Trawsffurfiad, Ymgysylltiad a Chyfathrebiad (Model TYC)

by Tania Russell-Owen | 21st Meh 2017

Model TYC ProMo-Cymru

Mae ProMo-Cymru yn gweithio tuag at greu newid positif a pherthnasau parhaol rhwng unigolion, teuluoedd a chymunedau. Yn darparu datrysiadau arloesol a chreadigol gyda sgyrsiau ystyrlon a thechnoleg ddigidol.

Trawsffurfiad, Ymgysylltiad a Chyfathrebiad: Ein Model TYC

Mae ProMo-Cymru wedi dyfeisio model cyfathrebu digidol integredig arloesol wedi’i siapio gydag egwyddorion cydweithredol, un sydd wedi ei weithredu’n llwyddiannus gyda’n prosiectau fel TheSprout, Meic, CLIC, PwyntTeulu Cymru a Llais a Dewis Pen-y-bont ar Ogwr. Mae ein model Trawsffurfiad, Ymgysylltiad a Chyfathrebiad (TYC) unigryw yn ymgorffori gwefan, gwybodaeth a llinell gymorth eiriolaeth, neges testun, sgwrs ar-lein a chyfryngau cymdeithasol a gellir ei addasu’n hawdd i’w ddefnyddio gydag amryw gynulleidfaoedd.

Darllenwch am ein Model TYC

Lawr lwythwch lyfryn Model TYC ProMo-Cymru

Mae deddfwriaeth diweddar Llywodraeth Cymru yn pwysleisio bod rhaid i gyrff sector cyhoeddus weithio’n well gyda phobl a chymunedau a’i gilydd, atal problemau a defnyddio dull cydgysylltiedig. Mae Asesiadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yng Nghymru yn amlygu bod dinasyddion yn parhau i gael trafferthion yn darganfod ac yn cael mynediad i wasanaethau. Yn aml mae gwybodaeth yn cael ei gyflwyno mewn iaith anhygyrch gyda phwyntiau mynediad cymhleth sydd yn drysu’r defnyddwyr terfynol.

Mae gan ProMo-Cymru y wybodaeth, sgiliau a’r cynhwysedd i drosglwyddo’r gwasanaethau rydych chi ei angen yn uniongyrchol, neu gyflenwi sianeli cyfathrebu a llinellau cymorth integredig gyda sawl pwynt cysylltiad cymhleth. Mae ein strategaethau ymrwymo gyda theuluoedd sydd wedi’u hynysu yn ddigidol, daearyddol neu’n gymdeithasol yn darparu mewnwelediad gwerthfawr i’r rhwystrau a’r heriau pellach maent yn wynebu.

Gallem chwarae rhan hanfodol yn helpu chi i gyrraedd eich blaenoriaethau fel adlewyrchir yn Neddf Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Mae ein strategaethau ymrwymo gyda theuluoedd sydd yn ynysig yn ddigidol, daearyddol neu’n gymdeithasol wedi rhoi mewnwelediad gwerthfawr i’r rhwystrau a’r heriau pellach sydd yn eu hwynebu. Mae ProMo-Cymru yn bwriadu adeiladu ar lwyddiant ein hymdrechion ataliad ac ymyriad cynnar, i ddarparu’r ymateb cywir y tro cyntaf ac i barhau i hyrwyddo a hwyluso gwydnwch dinasyddion, teuluoedd a chymunedau.

Cysylltwch am ymgynghoriad rhad ac am ddim

Mae ProMo-Cymru yn croesawu unrhyw adborth a byddem yn datblygu dulliau sydd yn galluogi pobl i gyfrannu i siapio’r model TYC ymhellach. Os hoffech siarad ymhellach yn y cyfamser yna cysylltwch:

029 2046 2222
marco@promo.cymru
@ProMoCymru