Cynhyrchiad Cyfryngol

Mae gan ProMo-Cymru yr wybodaeth, y sgiliau a’r cyfleusterau i gynhyrchu amrywiaeth eang o gynyrchiadau a ffurfiau cyfryngol, o animeiddiadau (clai) i ffilmiau byr, lluniau proffesiynol, hysbysebion a phodlediadau.

Trosolwg

Mae gennym ystod eang o brofiad yn creu cynnyrch amlgyfrwng. Mae gan sawl un o’n staff gefndir ffotograffiaeth, creu ffilmiau, cyfarwyddo teledu, darlledu radio a chynhyrchu cerddoriaeth. Mae gennym offer proffesiynol i’w defnyddio a’u llogi, fel camerâu SLR, goleuadau cludadwy, camerâu HD, bwmiau, meicroffonau, yn ogystal â set ffotograffiaeth gludadwy, swît golygu, sgrin werdd a stiwdio recordio.

Ein Dull

Gall delwedd adrodd cyfrolau. Fel sefydliad creadigol rydym yn ymdrechu i greu cyfryngau prydferth, o ansawdd uchel, beth bynnag yw’r pwnc. Ein hethos yw cyfathrebu â chi drwy gydol y broses i sicrhau eich bod chi’n hapus â’r cynnyrch. Bydd ein profiad yn y maes yma yn caniatáu i ni awgrymu, argymell a thrafod y prosiect â chi, fel bod y cynnyrch gorffenedig o’r gwerth uchaf.

Gwasanaethau Darparwyd

 

video-animation2

Fideo ac Animeiddiad

Mae gennym brofiad helaeth o gefnogi pobl ifanc a gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant diwylliannol, gan gynnwys gweithio â nhw i greu fideos am eu sefydliad. Mae fideo yn rhoi’r cyfle i rannu negeseuon mewn ffordd fwy personol a deniadol nag cyfathrebu traddodiadol.

adverts

Hysbysebion

Gallem helpu chi i wneud y mwyaf o’ch adnoddau a chreu hysbysebion sydd yn arddangos eich gwasanaethau. Mae’n hawdd rhannu’r rhain o gwmpas y rhyngrwyd a gallant gael effaith llawer mwy.

photography

Ffotograffiaeth

Rydym yn fedrus iawn wrth ddefnyddio offer ffotograffiaeth broffesiynol a meddalwedd megis Swît Greadigol Adobe, a gallem atgyffwrdd unrhyw luniau fel bo angen, neu gynnwys unrhyw logo neu ddyfrnod.

Enghreifftiau O’n Gwaith

Meic Video

Young Person's Clinic - What's It All About?

Straen Arholiad

Cleientiaid a Gwaith o Nodwedd

Shelter Cymru

Mae’r Prosiect Cynhwysiant y Cymoedd yn brosiect wedi’i ariannu gan Cefnogi Pobl Caerffili a Cartrefi Caerffili i daclo achosion ymddygiad gwrthgymdeithasol ac i helpu atal y teuluoedd sydd yn cael eu cyhuddo o achosi ymddygiad gwrthgymdeithasol rhag colli eu cartrefi drwy ddadfeddiant.

sheltercymru.org.uk

dta-wales

DTA Cymru

Mae ‘Gweld Drosoch Eich Hun’ yn gyfres o ddigwyddiadau i arddangos rhai o gynlluniau tai mwyaf diddorol, cyffrous ac arloesol y DU sy’n seiliedig ar y gymuned. Mae’r prosiect yn bartneriaeth rhwng Locality, BSHF, DTA Cymru a DTA Yr Alban.

locality.org.uk

“Roeddem yn teimlo fel eu bod yn deall gwaith y sector gwirfoddol a byddant yn gallu deall hanfodion y pethau rydym yn ei wneud mewn ffordd nad all eraill. Mae ProMo-Cymru wedi cyflawni ein hamcanion ac wedi mynd tu hwnt i’n disgwyliadau”

Wayne Lee, Shelter Cymru