Genedigaeth Radio Platfform

by Arielle Tye | 8th Chw 2018

Mae ProMo-Cymru wedi bod yn gweithio ar brosiect cyffrous gyda Chanolfan Mileniwm Cymru i ddatblygu gorsaf radio wedi’i arwain gan bobl ifanc. Am dros flwyddyn rydym wedi bod yn hyfforddi pobl ifanc mewn Darlledu Radio. Yn eu paratoi i gyflwyno sioeau eu hunain a’u hannog i gael llais ar y pethau sy’n bwysig iddyn nhw.

Mae beth gychwynnodd fel peilot yn ystod Gŵyl y Llais 2016 wedi datblygu i beth ydyw heddiw. Ers y cychwyn, rydym wedi hyfforddi dros 40 o bobl ifanc, 19 ohonynt wedi ennill cymhwyster Agored Cymru mewn Paratoi i Gyflwyno Darlledu ar y Radio.

Criw Radio Plattform yn y stiwdio

Dyma’r hanes gan Daniel Edwards, un o’r bobl ifanc cyntaf i dderbyn hyfforddiant yn ôl yn 2016. Dyma ei siwrne:

10 Diwrnod Ym Mehefin 2016

Y gwres annioddefol

Y peth dwi’n ei gofio fwyaf am y dyddiau yma ydy’r gwres. Gwres yr ystafell hyfforddi, gwres y lleoliadau, gwres tu allan, gwres wrth fynd i gysgu yn y nos, ond fwyaf oll, y gwres yn y bwth – roedd hwn ar lefel hollol wahanol. Roedd yn fath o wres nad oedd yn gwella rhyw lawer wrth agor y drws rhwng darnau.

Mae’r un gwres yn dal i fedru effeithio arnaf weithiau yn y bwth yna. Rydych chi’n gwneud eich peth, yn cyflwyno’r sioe, yn ceisio canolbwyntio ar sawl peth. Y lefelau sain, y dewis nesaf ar y rhestr chwarae, y person hen sy’n pasio ambell waith (ychydig iawn ohonynt sy’n ifanc) yn busnesu ar beth rydych chi’n ei wneud cyn symud ymlaen.

Ond rydym wedi dod i’r arfer â hynny, yn enwedig gan nad oes cymaint ohonom yn y bwth ar yr un adeg bellach wrth greu sioe. Yn ystod y 10 diwrnod yna yn fis Mehefin 2016 pan gychwynnodd Radio Platfform ddarlledu, yr unig gynulleidfa bendant oedd y rhai oedd yn pasio drwy Ganolfan Mileniwm Cymru (CMC), neu’r staff o ProMo-Cymru yn eistedd yn eu swyddfa yn gwrando dros chwaraewr y we.

Recordio yn stiwdio Radio Platfform

Hyfforddiant Radio

Roedd yn newydd, yn gyffrous, ond yn fwy na hynny, roedd yn antur. Roeddwn i wedi gwneud chwe wythnos o brofiad gwaith yn theSprout, cangen o ProMo-Cymru. Gofynnodd un o’r staff, Arielle Tye, os hoffwn gymryd rhan mewn cwrs radio ieuenctid. Bydda hyn yn golygu darlledu yn ystod Gŵyl y Llais gyda’r CMC. Ar ddiwedd hynny byddem yn derbyn achrediad.

Roeddwn yn amheus o’r peth ar y cychwyn. Hyd yn oed nawr, dyw radio ddim yn ryw angerdd mawr. I ddweud y gwir nid wyf yn dewis gwrando ar y radio. Yr unig sioe radio i mi ddangos diddordeb ynddo oedd Lou Reed’s Underground Music Show. Roedd hwn yn cael ei ddarlledu ar Radio 6 ar ddydd Sul am hanner nos. Mae hyn yn dangos pa mor od o ddewis ydyw, ac yn dangos pa fath o gerddoriaeth dwi’n hoffi.

Ond, dwi’n hawdd i’m mherswadio ac nid wyf wedi edrych yn ôl ers hynny. Nid oedd yr hyfforddiant bryd hynny’r un mor fanwl â’r hyfforddiant heddiw. Yn hytrach nag chymryd 6 wythnos i wneud y gwaith, roedd rhaid gwasgu’r holl gwrs i mewn i ddau ddiwrnod llawn chwys ar gychwyn mis Mehefin.

Recordio yn stiwdio Radio Platfform gyda Ariell Tye

Gŵyl y Llais

Er pa mor gyffrous oedd hyn, roedd natur frysiog yr hyfforddiant wedi achosi i mi deimlo’n bryderus. Nid oedd gen i ffydd yn fy ngallu i lywio’r ddesg cymysgu a’r bwrdd sain fydda’n cael ei ddefnyddio. Cychwynnodd Gŵyl y Llais ar 10fed Mehefin 2016 a gorffennodd 10 diwrnod wedyn ar 19eg Mehefin, Roedd yn ddeg diwrnod prysur iawn, nid yn unig i ni ym mhrosiect Radio Platfform, ond i Gaerdydd ar y cyfan.

Wrth edrych ar fy nyddiadur yn y cyfnod byr yma, rwyf yn cofio’r sawl digwyddiad rhyfeddol. Roedd rhai yn ddoniol, rhai yn llesteirio, ond pob un yn werth ei gofio, Daeth y cwrs i ben gyda Gŵyl y Llais.

I nodi’r digwyddiad cawsom ddiod oer braf mewn tafarn gerllaw. Roedd y sgwrs dilynodd yn un o’r rhai mwyaf goleuedig ac od i mi ei gael erioed. Roeddwn yn berson mwy doeth, mwy gwybodus, ar ddiwedd y profiad. Ac wedi gwneud ffrindiau newydd yn y broses.

Cyfarfod tîm Radio Platfform

Dyfodol i Radio Platfform

Ar ôl y profiad o Ŵyl y Llais ni ddychmygais y byddwn yn clywed mwy gan Radio Platfform. Y 10 diwrnod byr yna fydda ddiwedd y stori. Ond chwe mis wedyn, ar fore oer ym mis Rhagfyr 2016, daeth galwad gan Jason Camilleri. Roedd gan Radio Platfform ddyfodol ac yn y CMC oedd y dyfodol hwnnw.

Bellach mae’n fis Chwefror 2018 ac ar ôl sawl mis o gyfarfodydd, e-byst, grwpiau Facebook a mwy o gyfarfodydd, mae Radio Platfform wedi bod yn darlledu ers mis Mai 2017. Cychwynnodd gyda dim ond chwe pherson mewn dau grŵp, yn hyfforddi ac yn recordio sioeau â’i gilydd.

Heddiw rydym wedi hyfforddi 25 o bobl anhygoel sydd wedi aros i recordio sioeau gyda ni. Ymysg ein niferoedd mae gennym ni: artistiaid geiriau llafar; beirdd; rapwyr; darpar newyddiadurwyr; ysgrifenwyr; artistiaid a llawer mwy o bobl ifanc hynod dalentog. Rydym yn siarad am y pethau sydd yn bwysig i ni, yn chwarae’r gerddoriaeth rydym ni’n ei garu ac yn tyfu’n gryfach pob dydd.

Darganfod mwy

Gwrandewch ar Radio Platfform ar Mixcloud

Dilynwch @radioplatfform ar Twitter am y newyddion diweddaraf

Hoffwch Radio Platfform ar Facebook

Os hoffech ddarganfod mwy am Radio Platfform, cysylltwch â Arielle@promo.cymru.

Os fwynhaoch chi’r erthygl hon a gyda diddordeb yn y gwaith rydym ni’n ei wneud yma yn ProMo-Cymru yna edrychwch ar ein herthyglau eraill yn yr adran Newyddion.


Mae popeth yn cychwyn gyda sgwrs

Mae ProMo-Cymru yn gweithio tuag at greu newid positif a pherthnasau parhaol rhwng unigolion, teuluoedd a chymunedau. Rydym yn darparu datrysiadau arloesol a chreadigol gyda sgyrsiau ystyrlon a thechnoleg ddigidol. Os hoffech drafod sut gall ein Model TYC helpu eich sefydliad yna cysylltwch.

029 2046 2222
info@promo.cymru
@ProMoCymru