Rhannu Negeseuon Diogelwch Hanfodol

by Tania Russell-Owen | 15th Meh 2021

Ers sawl blynedd bellach mae’r llinell gymorth Meic, sydd yn cael ei redeg gan ProMo-Cymru, wedi bod yn cymryd rhan yn Criw Craff, digwyddiad sydd yn teithio i ysgolion i rannu gwybodaeth diogelwch pwysig gyda phobl ifanc. Ond eleni, oherwydd y pandemig Covid, mae hyn yn digwydd trwy ffrwd fideo byw.

Mae Criw Craff (Crucial Crew), yn rhwydwaith o amryw asiantaeth, elusen a sefydliad sydd yn cyflwyno gweithdai ABaCh rhyngweithiol i ysgolion gyda’r bwriad o rannu negeseuon diogelwch pwysig gyda disgyblion blwyddyn 6 neu Flwyddyn 7. Maent yn cyrraedd oddeutu 20,000 o bobl ifanc yng Nghymru bob blwyddyn. Mae Meic yn un o sawl asiantaeth sydd yn derbyn gwahoddiad i ryngweithio gyda phobl ifanc yn y ffordd yma. Mae rhai eraill yn cynnwys yr Heddlu, Asiantaeth Safonau Bwyd, Network Rail a’r Groes Goch ymysg sawl arall. Mae’n gyfle gwych i hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth o wasanaethau a negeseuon pwysig.

Cyfnod clo

Roedd cyfnodau clo llynedd yn golygu nad oedd posib cynnal sesiynau’r Criw Craff ond eleni mae trefniadau gwahanol wedi’u gwneud fel bod pobl ifanc yn parhau i dderbyn y wybodaeth hanfodol yma. Mae’r sesiynau wedi bod yn digwydd dros fideo ers i’r ysgolion ail-agor eleni, gyda’r asiantaethau yn teithio i leoliad canolog ac yn cyflwyno sesiynau o flaen y camera. Mae hwn wedyn yn cael ei ffrydio’n fyw i’r dosbarth dros Microsoft Teams. Mae posib rhyngweithio gyda’r bobl ifanc hefyd ac yn rhoi’r cyfle iddynt ofyn cwestiynau.

Y sesiwn

Mae sesiynau Meic yn canolbwyntio ar eiriolaeth, ac yn sicrhau bod y bobl ifanc yn ymwybodol o’u hawl i siarad, a bod rhaid i weithwyr proffesiynol ystyried eu teimladau, meddyliau a barn wrth wneud penderfyniadau sydd yn cael effaith ar eu bywydau. Rydym hefyd yn rhoi gwybodaeth am y CCUHP i roi gwybodaeth bellach iddynt am eu hawliau fel person ifanc. Mae fideo yn cael ei ddangos sydd wedi cael ei greu yn arbennig ar gyfer sesiynau’r Criw Craff gan dîm amlgyfryngau ProMo-Cymru. Mae’r fideo’n gosod senario am eiriolaeth ac yn rhoi gwybodaeth am Meic, y gwasanaethau cynigir a sut i gysylltu. Mae fersiwn Cymraeg a Saesneg o’r fideo a gellir ei weld ar sianel YouTube Meic.

Mae’r tîm Meic yn edrych ymlaen at y posibilrwydd o fynychu sesiynau Criw Craff wyneb i wyneb cyn y gwyliau haf.

Gwybodaeth bellach

Ewch draw i’n tudalennau prosiect i ddysgu mwy am Meic. I gael y wybodaeth ddiweddaraf am weithgareddau a blogiau Meic ymwelwch â’r wefan a dilynwch ar Twitter, Facebook neu Instagram. Dilynwch y Criw Craff ar Twitter am fanylion y digwyddiadau. Os hoffech ddysgu mwy am y sesiynau Criw Craff, neu am wasanaeth Meic, cysylltwch â dean@promo.cymru.