by Andrew Collins | 8th Tach 2023
Cyfle cyffrous i ymuno â’r tîm ProMo-Cymru fel Swyddog Cyllid a Datblygu.
Swyddog Cyllid a Datblygu
Llawn amser (35 awr yr wythnos)
Opsiwn gweithio’n rhan amser/rhannu swydd
Cyflog £24,410 – £29,250
Cytundeb parhaol (yn amodol ar gyllid)
Gwybodaeth am ProMo-Cymru
Mae ProMo-Cymru yn elusen gofrestredig gyda changen fasnachu. Rydym ni’n gweithio i sicrhau bod pobl ifanc a chymunedau yn wybodus, yn ymgysylltu, yn gysylltiedig ac yn cael eu clywed.
Rydym yn cydweithio i greu cysylltiadau rhwng pobl a gwasanaethau gan ddefnyddio creadigrwydd a thechnoleg ddigidol. Yn cefnogi’r trydydd sector a’r sector cyhoeddus i ddychmygu, profi a chreu gwasanaethau gwell.
Mae ProMo-Cymru yn gweithio gyda chymunedau trwy gyfathrebiadau, eiriolaeth, ymgysylltiad diwylliannol, digidol a chynnyrch cyfryngol. Mae dros 25 mlynedd o drosglwyddo prosiectau gwybodaeth ieuenctid digidol yn dylanwadu ein gwaith. Rydym yn rhannu’r wybodaeth yma drwy hyfforddiant ac ymgynghoriad, yn creu partneriaethau hir dymor fydd yn buddio pobl a sefydliadau.
Yn y 30 mlynedd diwethaf mae ProMo-Cymru wedi gweld llawer o arloesedd a thyfiant. Rydym yn gwerthfawrogi pwysigrwydd cymwysterau a phrofiad ond rydym hefyd yn chwilio am yr unigolion cywir sydd yn gallu cynnig rhywbeth newydd a gwahanol i’n sefydliad.
Mae gennym gydbwysedd o waith tîm, ymreolaeth a theimlad o gyfrifoldeb i wella ein gwasanaethau a’n cynnyrch. Rydym yn gweithio’n galed i’n cleientiaid a’n partneriaid ac yn mwynhau rhannu’r gwobrau gyda nhw. Anogir i’n staff i fod yn rhan o’r arweinyddiaeth a’r broses o wneud penderfyniadau, gan roi sylw personol i eraill a gwneud i bob unigolyn deimlo gwerth unigryw.
Rydym yn chwilio am gydweithwyr sydd yn gallu gweithio i’r gwerthoedd yma. Rydym angen pobl sydd yn rhagweithiol sydd â brwdfrydedd, eglurder a gweledigaeth. Os ydych chi’n teimlo mai chi yw hyn, rydym yn recriwtio a byddem wrth ein boddau yn clywed gennych chi!
Gwybodaeth am y swydd
Rydym yn chwilio am Swyddog Cyllid a Datblygu sydd â dawn ysgrifennu ac angerdd dros wneud gwahaniaeth go iawn. Yn y swydd hon, byddwch yn cefnogi ac yn cael eich cefnogi i gynyddu incwm ProMo wrth dyfu eich sgiliau i ddatblygu naratifau difyr yn seiliedig ar anghenion y cymunedau rydym yn gweithio gyda nhw ac i helpu ein cleientiaid i wireddu eu huchelgeisiau.
Byddwch yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o helpu i gynhyrchu incwm yn ProMo drwy ddod o hyd i gyllid, ei gydlynu a’i sicrhau drwy gymysgedd o grantiau, ymddiriedolaethau, sefydliadau a gweithgarwch masnachu.
Mae angen rhywun sy’n gallu gweithio fel rhan o dîm i greu prosiectau arloesol a chynigion grymus ar draws meysydd gwaith ieuenctid, datblygu cymunedol, digidol a dylunio. Bydd ein staff yn rhannu eu profiad ac, yn eich tro, byddwch chithau’n helpu i droi’r gwaith rydym yn ei gyflawni yn ffrydiau incwm amrywiol a chynaliadwy.
Rydym yn pwysleisio dull cydweithredol o ddatblygu busnes a chyllid, byddwch yn gweithio ar draws tîm staff o 50 yn darparu dwsinau o brosiectau cyffrous a byddwch yn cael eich cefnogi gan yr Uwch Reolwr Cyllid yn eich datblygiad proffesiynol eich hun.
I gael rhagor o wybodaeth am bwy ydyn ni a’n prosiectau, ewch i: ProMo Cymru: www.promo.cymru
Lawrlwythwch y pecyn cais
Dyddiad Cau:
Dydd Sul 3 Rhagfyr
Dyddiadau Cyfweliadau:
11 a 12 Rhagfyr, mewn person, Swyddfa Caerdydd.
Am wybodaeth bellach, cysylltwch â people@promo.cymru
(029) 2046 2222
ProMo-Cymru
17 Stryd Gorllewin Bute
Bae Caerdydd
CF10 5EP