Datblygu Cymunedau Mentrus yng Nghymru

by Cindy Chen | 24th Ion 2018

Mae ProMo-Cymru yn cefnogi cymunedau yng Nghymru i ddatblygu atebion mentrus fydd yn buddio’u hardal leol.

Mae Atebion Mentrus yn rhaglen tair blynedd wedi’i ddatblygu gan DTA Cymru (Cymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu) gydag arian Cronfa Loteri Fawr. Mae’n rhaglen cefnogi ‘cyfoed i gyfoed’ wedi’i arwain gan ymarferwyr sydd yn helpu 100 o gymunedau i weithredu a dod yn fwy mentrus a gwydn.

Bydd y rhaglen yn caniatáu i bobl ddatblygu sgiliau menter. Bydd yn gymorth gyda hyder, hunanddibyniaeth a bod yn gysylltiedig. Y bwriad ydy cefnogi grwpiau i gychwyn mentrau newydd ac i ddatblygu datrysiadau lleol sydd yn gallu creu incwm a bod o fudd i’r ardal leol.

Casglu syniadau ar gyfer erthygl Datrysiadau Mentrus

Prosiectau dan ddatblygiad

Mae Cindy Chen, Swyddog Datblygu yn ProMo-Cymru, yn un o gydlynwyr y prosiect, yn gweithio yn ardal Caerdydd a Bro Morgannwg. Mae Cindy yn cysylltu gyda grwpiau cymunedol yng Nghaerdydd a’r Fro sydd â diddordeb mewn datblygu syniadau mentrus. Ar hyn o bryd mae Cindy yn datblygu’r prosiectau canlynol:

“Mae’r grwpiau dwi’n eu cefnogi yn rai amrywiol iawn o ran natur ond mae pob un yn llawn gyriant, egni a syniadau mentrus,” meddai Cindy.

“Y peth gwych am y rhaglen Atebion Mentrus ydy ei fod yn caniatáu i mi ymestyn allan a chefnogi sawl grŵp cymunedol gwahanol mewn ffordd cyd-gynhyrchiol.”

Trafodaeth ar gyfer erthygl Datrysiadau Mentrus

Datblygu menter gymunedol

Ydych chi’n grŵp cymunedol yn y camau cychwynnol o sefydlu prosiect menter gymunedol?

Oes gennych chi syniad arloesol i ddatblygu cyfle mentrus?

Gallem eich paru gydag arbenigwyr fydd yn gallu rhoi cyngor ac arweiniad i chi.

Mae hwn yn gyfle gwych i ddysgu gan eraill sydd â phrofiad, gan y rhai sydd wedi sefydlu a chael profiad ymarferol o redeg menter gymdeithasol.

Os ydych chi’n grŵp cymunedol wedi sefydlu yng Nghaerdydd neu Fro Morgannwg sydd â diddordeb, cysylltwch â Cindy am fanylion pellach ar cindy@promo.cymru.


Mae popeth yn cychwyn gyda sgwrs

Mae ProMo-Cymru yn gweithio tuag at greu newid positif a pherthnasau parhaol rhwng unigolion, teuluoedd a chymunedau. Rydym yn darparu datrysiadau arloesol a chreadigol gyda sgyrsiau ystyrlon a thechnoleg ddigidol. Os hoffech drafod sut gall ein Model TYC helpu eich sefydliad yna cysylltwch.

029 2046 2222
info@promo.cymru
@ProMoCymru