by Halyna Soltys | 2nd Meh 2021
Hoffwn eich cyflwyno i’n haelod staff Kickstart newydd, Halyna (Hallie) Soltys.
Mae ProMo-Cymru yn cefnogi datblygu sgiliau pobl ifanc ac yn helpu i dyfu talent newydd. Dyma gyfle i gyflwyno Hallie, sydd yn cael ei chyflogi fel Ysgrifennwr a Chynhyrchydd Cynnwys drwy’r cynllun Kickstart. Mae’r cynllun yn cael ei redeg gan CGGC i’n cefnogi ni ac i ddatblygu ei sgiliau cyfryngau digidol a chreu cynnwys.
Manylion Hallie
Mae gan Hallie radd dosbarth cyntaf mewn Seicoleg ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd gyda phrofiad mewn cyfryngau digidol, marchnata a chyfathrebu. Ar gychwyn ei thrydedd flwyddyn o’r radd baglor bu’n cwblhau profiad gwaith gyda ProMo-Cymru. Bu’n gweithio fel rhan o’r tîm Amlgyfryngau a Chyfathrebu. Ar ôl gorffen y lleoliad gwaith, parhaodd i wirfoddoli gyda ProMo-Cymru. Treuliodd ddiwrnod yr wythnos yn creu cynnwys ar gyfer theSprout yn bennaf.
Roedd Hallie hanner ffordd drwy ei thrydedd flwyddyn yn y brifysgol yn ystod y cyfnod clo cyntaf. Dychwelodd i Dre’r Ogof (Nottingham) i fod yn agosach i’w theulu. Er hyn, roedd Hallie yn parhau i fod mewn cysylltiad â ProMo-Cymru ac yn cynnig cefnogaeth o bell gyda sawl prosiect.
Oherwydd y pandemig, roedd darganfod swydd raddedig yn anodd iawn ar ôl graddio yn fis Mehefin 2020. Roedd y gystadleuaeth yn gryf. Parhaodd Hallie i wirfoddoli’n rhan amser gyda ProMo-Cymru wrth chwilio am swyddi i gael profiad pellach yn y diwydiant.
Ychydig fisoedd wedyn, roedd Hallie wedi cael ei chyflogi gan ProMo-Cymru fel rhan o’r cynllun Kickstart. Yn ei swydd newydd fel Ysgrifennwr a Chynhyrchydd Cynnwys, mae Hallie yn gyfrifol am gynllunio, creu a chyhoeddi cynnwys ar draws sawl prosiect yn ProMo-Cymru.
Sut mae’r cynllun Kickstart wedi helpu Hallie?
Mae swydd Hallie yn ProMo-Cymru yn cael ei gefnogi gan Cyngor Gweithredu Gwirfoddoli Cymru (CGGC). Mae CGGC yn cefnogi sefydliadau gwirfoddol i gael mynediad i Gynllun Kickstart Llywodraeth y DU. Mae’n noddi swyddi’n llawn ar gyfer pobl ifanc ledled y DU. Fel rhan o’r Cynllun Kickstart, bydd y staff yn derbyn y Lleiafswm Cyflog Cenedlaethol am 25 awr yr wythnos. Bydd ProMo-Cymru yn cynyddu’r cyflog yma i sicrhau ei fod yn cyrraedd Gwir Gyflog Byw.
Dywedodd Hallie: “Mae’r Cynllun Kickstart wedi rhoi cyfle gwych i mi weithio a chael profiad mewn maes rwy’n ei garu yng nghanol y pandemig coronafeirws yma. Mae gweithio i ProMo-Cymru yn dilyn fy siwrne gwirfoddoli gyda nhw yn freuddwyd wedi ei wireddu. Rwy’n hapus iawn i fod yn rhan o amgylchedd gwaith sydd mor gefnogol, hwyl a chynhwysol ble rwy’n dysgu rhywbeth newydd bob dydd a chael anogaeth i ffynnu”.
Os hoffech weld ychydig o’r gwaith sydd yn digwydd yn ProMo-Cymru, ewch draw i’n tudalennau Prosiectau.