by Tania Russell-Owen | 22nd Mai 2018
Mae ProMo-Cymru wedi cyrraedd rownd derfynol dwy wobr o fri yng Ngwobrau Busnesau Caerdydd 2018 a Gwobrau Digidol Walesonline 2018. Mae’r gwobrau yma yn dathlu llwyddiannau a chyflawniadau busnesau yng Nghymru.
Busnes Menter Gymdeithasol y Flwyddyn – Gwobrau Busnesau Caerdydd 2018
Mae yna 56 o gwmnïau ac unigolion yn cystadlu yng Ngwobrau Busnesau Caerdydd eleni, dros 16 o gategorïau.
Mae ProMo-Cymru yn y categori ‘Busnes Menter Gymdiethasol y Flwyddyn’ ynghyd â dau gwmni cymdeithasol arall.
“Roeddem wedi gwirioni clywed ein bod yn un o’r cwmnïau yn y categori Busnes Menter Gymdeithasol y Flwyddyn yng Ngwobrau Busnes Caerdydd eleni. Mae llawer o’n prosiectau ymgysylltiad digidol arloesol yn cael eu cyd-gynhyrchu a’u trosglwyddo o’n pencadlys ym Mae Caerdydd.”
Marco Gil-Cervantes, Prif Weithredwr
Bwriad Gwobrau Busnes Caerdydd ydy cydnabod menter ac arloesedd sydd yn gwneud gwahaniaeth yn y brif ddinas.
Cyhoeddir yr enillwyr mewn seremoni wobrwyo yn Neuadd y Ddinas Caerdydd ar 15 Mehefin 2018.
Cyfathrebiadau Marchnata Gorau – Gwobrau Digidol Walesonline 2018
Mae Gwobrau Digidol Walesonline yn cydnabod busnesau a mentrwyr sydd yn gwneud cyfraniad pwysig i’r sector ddigidol.
Cafodd yr ymgyrch perthnasoedd iach dyluniwyd gan ProMo-Cymru ar gyfer Meic Cymru, y llinell gymorth gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth genedlaethol i blant a phobl ifanc yng Nghymru, ei enwebu am ‘Cyfathrebiadau Marchnata Gorau’.
Prif ffocws yr ymgyrch oedd ‘Pili-pala‘, fideo wedi’i gyd-gynhyrchu gyda phobl ifanc. Gwyliwyd y fideo 45,000 o weithiau, gyda 2,437 yn rhannu, hoffi, ail-drydar neu’n gadael sylwadau. Cafodd ei ail-drydar a’i hoffi gan sawl cyfrif dylanwadol a chafodd ei ail-drydar gan seleb hefyd, gyda Charlotte Coleman (gwraig cyn rheolwr Cymru Chris Coleman) yn ei rannu. Cyfrannodd hyn at ymweliadau gwefan uchel am y chwarter.
“Ein prif ffocws dros yr 20 mlynedd diwethaf ydy cyd-gynhyrchu datrysiadau cyfathrebu digidol llwyddiannus. Cafoddp ‘Pili-pala’ ei ysgrifennu, ei berfformio a’i gynhyrchu ar y cyd â phobl ifanc. Mae’n fideo grymus iawn gan ein bod wedi caniatáu i bobl ifanc fynegi eu hunain a gallech chi berthnasu’n syth â’u teimladau. Rydym yn hynod o falch o gyrraedd y rhestr fer.”
Marco Gil-Cervantes, Prif Weithredwr.
Bydd Gwobrau Digidol Walesonline 2018 yn digwydd ar 8 Mehefin 2018 yng Ngwesty Marriott Caerdydd.
Mae popeth yn cychwyn gyda sgwrs
Mae ProMo-Cymru yn gweithio tuag at greu newid positif a pherthnasau parhaol rhwng unigolion, teuluoedd a chymunedau. Rydym yn darparu datrysiadau arloesol a chreadigol gyda sgyrsiau ystyrlon a thechnoleg ddigidol. Os hoffech drafod sut gall ein Model TYC helpu eich sefydliad yna cysylltwch.