Cyngor Facebook – Proffil Facebook Proffesiynol

by ProMo Cymru | 22nd Chw 2016

Ysgrifennwyd gan Dan Grosvenor

Dim i guro triniaeth bersonol.

Mae tudalen Facebook deniadol yn amhrisiadwy ond mae siarad gyda chwmni yn gallu teimlo ychydig yn amhersonol; weithiau rydych chi eisiau siarad gyda pherson ‘go iawn’.

Mae proffil Facebook proffesiynol yn ffordd effeithiol a hwyl i gyflawni hyn. Wedi’r cwbl, mae’r cwmnïoedd gorau yn cynnwys unigolion – yn cyflwyno chwaeth, talentau a phrofiadau unigryw eu hunain – beth am gofleidio hynny?

Pa un ai yw’n wasanaeth cwsmer neu waith ieuenctid, mae rhoi eich enw, wyneb a ffilm gorau yn gallu helpu cynyddu ffydd ynoch chi ac atgoffa pobl eu bod yn delio gyda pherson go iawn.

Dyma ychydig o gyngor i gychwyn eich proffil Facebook proffesiynol.

Ychwanegu Perchnogion Tudalennau

Arddangoswch eich proffil ar eich tudalen ac i’r gwrthwyneb. Pan fydd pobl yn ymweld â thudalen eich cwmni byddant yn gweld yn union pwy fyddant yn siarad â nhw ac yn cael cyfle i yrru cais ffrind i chi.

featuredpageowners

Brandio

Sicrhewch eich bod yn dweud yn glir bod hwn yn gyfrif gwaith (yn enwedig os oes gennych chi gyfrif Facebook personol). Sicrhewch fod eich llun proffil a’ch delwedd clawr wedi’u brandio’n glir ac yn cyfleu beth rydych chi’n ei wneud.

Proffil Arielle - Proffil Facebook Proffesiynol

Llwythwch avatar Allan o’r Swyddfa i’ch albwm Lluniau Proffil fel bod mynediad sydyn iddo yn y dyfodol.

ooo

Atal postiadau digroeso

Addaswch eich proffil fel nad all pobl eich tagio’n awtomatig mewn postiadau nac ysgrifennu ar eich wal. Mae hyn yn rhoi cyfle i chi adolygu pethau cyn iddynt gael eu hychwanegu i’ch proffil.

tagging2

Gosod Gwadiad

Gall hwn fod yn eich adran Gwybodaeth neu yn cael ei yrru fel neges croeso i ffrindiau newydd. Nid oes angen iddo fod yn hir, ond ei fod yn dweud y pethau pwysig, fel pa mor sydyn rydych chi’n debygol o ateb neu eich polisïau datgeliad.

Byddwch yn ystyriol wrth rannu

Mae proffil yn well os yw’n fwy personol, ond cofiwch eich bod yn cynrychioli’r cwmni. Hoffwch y pethau sydd yn addas yn unig a’r pethau rydych chi’n hapus i bobl wybod amdanoch chi.

Defnyddiwch borwr/apiau ar wahân

Sicrhewch fod eich cyfrif personol a’ch proffil Facebook proffesiynol yn cael eu cadw ar wahân wrth ddefnyddio porwr/apiau gwahanol i bob un. Mae yna ddigon i ddewis ohonynt, y mwyafrif am ddim, a bydd yn arbed amser a chywilydd potensial.

browsers

Ac un dylai fod yn amlwg…

Mwynhewch!

Nid oes neb eisiau bod yn ffrindiau gyda phroffil diflas. Rhannwch gynnwys perthnasol. Duw, rhannwch gynnwys amherthnasol! Defnyddiwch eich proffil fel y bwriadir: i gysylltu â chynnwys; rhyngweithio â phobl; ymuno â grwpiau; postio hunlun weithiau mewn digwyddiad. (Os nad ydych chi’n sicr ble i gychwyn Hoffwch ein tudalen.)

Fyddech chi’n hoffi defnyddio cyfryngau cymdeithasol i gyrraedd eich cynulleidfa? Cysylltwch.

Blogiau perthnasol:

https://www.promo.cymru/ychwanegu-instagram-hybu/?lang=cy

https://www.promo.cymru/4-hashnod-firaol-llwyddianus-yr-haf/?lang=cy