Dirywiad Cyrhaeddiad Organig Facebook

by Andrew Collins | 1st Maw 2018

Yma yn ProMo-Cymru rydym wedi bod yn edrych ar dueddiadau cyfryngau a marchnata digidol ar gyfer 2018. Yn y cyntaf o dair erthygl mae Andrew Collins, ein Swyddog Cyfathrebu a Phartneriaethau, yn edrych ar ddirywiad cyrhaeddiad organig Facebook.

Cyrhaeddiad ydy’r nifer o weithiau bydd eich neges yn cael ei weld gan ddefnyddwyr Facebook. Mae’n cael ei rannu i ddau gategori:

Cyrhaeddiad wedi’i dalu – Y nifer o weithiau mae pobl wedi gweld eich neges am eich bod wedi talu Facebook i’w ddangos.

Cyrhaeddiad organig – Y nifer o weithiau mae pobl wedi gweld eich neges heb i chi dalu Facebook.

cyrraedd allan erthygl Dirywiad Cyrhaeddiad Organig Facebook

Dirywiad enfawr

Am fisoedd bellach, mae yna rybuddion bod cyrhaeddiad organig Facebook, y nifer o weithiau bydd eich neges yn cael ei weld gan ddefnyddwyr heb orfod talu, ar fin lleihau. Fis Ionawr, daeth y rhybudd yma yn realiti llym.

Os ydych chi’n cynnal tudalen Facebook, mae’n debygol bydd eich cyrhaeddiad yn dirywio rhwng 60-90%. Mae hyn yn ostyngiad enfawr. Golygai hyn bod 75% LLAI o bobl yn gweld eich negeseuon.

Mae hyn yn broblem am ddau reswm:

– Nid fydd cymaint o bobl yn gweld eich negeseuon ag yr oedd cynt, felly efallai bydd llai o bobl yn mynychu eich cwrs hyfforddiant, neu lai o bobl yn ymwybodol o’ch gwasanaeth neu gynnyrch newydd.

– Os, fel y mwyafrif o brosiectau sector cyhoeddus, rydych chi’n adrodd eich ystadegau Facebook i sefydliad sy’n ariannu’r gwasanaeth, bydd yna ostyngiad dramatig yn eich rhifau, er eich bod yn gwneud yr un faint o waith.

Datrysiadau

Ychwanegu cyfryngau

Mae yna ychydig o ffyrdd wedi’u profi i uchafu’ch cyrhaeddiad organig. Sicrhewch eich bod yn ychwanegu o leiaf un cyfrwng i’ch neges. Gall hyn fod yn ddelwedd, fideo neu gyfeiriad URL i flog ar eich gwefan, neu wefan rhywun arall. Os ydych chi’n copïo URL, sicrhewch ei fod yn dangos fel ‘Darn Rhagolwg’ (Preview Snippet) fel isod, yn hytrach nag arddangos fel URL yn unig.

Defnyddiwch GIFs

Neu beth am bostio GIF – ffeil fideo bach, o ansawdd isel, sydd yn chwarae sawl gwaith ar ddolen. Un sefydliad sydd yn defnyddio GIFs yn dda iawn i gysylltu gyda dilynwyr ydy Gleision Caerdydd. Llwyddodd y trydar isod i gael 38 o bobl yn hoffi/ail-drydar a 6 o sylwadau, yn cynhyrchu ymatebion GIF. Mae’n debyg mai dim ond ychydig eiliadau gymerodd hyn. Ond gair o rybudd, er effaith doniol neu i greu cyffro defnyddir GIFs ran amlaf. Sicrhewch eu bod yn cael eu defnyddio’n briodol a pheidiwch orwneud.

Creu GIF eich hun

Mae’n eithaf hawdd cynnwys GIF wedi’i greu yn barod i’ch cyfryngau cymdeithasol y dyddiau hyn. Edrychwch ar y blwch wedi’i nodi ‘GIF’ o dan y blwch ‘ysgrifennu neges newydd’. Neu, ceisiwch greu GIF eich hun. Gallech chi ddefnyddio gwefannau fel giphy.com, neu ffilmiwch un eich hun fel yr un isod. Mae’r mwyafrif o ffonau newydd yn cynnwys gosodiad ‘Animated GIF’ ar yr app camera, neu edrychwch yn eich gosodiadau neu ffilterau.

Talwch

Yr unig ffordd arall o gwmpas y ‘wasgfa cyrhaeddiad’ ydy i dderbyn y peth a thalu’r arian. Mae Facebook yn gostwng cyrhaeddiad organig er mwyn gorfodi mwy o sefydliadau i dalu ac, yn sgil hyn, daw yn fwy tebyg i’r ffrydiau hysbysebu hen ffasiwn fel y teledu, radio a phapurau newydd.


Yn yr ychydig wythnosau nesaf byddem yn edrych ar dueddiadau cyfryngau a marchnata digidol eraill ar gyfer 2018. Byddem yn edrych ar Cynnydd Fideo a Fideo Byw, a phoblogrwydd cynorthwywyr digidol. Cadwch lygaid craff ar ein gwefan.

Os ydych chi wedi mwynhau’r erthygl hon ac eisiau gwybod mwy am y gwaith rydym yn ei wneud yma yn ProMo-Cymru, edrychwch ar ein herthyglau eraill yn yr adran Newyddion.


Mae popeth yn cychwyn gyda sgwrs

Mae ProMo-Cymru yn gweithio tuag at greu newid positif a pherthnasau parhaol rhwng unigolion, teuluoedd a chymunedau. Rydym yn darparu datrysiadau arloesol a chreadigol gyda sgyrsiau ystyrlon a thechnoleg ddigidol. Os hoffech drafod sut gall ein Model TYC helpu eich sefydliad yna cysylltwch.

029 2046 2222
info@promo.cymru
@ProMoCymru

 

12