by Tania Russell-Owen | 16th Hyd 2019
Mae ProMo-Cymru wedi bod yn gweithio gyda Adfywio-Cymru i ddogfennu , ar fideo, y greadigaeth o Fainc Ddigidol ym Mhontypridd.
Roedd gan Adfywio Cymru brosiect cyffrous ar y gweill gyda grŵp o bobl ifanc o Glwb Ieuenctid Rhydyfelin – yn creu mainc i’w ddefnyddio i roi cysgod i bobl ddigartref ac yn helpu i gadw pobl wedi’u cysylltu. Roeddent yn awyddus i gofnodi’r broses o adeiladu’r fainc a gofynnwyd i ProMo-Cymru greu ffilm ohono.
Gwreiddiau syniad
Cychwynnodd y syniad yng Nghlwb Ieuenctid Rhydyfelin wrth i’r plant gymryd rhan mewn sesiwn sgiliau gwaith coed gyda Sam Holt o Eggseeds, sefydliad addysg gynaliadwy. Mae Sam yn fentor sydd yn rhannu ei sgiliau fel rhan o’r rhaglen Adfywio Cymru.
Roedd y bobl ifanc eisiau rhywle i eistedd ble gallant wefru eu ffôn tra roeddent allan ym Mhontypridd. Wrth gychwyn cynllunio, sylweddolwyd y gellir defnyddio’r fainc am lawer mwy nag hynny, fel sedd/cysgodfa i bobl ddigartref er esiampl. Gan gadw hyn mewn meddwl, gofynnwyd i’r Parchedig Peter Lewis o Eglwys y Santes Catrin os gellir gosod y fainc ar dir yr eglwys. Cytunodd y Parch a chyn hir roedd nifer o wasanaethau a chwmnïoedd lleol yn awyddus i fod yn rhan o’r syniad arloesol yma. Daeth y gefnogaeth gychwynnol gan Gymdeithas Tai Newydd a chafwyd ychydig o arian gan Interlink RCT. Daeth sawl partner arall, gan gynnwys cwmnïau lleol, ymlaen i helpu, cefnogi, cynnig arbenigedd a deunyddiau. Roedd y syniad o greu mainc ddigidol, fydda hefyd yn helpu rhoi cysgod i rai mewn angen, yn un cyffrous iawn i’r grŵp a llawer o bobl leol eraill.
Diwrnod yr adeiladu
Ar ddiwrnod yr adeiladwaith, ymunodd ProMo-Cymru â’r bobl ifanc yn Eglwys y Santes Catrin er mwyn eu ffilmio wrth eu gwaith. Er eu bod yn eithaf swil o fod o flaen y camera i gychwyn, cynigodd ProMo-Cymru anogaeth a chyn hir cychwynnwyd adlewyrchu ar y siwrne a rhannu eu stori. Llwyddwyd i ddal gwahanol safbwyntiau’r rhai a gymrodd rhan yn y prosiect.
Defnyddiwyd y darnau ffilm a’r cyfweliadau gyda’r bobl ifanc a’r partneriaid i greu stori 10 munud am y prosiect mainc ddigidol. Cafwyd ymateb dda iawn i’r ffilm pam dangoswyd am y tro cyntaf yng Ngŵyl Adfywio Cymru yn Neuadd Gregynog, Powys, ar 10 Gorffennaf 2019. Aeth y bobl ifanc oedd yn rhan o adeiladu’r fainc draw i Neuadd Gregynog i rannu eu profiadau gyda’r rhai oedd yn mynychu.
Diddordeb yn ein gwasanaethau fideo? Edrychwch ar y gwasanaethau cynhyrchiad cyfryngol sydd gennym i gynnig.