Meic

Trosolwg

Yn aml mae plant a phobl ifanc yn wynebu anawsterau ac maent angen help â rhai materion fel perthnasau (gyda theulu, ffrindiau, athrawon, gweithwyr cymdeithasol…), iechyd corfforol a meddyliol, lles emosiynol ac addysg. Os nad ydynt yn gwybod ble i fynd am gymorth, neu yn ei chael yn anodd mynegi eu hunain, neu’n teimlo nad oes neb yn gwrando, gall y problemau yma fynd yn waeth, ac arwain at sefyllfa o niwed neu risg i’r plentyn neu berson ifanc.

Ein Dull

Cyflwynodd ProMo-Cymru llinell gymorth eiriolaeth gyffredinol yn llwyddiannus – y cyntaf o’i fath yn y DU – yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Wedi’i sefydlu yn 2010, mae Meic yno fel “rhywun ar dy ochr” ac yn adnodd gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth arweiniol yng Nghymru i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed. Gwasanaeth llinell gymorth gyfrinachol, am ddim, gellir cysylltu ar y ffôn, neges testun, neges wib ac e-bost o 8yb tan hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos. Mae Meic yn sicrhau bod llais y plentyn/person ifanc yn cael ei glywed ac yn cael ei weithredu arno, yn caniatáu gwneud penderfyniadau gwybodus a newid. Mae Meic yn cefnogi ac yn hyrwyddo lles a diogelwch plentyn neu berson ifanc.

Canlyniad

Mae Meic wedi ymdrin â dros 71,000 o broblemau wedi’u cyflwyno gan bron i 56,000 o gysylltiadau (ffigyrau’n gywir mis Mawrth 2021), ac yn cael ei ystyried fel cyfrannwr hanfodol i daclo tlodi, hyrwyddo hawliau plant, a darparu ymyriad cynnar ac ataliad. 

Y pum prif fater, ar hyn o bryd, sydd wedi’i gyflwyno dros fywyd y prosiect ydy:

Perthnasau heblaw am deulu
Iechyd meddwl
Perthnasau teuluol
Hawliau a dinasyddiaeth
Iechyd Corfforol

Mae Meic yn darparu gwasanaeth hanfodol sy’n agored i blant a phobl ifanc yn ogystal â’r rhai sydd yn gweithio, gofalu neu’n poeni amdanynt.

Gwefan: meic.cymru/cym
Ffôn: 02920 004787
E-bost: help@meic.cymru

facebook2   twitter   youtube

Mae llinell gymorth Meic yn agored o 8yb tan hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos. Cysylltwch â Meic ar y ffôn, neges testun a neges wib. Am wybodaeth bellach ymwelwch â meic.cymru

Nid allem bwysleisio’r pwysigrwydd dylai gosod ar eiriolaeth ddigon, i sicrhau ein bod yn gwrando ar ein plant a phobl ifanc pam maent yn dweud bod rhywbeth o’i le, pan fyddant angen cymorth, pan maen nhw eisiau i rywun wrando, pan fydd penderfyniadau allweddol yn cael eu gwneud sydd yn cael effaith arnynt, a pan fyddant angen rhywun ar eu hochr””

Cyd-ddatganiad gweinidogaethol gan Jeff Cuthbert (Gweinidog Cymunedau a Thaclo Tlodi) a Gwenda Thomas (Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol).