Model TYC: Meic a’r Bilsen Bore Wedyn

by Tania Russell-Owen | 21st Awst 2017

Nid o dechnoleg yn unig y daw arloesiad. Mae’n dod o ddeall sut mae pobl yn rhyngweithio â gwasanaethau. A sut i fod o werth i unigolyn.

Y dull yma sydd wrth galon ein model TYC.

Mae Meic yn wasanaeth llinell gymorth eiriolaeth, gwybodaeth a chyngor i blant a phobl ifanc yng Nghymru. Dyluniwyd y gwasanaeth i gyrraedd anghenion pobl ifanc, gan ddefnyddio model TYC ProMo-Cymru.

Gellir cysylltu â Meic ar y ffôn, neges testun a neges sydyn (IM). Mae pobl ifanc yn penderfynu’r dull hoffant gyfathrebu â’r llinell gymorth. Gellir cysylltu ag eiriolwyr gynghorwyr Meic rhwng 8am a hanner nos bob dydd.

Mae Meic yn ateb galwadau, negeseuon testun a negeseuon sydyn ar amrywiaeth eang o faterion. Yn ddiweddar, cysylltodd person ifanc mewn trallod â Meic drwy neges testun. Roeddent wedi cael rhyw anniogel ac yn poeni am ddod yn feichiog.

Roedd y person ifanc eisiau cymryd y bilsen bore wedyn. Ond roedd ganddynt ormod o gywilydd. Roeddent yn poeni am gyfrinachedd hefyd. Felly siaradom am y dewisiadau. Yna eglurwyd cyfrinachedd proffesiynol mewn termau clir.

Yna, rhannom opsiynau am ble i gael y bilsen bore wedyn. Yn dilyn hyn, archwiliwyd y canlyniadau o wneud dim. Fe wnaeth y person ifanc benderfyniad gwybodus. Penderfynom fynd i’r fferyllydd.

Graffeg gwybodaeth Model TYC ar gyfer Meic a'r bilsen bore wedyn

Ond, wedi cyrraedd, roedd y person ifanc yn parhau i fod â chywilydd siarad. Awgrymodd cynghorydd Meic iddynt ysgrifennu nodyn ar eu ffôn symudol i ddangos i’r fferyllydd.

Yn fuan wedyn cysylltodd y person ifanc â’r llinell gymorth eto. Ar ôl dangos y nodyn i’r fferyllydd, roeddent wedi bod yn gynorthwyol ac yn gefnogol iawn. Llwyddwyd cael y bilsen bore wedyn.

Dyma beth rydym ni’n ei olygu gyda arloesiad a’r model TYC. Amlygu sut i ymgysylltu a chefnogi gyda dull dynol a digidol.


Cysylltwch am ymgynghoriad am ddim

Sut gall model TYC ProMo-Cymru helpu chi i gyrraedd eich nodau? Mae gennym fersiwn Cymru a model y DU.

029 2046 2222
info@promo.cymru
@ProMoCymru