddio a ffilmio i weithio gyda chymunedau a phobl i greu cyfryngau sydd yn gwneud gwahaniaeth. Mae cleientiaid yn cynnwys Llywodraeth Cymru, Adran Gwaith a Phensiynau’r DU, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd.
Mae dull Dayana tuag at weithio yn y cyfryngau yn dod o angerdd am arloesedd a chyfathrebu. Arddangosir hyn wrth ei thîm ennill Gwobr Cyfathrebiad Marchnata Gorau yng Ngwobrau Digidol Wales Online.
Cysylltu
078 7668 6496
dayana@promo.cymru