MIEG – Llinell Gymorth Eiriolaeth Newydd i Drigolion Gwent

by Cindy Chen | 24th Hyd 2019

Mae gwasanaeth llinell gymorth eiriolaeth newydd i gefnogi pobl yng Ngwent yn cael ei lansio yfory (25 Hydref). Y bwriad yw i ddinasyddion ddeall eu hopsiynau a chael mwy o reolaeth ar benderfyniadau yn ymwneud â’r gofal cymdeithasol a’r gwasanaethau cefnogol maent yn derbyn eisoes, neu ei angen.

Mae ProMo-Cymru wedi datblygu MIEG (Mynediad i Eiriolaeth Gwent) fel bod gan bobl sydd yn byw yn Nhorfaen, Blaenau Gwent, Caerffili a Sir Fynwy lais a dewis ar wasanaethau cefnogi gofal cymdeithasol (fel diffinnir yn y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant [Cymru] 2014). Bydd dinasyddion Casnewydd yn parhau i gael mynediad i eiriolaeth a chyngor gan Ganolfan Byw’n Annibynnol Dewis.

Cynghorwr ar y ffôn

Yn cyflwyno MIEG

Bwriad MIEG yw bod yn borth galw cyntaf i bobl Gwent. Gellir cysylltu â’r llinell gymorth am ddim ar 0808 8010566 am wybodaeth, cyngor a chymorth yn ymwneud ag eiriolaeth. Yn agored Llun i Gwener, 10yb tan 3yp gyda thîm proffesiynol o Eiriolwyr Gynghorwyr medrus iawn ar y llinell Gymorth.

Mae’r gwasanaeth yn agored i drigolion dros 18 oed yng Ngwent sydd angen cymorth i gael pobl i glywed eu barn, deall eu hopsiynau pan ddaw at y gwasanaethau cymorth a’r gofal cymdeithasol derbyniwyd, neu’n meddwl eu bod angen ac/neu eisiau mwy o reolaeth dros y penderfyniadau am eu gofal cymdeithasol a chymorth. Mae gofalwyr ac ymarferwyr yn gallu cysylltu â’r gwasanaeth hefyd.

Pwy sydd yn rhan o hyn?

Yn cael ei arwain gan Fwrdd Partneriaeth Ranbarthol Gwent, gyda chefnogaeth Rhaglen Eiriolaeth Edau Aur Age Cymru, rydym wedi defnyddio dull cwbl cyd-gynhyrchiol wrth ddatblygu’r llinell gymorth yma.

Mae Age Cymru Gwent, Dewis CIL, Hyfforddiant Mewn Meddwl, NYAS Caerffili a’r sefydliadau Pobl yn Gyntaf ymhob Awdurdod Lleol, wedi bod yn bartneriaid pwysig yn y datblygiad yma.

cynhorwr ar y cyfrifiadur

“Mae sicrhau bod pob trigolyn yn cael ei glywed yn hynod bwysig os ydym o ddifrif am drawsffurfio a gwella ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol fel ei fod yn addas ar gyfer yr unfed ar hugain ganrif. Rydym yn ymwybodol bod y system gofal yn gallu bod yn orgymhleth ac nid yw’n hawdd iawn i drigolyn ddarganfod a chael mynediad i’r wybodaeth a’r gefnogaeth gall ei helpu orau bob tro. Mae gan eiriolaeth ran bwysig iawn i chwarae i sicrhau bod pob llais yn cael ei glywed – ac rydym yn cydnabod bod hwn yn wasanaeth pwysig sydd angen bod yn agored i bawb, ymhle a pan fydd ei angen.”

Phil Robson, Cadeirydd Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Gwent.

Sut gall MIEG helpu?

Gall y tîm Llinell Gymorth helpu i:

– Deall yr hyn sydd yn bwysig i’r galwr. Gwneud synnwyr o’u sefyllfa a’u hanghenion. Archwilio’r opsiynau pan ddaw at unrhyw anghenion gofal cymdeithasol/cefnogaeth sydd yn cael ei adnabod.

– Mynediad i, a deall, unrhyw wybodaeth sydd yn berthnasol i’w sefyllfa. Deall sut i lywio unrhyw brosesau cynllunio, adolygu a gwneud penderfyniadau.

– Cyrraedd y cyrchfan fwyaf addas mor sydyn ac effeithiol â phosib, bod hyn drwy gynrychiolaeth uniongyrchol neu gyfeirio/arwyddbostio i eiriolaeth broffesiynol annibynnol wyneb i wyneb, eiriolaeth arall, neu wasanaethau cefnogol eraill.

Y buddiannau

Mae’r fodel a’r llwybr yn unigryw; yn ogystal â helpu’r unigolyn, mae yn fuddiannau eraill hefyd:

– Hyrwyddo dealltwriaeth eiriolaeth well a fwy eang

– Cysylltu gyda chynulleidfa ehangach sydd yn golygu bod mwy o bobl yn derbyn eiriolaeth pan fydd angen

– Hwyluso gweithio ar y cyd a rhwydweithio ymysg darparwyr gwasanaethau eiriolaeth

Cynghorwyr ar y cyfrifiadur - MIEG - Llinell Gymorth Eiriolaeth Newydd i Drigolion Gwent

“Mae ein profiad yn datblygu a chyflwyno gwasanaethau gwybodaeth, cyngor, cymorth ac eiriolaeth ar-lein a digidol, ynghyd â’n henw da yn gwerthfawrogi hawliau pobl, yn golygu ein bod yn ddewis perffaith i ddatblygu a chyflwyno’r gwasanaeth newydd yma er budd trigolion Gwent.”

Stephanie Hoffman, Pennaeth Gweithredu Cymdeithasol ProMo-Cymru.

Gwybodaeth bellach a deunyddiau argraffedig

Os hoffech fanylion pellach neu os hoffech wneud cais am ddeunyddiau argraffedig Mynediad i Eiriolaeth Gwent (MIEG), ymwelwch â www.mieg.cymru, e-bost socialaction@promo.cymru neu cysylltwch â ProMo-Cymru ar 02920 462 222.

Gellir lawr lwytho’r Strategaeth Eiriolaeth i Oedolion yng Ngwent yma