Sut i Ychwanegu Instagram i’ch Postiadau Wedi’u Hybu

by ProMo Cymru | 26th Medi 2016

Ysgrifennwyd gan Dan Grosvenor

Mae Postiadau Wedi’u Hybu Facebook yn ffordd cost effeithiol i gyrraedd cynulleidfa targed, ac mae newydd gael gwelliant.

Mae’r cynnwys rydych chi’n rhoi hwb iddo ar Facebook bellach yn gallu ymddangos ar Instagram hefyd, gan agor cynulleidfa ehangach eto heb dalu’n ychwanegol (mae’n cymryd peth o’r gyllideb sydd wedi’i glustnodi ac yn dargyfeirio peth ohono i Instagram, gyda’ch caniatâd). Mae’n syniad da i osod hyn: ers ychwanegu Instagram i bostiadau Meic mae’r prosiect wedi gweld cymaint o gynnydd yn y bobl ifanc sy’n ymateb fel bod rhaid troi’r hysbysiadau symudol i ffwrdd – yn mynd o gyfartaledd o 36 ‘hoffi’ Instagram mewn mis i dros 2,000!

Sut i’w osod:

Bydd angen Facebook Page a chyfrif Instagram (mae’r ddau am ddim ac yn cymryd ychydig funudau i’w creu). I gysylltu’r ddau ewch i osodiadau’ch Tudalen Facebook, dewis Hysbysiadau Instagram a mewngofnodi i’ch cyfrif Instagram.

connect

Proffiliau Busnes (“Beth am fy nghyfrif personol?”)

Os ydych chi’n defnyddio Instagram yn bersonol efallai eich bod wedi ceisio’i gyfuno gyda chyfrif proffesiynol yn barod. Roedd trafferthion mawr gyda’r fersiynau cynnar; hyd yn oed ar ôl ychwanegu cefnogaeth aml gyfrifon roedd yna dueddiad cythruddol lle’r oedd yn postio i’ch Facebook personol.

businessaccount

Yn ffodus mae fersiwn diweddaraf y rhaglen bellach yn cefnogi proffiliau busnes un pwrpas. Ewch i’r siop apiau a sicrhau bod Instagram yn gyfoes. Agorwch ef a chlicio ar y 3 dot yn y gornel dde ar frig y dudalen a sgrolio i lawr i ‘Ychwanegu Cyfrif’. Mewngofnodwch fel (neu greu) eich cyfrif gwaith.

Unwaith i chi fewngofnodi, cliciwch y 3 dot yn y gornel eto. Sgroliwch i lawr i ‘Newid i Broffil Busnes’. Bydd posib i chi bostio i dudalen Facebook nawr yn hytrach nag proffil yn unig.

A business profile allows you to access stats within the app

Mae proffil busnes hefyd yn caniatáu i chi gael mynediad i ystadegau.

Dechreuwch Instagramio

Nawr rydych chi’n barod. Y tro nesaf i chi hybu delwedd ar Facebook – os yw’r dimensiynau yn iawn (mae’n well gan Instagram ddelweddau sgwâr) – byddwch yn gweld opsiwn Instagram ychwanegol.

This image is too wide, so the Instagram option doesn't appear

Mae’r ddelwedd yma yn rhy lydan, felly nid yw’r opsiwn Instagram yn ymddangos.

Now that we've used an image the right size, an Instagram tab appears

Gan ein bod wedi defnyddio delwedd o’r maint cywir, mae’r tab Instagram yn ymddangos.

Gwnewch yn sicr eich bod yn cynnwys dolen ac ychydig o destun gyda’r ddelwedd ac yna byddech chi’n barod!

Awgrym: Yn wahanol i Facebook, nid fydd y delweddau wedi’u hybu yn ymddangos ar eich ‘llinell amser’ Instagram. Felly cofiwch ychwanegu cynnwys yn y ffordd arferol hefyd neu nid fydd am eich dilyn.

Edrychwch ar awgrymiadau cyfryngau cymdeithasol eraill