by Andrew Collins | 1st Awst 2023
Cyfle cyffrous i ymuno â thîm ProMo-Cymru fel Swyddog Datblygu Cyllid, yn cefnogi ac yn gwella ein swyddogaethau cyllid canolog a chefn swyddfa.
Amdanom Ni:
Mae ProMo-Cymru yn elusen gofrestredig gyda changen masnachu. Fel sefydliad, rydym yn gweithio i sicrhau bod pobl ifanc a chymunedau yn cael eu hysbysu, eu hymgysylltu, eu cysylltu â’u clywed.
Dysgwch fwy am ProMo-Cymru ar www.promo.cymru
Y Swydd:
Yn adrodd i’n Rheolwr Cyllid, byddwch yn ein cynorthwyo i gynnal a gwella ein swyddogaethau cyllid. Rydym yn chwilio am rywun sydd ag egni, syniadau, ac agwedd bositif, gallu-gwneud. Byddwch yn ymuno ac yn cyfrannu at dîm blaengar o bobl a sefydliad sydd yn ceisio gwella bywydau unigolion a chymunedau.
Gwybodaeth Ychwanegol
– Cyflog cychwynnol – £24,410 yn gweithio 35 awr yr wythnos
– Gwyliau – 23 diwrnod yn ogystal â gwyliau cyhoeddus
– Lwfans ffôn symudol
– Oriau a threfniadau gweithio hyblyg
– Gweithio hybrid
Sut i Wneud Cais
Gyrrwch ffurflenni cais electroneg i: info@promo.cymru
Dyddiad cau – 11eg Awst am 5yh
Cyfweliadau – wythnos yn cychwyn 21ain Awst