by promocymru_admin | 21st Meh 2022
Casglodd staff ProMo-Cymru at ei gilydd fel tîm cyfan am y tro cyntaf ers cyn y pandemig i rannu syniadau, i dreulio amser yng nghwmni ei gilydd ac i ddychmygu’r dyfodol.
Caniataodd y digwyddiad dau ddiwrnod i staff ddod at ei gilydd yng Nglynebwy ac ym Mae Caerdydd yn fis Mai, gyda phwyslais ar yr elfen gymdeithasol ar ôl blynyddoedd ar wahân.
Diwrnod 1 yn EVI
Cynhaliwyd y diwrnod cyntaf yn ein canolfan gymunedol a diwylliannol yng Nglynebwy, EVI (Institiwt Glynebwy). Achubodd ProMo yr adeilad hanesyddol rhag cael ei ddymchwel yn 2008.
Mae llawer o waith wedi bod yn digwydd yn y cefndir tra bod EVI ar gau i’r cyhoedd yn ystod Cofid. Diolch i gyllid Cronfa Adnewyddu Cymunedol y DU, bu llawer o ddatblygiad yn y ganolfan. Roedd staff ProMo wrth eu boddau yn cael cyfle i weld y ganolfan ar ei newydd wedd, yn parhau i arloesi 173 mlynedd yn ddiweddarach.
Treuliom y diwrnod yn chwilota adeilad EVI, rhannu syniadau, chwarae ProMonopoly a mwynhau amser cymdeithasol gyda phryd o fwyd o’r tŷ cyri drws nesaf, a chomedïwr lleol.
Diwrnod 2 yn y Bae
Parhaodd Dyddiau Dychmygu ProMo yn ein swyddfeydd yn y Bae. Dyma ddiwrnod arall o ail-gysylltu, ail-gyfarwyddo ein hunain gyda phrosiectau’n gilydd a chydnabod yr holl waith gwych gan dîm ProMo. Roedd cyfle i fod yn greadigol wrth gymryd rhan mewn sesiwn i ddychmygu brandio newydd ar gyfer ProMo a thrafod dyfodol gweithio hybrid.
Buom yn adlewyrchu ar ein hymateb chwim i’r pandemig, ein hyfforddiant digidol ar gyfer mudiadau trydydd sector, a buom yn rhannu bwyd (eto!) ac yn sgwrsio wrth fynd am dro o gwmpas Bae Caerdydd yn yr haul braf.
Egnïol a phositif
Roedd staff yn teimlo’n llawn egni ar ôl cyfarfod eto wedi amser maith ar wahân, ac yn gwerthfawrogi’r cyfle i gymdeithasu wrth gasglu syniadau a dychmygu dyfodol ProMo-Cymru.
Rwy’n llawn egni ar ôl treulio dau ddiwrnod gyda chyd-weithwyr. Mae’r egni cyfunol, yr angerdd a’r creadigrwydd wedi fy llorio
Arielle Tye, Pennaeth Datblygiad
Mae’n wych i gael sgyrsiau wyneb yn wyneb a rhyngweithio unwaith eto – egni, ffocws a phositifrwydd gwych.
Dean Flowers, Swyddog Cefnogi Ymgysylltiad
Am brofiad egnïol! Roedd gweld cyd-weithwyr eto, ac nid fel wynebau ar y sgrin yn unig, yn cryfhau ein perthynas fel cydweithwyr a ffrindiau. Roedd y sesiynau dychmygu yn llawn syniadau newydd a chreadigrwydd. Roedd yn wych i deimlo angerdd pawb tuag at eu gwaith ac at ei gilydd.
Halyna Soltys, Ysgrifennwr a Chynhyrchydd Cynnwys
Mae’n deg i ddweud ein bod wedi cyrraedd nod y ddau ddiwrnod. Roedd staff yn teimlo’n fwy cysylltiedig ac yn edrych ymlaen at weithio gyda’i gilydd wrth fynd ymlaen, i wneud yn siŵr fod pobl ifanc a chymunedau yn wybodus, yn gysylltiedig, ac yn cael eu clywed.