Ymgysylltu: Gwrando Ar Y Tenantiaid

by Cindy Chen | 7th Awst 2019

Yn ddiweddar bu ProMo-Cymru yn cefnogi dau brosiect gyda chymdeithasau tai blaenllaw yng Nghymru a’u tenantiaid.

Dros y 6 mis diwethaf rydym wedi bod yn gweithio gyda Cadwyn a Chartrefi Cymoedd Merthyr (CCM) i adolygu sut maent yn ymgysylltu ac yn cynnwys tenantiaid.

Llais y bobl

Mae ProMo-Cymru yn credu mai’r ffordd orau i gyfathrebu gyda phobl ydy drwy osod eu llais wrth galon gwasanaethau.

Prif bwrpas y prosiect gyda CCM oedd creu dialog gyda’r tenantiaid i adnabod a blaenoriaethu’r gweithgareddau neu wasanaethau sydd yn darparu’r gwerth cymdeithasol orau iddynt, a pa declynnau digidol defnyddiol gellir eu defnyddio gan CCM i wella cyfleoedd am ddialog.

Roedd ein gwaith gyda Cadwyn yn edrych ar wella profiad cyffredinol y tenant – gan ddefnyddio trawsffurfiad digidol ac archwiliad fel bod y gwasanaethau yn dod yn fwy ymatebol i anghenion tenantiaid.

Llun o'r fideo tenantiaid i'r erthygl ymgysylltu

Ein dull

Wrth galon ein dull o weithio oedd gwrando ar denantiaid a gweithio gyda nhw i gyd-gynllunio datrysiadau.

Siaradom wyneb i wyneb ac ar y ffôn gyda thenantiaid CCM a mapiwyd y strategaethau a’r prosesau presennol defnyddir gan CCM i ddarparu gwerth cymdeithasol i denantiaid a’r gymuned gyfagos. Roedd yr ymarfer mapio yma yn edrych ar y dulliau defnyddiwyd gan CCM i gyfathrebu gyda’i denantiaid, sut mae tenantiaid yn cyfathrebu gyda nhw, a sut roedd gwybodaeth yn cael ei rannu yn fewnol.

Dull ProMo-Cymru o weithio ar yr adolygiad Cadwyn oedd i siarad a gwrando ar gymaint o denantiaid a staff i gael amrywiaeth safbwynt o gyfranogiad tenantiaid. Cawsom glywed sawl stori bersonol y tu ôl i ddarganfyddiadau’r Arolwg Boddhad Tenantiaid gyda chyfweliadau manwl.

Gweithio gyda thenantiaid

O ganlyn y gwaith ymgynghorol rhoddwyd awgrymiadau at ei gilydd i symleiddio gwybodaeth a phrosesau cymhleth sydd yn gallu bod yn rhwystr i’r defnyddiwr.

Esiampl o hyn yw pan fum yn gweithio gyda grŵp o denantiaid Cadwyn i gyd-gynhyrchu animeiddiad byr yn egluro sut gallant gymryd rhan mewn cyfranogiad ac ymgysylltiad tenantiaid.

Gyda’n cymorth a’n cefnogaeth ni, drafftiodd y tenantiaid sgript roeddent yn teimlo bydda’n cael ei ddeall yn hawdd gan bawb, wedi’i ysgrifennu mewn ffordd oedd yn apelio atynt. Ymunodd un o’r tenantiaid gyda ni yn y stiwdio recordio i recordio’r troslais ar gyfer yr animeiddiad. Teimlodd bod hyn yn “brofiad gwych”.

Beth gall ProMo-Cymru ei wneud ar gyfer cymdeithasau tai

Edrychwn ymlaen at barhau’r gwaith yma gyda mwy o gymdeithasau tai fel eu bod yn cynnwys eu tenantiaid wrth gynllunio, trosglwyddo a gwella gwasanaethau.

Rydym yn brofiadol mewn ymgysylltiad digidol. Rydym yn credu mewn cyd-gynllunio gwybodaeth glir a llwybrau cyfathrebu gyda’n cleientiaid a’r bobl maent yn gweithio â nhw. Rydym yn canolbwyntio ar gynhwysiad, hygyrchedd a llais.

Gallem weithio gyda chi i:

– Trawsffurfio diwylliant sefydliadol, systemau, prosesau i wella profiad y cwsmer

– Cysylltu gyda thenantiaid, deall yr hyn sydd yn bwysig iddynt a chaniatáu i’w barn lunio gwasanaethau

– Cyfathrebu yn effeithiol yn ddigidol, darparu tenantiaid gyda gwybodaeth o ansawdd yn ogystal â chasglu adborth cyfredol rheolaidd fel rhan o welliant parhaol

I ddarganfod mwy, cysylltwch â nathan@promo.cymru.