Gwobr Technoleg Er Budd: ProMo-Cymru yn y Rownd Derfynol

by Tania Russell-Owen | 11th Medi 2017

Mae ProMo-Cymru ar restr fer Technoleg Er Budd: Gwobr Technoleg mewn Mentrau Cymdeithasol yng Ngwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru 2017.

Mae’r gwobrau yn dathlu llwyddiannau a chyflawniadau busnesau cymdeithasol ledled Cymru. Maent yn cydnabod y sefydliadau mwyaf deinamig, mentrus ac uchelgeisiol yn y maes. Mae’n dathlu’r sefydliadau sydd yn gwthio’r trydydd sector ymlaen drwy dyfiant busnes, cydweithio ac arloesiad. Mae ProMo-Cymru wedi cael ei enwebu yn y categori Technoleg er Budd.

Beth ydy’r wobr Technoleg er Budd?

Mae’r wobr Technoleg er Budd yn cydnabod busnesau bach sydd yn defnyddio technoleg i wella bywydau pobl yng Nghymru. Mae’n gategori newydd ar gyfer 2017.

“Rydym yn hapus iawn i fod yn rownd derfynol y categori Gwobr Technoleg er Budd. Dros yr 20 mlynedd diwethaf, rydym wedi canolbwyntio ar gyd-gynhyrchu ymrwymiad digidol llwyddiannus. Mae ein prosiectau cyfathrebu yn gosod dinasyddion wrth galon y broses bob tro.”

Mae’r ffaith bod cydnabyddiaeth i’n gwaith arloesol yn gyflawniad gwych. Hoffwn ddiolch i banel beirniadu Gwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru am y cyfle yma.”

 

Marco Gil-Cervantes – Prif Weithredwr ProMo-Cymru

Seremoni Gwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru 2017

Mae’r enillwyr yn cael eu cyhoeddi ar ddydd Llun, 4ydd Hydref 2017 ym Mhafiliwn Llangollen yn Llangollen, Sir Ddinbych.

Mae tocynnau i seremoni a chynhadledd Gwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru 2017 yn rhad ac am ddim ac mae posib archebu nawr o Ganolfan Cydweithredol Cymru.

Tra bod ennill Gwobr Busnes Cymdeithasol Cymru yn gyflawniad mawr mae yna bosibilrwydd o adnabyddiaeth bellach. Bydd enillydd pob categori yng Ngwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru yn cael ei roi i mewn i Wobrau Menter Gymdeithasol y DU 2017 yn awtomatig.

Mae popeth yn cychwyn gyda sgwrs

Mae ProMo-Cymru yn gweithio tuag at greu newid positif a pherthnasau parhaol rhwng unigolion, teuluoedd a chymunedau. Rydym yn darparu datrysiadau arloesol a chreadigol gyda sgyrsiau ystyrlon a thechnoleg ddigidol. Os hoffech drafod sut gall ein Model TYC helpu eich sefydliad yna cysylltwch.

029 2046 2222
info@promo.cymru
@ProMoCymru

Llun clawr gan Pineapple Supply Co. ar Unsplash