by Tania Russell-Owen | 24th Meh 2020
Mae Meic, y llinell gymorth i blant a phobl ifanc sydd yn cael ei gynnal gan ProMo-Cymru, wedi ei gynnwys fel adnodd mewn Pecyn Cymorth Iechyd Meddwl datblygwyd gan Lywodraeth Cymru.
Dros y 10 mlynedd diwethaf mae Meic wedi bod yn ffynhonnell gwybodaeth a chefnogaeth i rai dan 25 oed yng Nghymru. Pan gychwynnodd y pandemig, camodd Meic ymlaen a chynhyrchu cynnwys Covid penodol i daclo unrhyw faterion y daw o’r cyfyngiadau Coronafeirws.
Barod am y cloi mawr
Pan gychwynnodd cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru a Phrydain ar 24 Mawrth, roedd rhith ganolfan galw Meic yn caniatáu i’r llinell gymorth barhau heb unrhyw doriad mewn gwasanaeth. Roedd ProMo-Cymru yn barod i ymdopi gyda’r staff i gyd yn newid i weithio o adref. Roeddem yn brysurach nac erioed yn paratoi adnoddau i weithwyr proffesiynol (ein Hadnoddau Digidol ar gyfer y trydydd sector a’r sector ieuenctid yng Nghymru #Covid-19) ac yn cynyddu ein hallbwn ar wefan Meic (holl erthyglau Covid-19 i’w gweld yma.)
Y pecyn iechyd meddwl
Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu’r pecyn cymorth sydd ar gael i bob person ifanc drwy Hwb. Hwb yw’r platfform digidol ar gyfer dysgu ac addysgu yng Nghymru. Bydd y mwyafrif o bobl ifanc yn gyfarwydd â’r platfform gan mai hwn defnyddir i gael mynediad i waith ysgol.
Mae yna chwe chategori i’r Pecyn Cymorth Iechyd Meddwl Pobl Ifanc:
– Coronafeirws a’ch lles
– Argyfwng
– Gorbryder
– Cadw’n Iach
– Hwyliau isel
– Profedigaeth a cholled
Bydd pob un o’r categorïau yma yn rhoi rhestr o wefannau ac apiau hunangymorth, llinellau cymorth a phethau eraill gall helpu i gefnogi iechyd meddwl a llesiant.
I gael mynediad i’r pecyn cymorth cliciwch yma. Gall unrhyw un gael mynediad i’r pecyn, nid oes rhaid cael cyfrif Hwb.
Ymateb i’r pandemig coronafeirws
Wedi’i lansio ar gyfer pobl ifanc 11-25 oed gan Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg, a Vaughan Gething, Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Bwriad y pecyn cymorth ydy ymateb i’r effaith gall Covid-19 ei gael ar lesiant emosiynol a meddyliol yn y cyfnod heriol yma.
Mae’r pecyn yn hawdd ei ddefnyddio ac yn casglu rhestr o adnoddau at ei gilydd ymhob categori, gyda disgrifiad byr o’r hyn mae pob gwasanaeth yn ei ddarparu a dolen i’r gwasanaeth.
Bydd y pecyn cymorth yn cael ei ddiweddaru ac yn datblygu i unrhyw newidiadau fel sydd ei angen.
Cysylltu â Meic
Os ydych chi’n adnabod unrhyw blant neu bobl ifanc fydda’n buddio o wasanaeth llinell gymorth Meic, rhannwch y manylion cyswllt os gwelwch yn dda. Agored bob dydd, 8yb tan hanner nos ar gyfer cefnogaeth, gwybodaeth ac eiriolaeth.