Pobl Ifanc yn Llunio Gwasanaethau Iechyd Meddwl

by Cindy Chen | 17th Ion 2020

Mae ProMo-Cymru yn chwilio am sefydliadau i helpu hwyluso ymgynghoriadau gyda phobl ifanc i wella gwasanaethau iechyd meddwl sydd yn cael ei ddarparu ar eu rhan.

Mae ProMo-Cymru a Hafal yn bartneriaid sydd wedi cyfuno ar gyfer y prosiect Youth Access yng Nghymru. Mae hwn yn brosiect sydd yn cael ei ariannu gan y Loteri Genedlaethol fydd yn cael ei gyflwyno ledled y DU dros bum mlynedd. Y bwriad ydy gwella gwasanaethau iechyd meddwl i bobl ifanc.

Ymgynghoriad gyda phobl ifanc ar gyfer gwasanaethau Iechyd Meddwl Youth Access
dav

Cyd-gynllunio

Mae Youth Access wedi cyfuno 10 o sefydliadau ieuenctid ac iechyd meddwl dros y 4 cenedl. Bydd y prosiect yn dwyn ynghyd y bobl ifanc, gweithwyr iechyd meddwl a gwneuthurwyr polisi i gyd-gynllunio gwasanaethau iechyd meddwl a llesiant. Y gobaith yw y byddant yn ymateb yn well i anghenion pobl ifanc.

Bydd y bobl ifanc yn gosod yr agenda fydd yn cael ei gydweithio gyda gweithwyr proffesiynol gan fynegi eu gweledigaeth am ddyfodol gwasanaethau iechyd meddwl a llesiant. Bydd y prosiect yn rhoi grym i’r bobl ifanc i gyflwyno’u gweledigaeth i’r rhai sydd yn gwneud y penderfyniadau, fel eu bod yn gallu arwain ar newid gyda’i gilydd.

Mae’r prosiect yn bwriadu adeiladu ar fomentwm adroddiad ac argymhellion Cadernid Meddwl y Cynulliad (Gorffennaf 2018). Bydd pobl ifanc yn cyfarwyddo, dylanwadu ac yn ysgogi newid.

Siarter Cenedlaethol

Ym Mlwyddyn Gyntaf y prosiect y nod yw cyd-gynhyrchu Siarter Cenedlaethol i Gymru. Bydd hwn yn goso craidd egwyddorion a gwerthoedd ac yn llunio sylfaen y ffordd dylai ymatebion dilys a diffuant i anghenion iechyd meddwl pobl ifanc edrych a theimlo.

Y gobaith yw bydd amrywiaeth o sefydliadau a gwasanaethau yng Nghymru yn ein helpu i hyrwyddo’r prosiect a chyd-hwyluso ymgynghoriadau. Rydym yn awyddus i ddysgu am eu profiadau a’u darganfyddiadau.

Os oes gennych chi ddiddordeb yn bod yn rhan o’r prosiect, cysylltwch â Cindy Chen, Rheolwr Datblygu ProMo-Cymru ar cindy@promo.cymru am wybodaeth bellach.