[Wedi cau] Swyddog Prosiectau Digidol

by Andrew Collins | 14th Rhag 2021

Swyddog Prosiectau Digidol

35 awr yr wythnos
Cyflog £22,721 – £27,776
Cytundeb parhaol (yn amodol ar gyllid)

Mae ProMo-Cymru yn gweithio i sicrhau bod pobl ifanc a chymunedau yn wybodus, wedi’u cysylltu ac yn cael eu clywed. Rydym yn cydweithio i greu cysylltiadau rhwng pobl a gwasanaethau gan ddefnyddio creadigrwydd a thechnoleg ddigidol. Yn cefnogi’r trydydd sector a’r sector cyhoeddus i ddychmygu, profi a chreu gwasanaethau gwell.

Mae ProMo-Cymru wedi gweld cryn arloesi a thyfiant yn y 30 mlynedd diwethaf. Rydym yn gwerthfawrogi pwysigrwydd cymwysterau a phrofiad ond mae ProMo hefyd yn chwilio am yr unigolion cywir sydd yn gallu cynnig rhywbeth newydd a gwahanol i’n sefydliad.

Rydym yn cydbwyso gwaith tîm, annibyniaeth ac ymdeimlad o gyfrifoldeb i wella ein gwasanaethau a’n cynnyrch. Rydym yn gweithio’n galed ar ran ein cleientiaid a’n partneriaid ac yn mwynhau rhannu’r gwobrwyon gyda nhw. Anogir gweithwyr i fod yn rhan o’r broses arwain a gwneud penderfyniadau, gan roi sylw personol i eraill a gwneud i bob unigolyn deimlo fel ei fod yn cael ei werthfawrogi.

Rydym yn chwilio am gydweithwyr sydd yn gallu gweithio yn ôl y gwerthoedd yma. Rydym angen pobl ragweithiol sydd â brwdfrydedd, eglurder a gweledigaeth. Os ydych chi’n teimlo fel eich bod chi yn cyrraedd yr uchod, rydym yn recriwtio a byddem wrth ein boddau yn clywed gennych chi!

Swyddog Prosiectau Digidol 

Mae ein Tîm Cyfathrebu ac Ymgysylltu yn chwilio am Swyddog Prosiectau Digidol creadigol, trefnus a hunanysgogol, sydd â’r profiad a’r hyder i gynnal sawl prosiect digidol ar y cyd, mewn amgylchedd cyflym. 

Mae ein prosiectau yn canolbwyntio ar gefnogi’r trydydd sector a’r sector cyhoeddus i greu gwasanaethau gwell ac i alluogi llais ieuenctid a chymunedol trwy greadigrwydd a digidol. Rydym yn credu y dylai plant a chymunedau gael mynediad i wybodaeth, eiriolaeth a chefnogaeth mewn ffordd sydd yn hawdd i’w ganfod, yn syml i’w ddeall ac mewn ffurf y gallant ei ddefnyddio. 

Mae’r swydd hon yn cynnwys gweinyddu, trefnu, hyrwyddo a marchnata holl weithgareddau prosiect mewn cydweithrediad â chyd-weithwyr o fewn ein tîm. Rhan arall o’ch swydd fydd i gefnogi elusennau gyda’r wybodaeth a’r sgiliau i ddatblygu’n ddigidol, ac felly rydym yn chwilio am rywun sydd ag arbenigedd mewn un neu fwy o ddisgyblaethau digidol. Gall hyn fod yn Cynllunio Gwasanaeth, Marchnata Digidol neu bwnc perthnasol arall. 

Mae ein gwasanaethau masnachu yn canolbwyntio ar drawsffurfiad digidol gan ddefnyddio: Cynllunio Gwasanaeth, Cyd-gynllunio Cyfryngau Digidol, Gwybodaeth Ieuenctid Digidol a Hyfforddiant ac Ymgynghoriaeth. 

Hoffem glywed gan ymgeiswyr sydd â sgiliau cyfathrebu a chynllunio rhagorol, ynghyd â phrofiad o gyflwyno prosiectau digidol. Rydym yn chwilio am rywun sydd yn hapus i achub y blaen ac yn ffynnu ar yr her o gyflawni a datblygu nifer o brosiectau ar yr un pryd. Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol brofiad o weithio o fewn y trydydd sector a’r sector cyhoeddus. 

Lawr lwythwch y disgrifiad swydd.

Lawr lwythwch y pecyn cais yma. 

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â: pat@promo.cymru 

ProMo-Cymru ,
17 Stryd Bute y Gorllewin,
Bae Caerdydd,
CF10 5EP 

www.promo.cymru 

(029) 2046 2222 

Dyddiad Cau: Dydd Llun 31ain Ionawr 2022, 12 y prynhawn 

Dyddiadau Cyfweld (ar Zoom): Dydd Mercher 9fed a Dydd Gwener 11eg Chwefror