Mae ProMo’n Caru… Franz

by Andrew Collins | 17th Gor 2017

Tudalennau Facebook, Twitter, Whatsapp, Slack, Messenger, Gmail… os ydych chi’n defnyddio o leiaf dau o’r rhain, gadewch i mi’ch cyflwyno i’ch ffrind pennaf newydd Franz.

Ym Mhrif Swyddfa ProMo-Cymru, rydym yn caru cyfryngau cymdeithasol. Rydym wrth ein boddau yn cyfathrebu ag eraill a rhannu peth o’r gwaith sydd yn cael ei wneud gan ein prosiectau a’n partneriaid.

Ond ar y llaw arall, nid ydym yn hoff o’r holl amser mae hyn yn ei gymryd i’w wneud.

Os ydych chi wedi ceisio defnyddio Chrome, IE neu Safari i reoli sawl tudalen cyfryngau cymdeithasol ar gyfer prosiectau gwahanol, byddech yn deall ein pwynt yn iawn. Os ydw i eisiau rhannu blog diweddaraf ProMo a sgwrsio gyda phobl sydd yn gadael sylwadau ac yn ymateb, hawdd. Mae’n dod yn anoddach pan fyddaf eisiau gwneud yr un peth i PwyntTeulu Cymru, a Meic, TheSprout. Rydym yn ddwyieithog hefyd, felly rhaid sicrhau bod fersiynau Cymraeg a Saesneg o’n holl bostiadau cyfryngau cymdeithasol. Os ydych chi’n cyfrif y rhain i gyd mae’n gallu drysu rhywun yn eithaf sydyn.

Mae’n boen gorfod newid rhwng cyfrifon a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol i reoli’r gwahanol brosiectau. Y dewis arall ydy degau o borwyr, pob un wedi logio i mewn fel rhywbeth gwahanol, yn agored drwy’r adeg ac yn bwyta’r CPU (uned brosesu ganolog) gwerthfawr i gyd.

Dwedwch Helo wrth Franz

Ia, yn dechnegol mae hwn o fewn rhaglen negeseuo arall, ond gadewch i mi esbonio…

Mae Franz yn caniatáu i chi ychwanegu pob gwasanaeth sawl gwaith. Mae hyn yn gwneud Franz yn declyn perffaith i reoli sawl cyfrif busnes a phersonol ar yr un pryd. Gallech chi hyd yn oed defnyddio pum cyfrif Facebook Messenger ar yr un pryd, os oes rheswm anesboniadwy yn eich annog i wneud hynny.

Un ffenestr, sawl cyfrif, sawl rhwydwaith. Mae fel petai wedi’i greu’n arbennig i’r rhai ohonom yn y trydydd sector!

Mae Franz yn cefnogi 24 o rwydweithiau/teclynnau ar hyn o bryd, gan gynnwys y gwasanaethau mawr i gyd. Mae’r llyfrgell yn ehangu o hyd. Edrychwch ar y rhestr lawn isod:

Franz App List for ProMo Blog

Yn ogystal â bod yn wasanaeth am ddim, ni fydd Franz byth yn darllen unrhyw beth rydych chi’n ei deipio, gyrru nac derbyn. Golygai hyn ei fod yn berffaith i’ch bywyd cartref ac/neu eich cyfrifon gwaith. Mae’n gweithio ar Windows, Mac a Linux.

Mae’n datrys gwir broblemau rheolaidd sydd yn wynebu cyfathrebwyr y trydydd sector pob dydd.

Wedi defnyddio Franz am dros fis bellach, dwi wrth fy modd gyda hwn. Mae’n datrys gwir broblemau rheolaidd sydd yn wynebu cyfathrebwyr y trydydd sector pob dydd. Mae ceisio monitro sawl cyfrif dros sawl gwefan yn gallu drysu rhywun ac arwain at gamgymeriadau – negeseuon Saesneg wedi’i bostio ar dudalennau Cymraeg, er esiampl – ond mae’r eglurder yn gallu helpu chi i osgoi’r fath gamgymeriadau.

Ychwanegwch yr hysbysiadau ar eich cyfrifiadur am negeseuon a sylwadau newydd, neu rywun yn rhannu rhywbeth, ac mae wir yn declyn perffaith.

Lawr lwythwch y meddalwedd am ddim o’u gwefan.


Pwy yw’r awdur? Andrew Collins ydy Swyddog Cyfathrebu a Phartneriaethau ProMo-Cymru, yn goruchwilio a chyfrannu i gynnwys ar-lein cynhyrchir gan PwyntTeulu, Meic a ProMo-Cymru. Yn arbenigo mewn cynnwys cyfryngau cymdeithasol a dadansoddi, mae wedi graddio mewn Saesneg, yn athro cymwysedig ac yn ddyluniwr gwe.

Diddordeb mewn gweithio gydag Andrew, neu fynychu gweithdy cyfryngau cymdeithasol? Cysylltwch â andrew@promo.cymru.