by Tania Russell-Owen | 20th Meh 2019
Chwilio am ofod swyddfa ym Mae Caerdydd bywiog mewn adeilad gyda sefydliadau o’r un meddylfryd? Mae gan ProMo-Cymru ofod i’w rhentu mewn swyddfeydd sydd newydd eu hailwampio.
Mae ProMo-Cymru, elusen gofrestredig a menter gymdeithasol, yn gweithio i sicrhau bod pobl ifanc a chymunedau yn wybodus, yn gysylltiedig ag yn cael eu clywed. Rydym yn cydweithio i greu cysylltiadau rhwng pobl, gwasanaethau ac awdurdodau. Rydym yn arweinwyr mewn defnyddio digidol er lles cymdeithasol, yn cefnogi’r trydydd sector a’r sector cyhoeddus i ddychmygu, profi a chreu gwasanaethau gwell. Yn dilyn blynyddoedd o drosglwyddo prosiectau gwybodaeth ieuenctid digidol, rydym wedi datblygu ein gwaith gyda chymunedau drwy gyfathrebiadau, eiriolaeth, ymgysylltu diwylliannol a chynhyrchu cyfryngau. Rhannir y wybodaeth yma drwy hyfforddiant ac ymgynghoriad, yn ffurfio partneriaethau tymor hir i fuddio pobl a sefydliadau.
Mae adeilad ProMo-Cymru wedi’i leoli mewn cwrt ar Stryd Gorllewin Bute, Bae Caerdydd. Mae yna gysylltiadau trafnidiaeth wych – gellir cerdded i orsaf trên Bae Caerdydd mewn 3 munud ac i’r Senedd mewn 5 munud.
Mae’r adeilad yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd gan ProMo-Cymru a Chymdeithas yr Ymddiriedolaeth Datblygu Cymru.
Gofod ar gael i’w rhentu
Mae’r swyddfeydd sydd ar gael i’w rhentu yn amrywio mewn maint, pob un gyda mynediad i’n cegin gymunedol a gofod cymdeithasol mawr. Mae yna gyfleusterau cyfarfod yn yr adeilad hefyd, gyda offer thaflunio a fideo-gynadledda a band llydan cyflym.
Mae yna dri gwahanol opsiwn, gyda chostau amrywiol:
1 – Ystafell llawr isaf gyda mynediad ar wahân ei hun. £355 troedfedd sgwâr. Costau rhent o £3,550 y flwyddyn (ynghyd â TAW).
2 – Swyddfa fach ar y trydydd llawr. 161 troedfedd sgwâr. Costau rhent o £1,610 y flwyddyn (ynghyd â TAW).
3 – Swyddfa fach ar y trydydd llawr. 140 troedfedd sgwâr. Costau rhent o £1,400 y flwyddyn (ynghyd â TAW).
Fel canllaw, mae costau rhent yn £10 y droedfedd sgwâr ynghyd â TAW. Mae taliadau gwasanaeth tua £3 y droedfedd sgwâr ynghyd â TAW.
Gellir rhentu ystafelloedd yn unigol neu fel grŵp.
Mae yna fand llydan a gellir ychwanegu ffonau llais dros y Rhyngrwyd fel rhan o’r pecyn.
Gallem gynnig trefniadau trwydded hyblyg gyda threfniadau mewn ac allan hawdd.
Cysylltwch
Os oes gennych chi ddiddordeb, neu eisiau gwybodaeth bellach am yr adeilad edrychwch ar dudalen llogi ystafelloedd neu cysylltwch â John Mckernan ar 07968 111636 neu john@promo.cymru
Mae popeth yn cychwyn gyda sgwrs
Mae ProMo-Cymru yn gweithio tuag at greu newid positif a pherthnasau parhaol rhwng unigolion, teuluoedd a chymunedau. Rydym yn darparu datrysiadau arloesol a chreadigol gyda sgyrsiau ystyrlon a thechnoleg ddigidol. Os hoffech drafod sut gall ein Model TYC helpu eich sefydliad yna cysylltwch.