by Andrew Collins | 6th Hyd 2023
Mae cyfle newydd a chyffroes wedi codi yn ProMo-Cymru Cyf am Gydlynydd Gwirfoddoli i ymuno â’n tîm brwdfrydig yn Institiwt Glynebwy. Bydd y person llwyddiannus yn gyfrifol am ddatblygiad a chydlyniad holl weithgareddau gwirfoddoli, gan sicrhau profiad gwirfoddoli gwobrwyol a phositif yn EVI.
Cytundeb: Cytundeb 12 mis i gychwyn (parhad yn ddibynnol ar gyllid)
Lleoliad: Institiwt Glynebwy
Cyflog: £24,410 – £28,627
Cyflog Cychwyn: £24,410
Oriau: 35 awr yr wythnos
Swydd Ddisgrifiad
Rydym yn awyddus i recriwtio Cydlynydd Gwirfoddoli brwdfrydig a threfnus i gefnogi a mentora ein tîm o wirfoddolwyr cynyddol ar eu siwrne gwirfoddoli yn EVI. Bydd y swydd yn cynnwys:
1. Cysylltu gyda’r gymuned leol i recriwtio gwirfoddolwyr newydd
2. Cwblhau ffurflenni cofrestru a chytundebau gwirfoddolwyr
3. Mentora gwirfoddolwyr a sicrhau bod ein cynllun dysgu unigol i wirfoddolwyr, Fy Siwrne EVI, yn cael ei lenwi
4. Anwytho gwirfoddolwyr, gan gynnwys hyfforddiant iechyd a diogelwch
5. Gweithio gyda Chredydau Amser Tempo, Elite Clothing, Cymunedau Dros Waith a Mwy, a sefydliadau cymunedol eraill i hyrwyddo a chefnogi cyfleoedd gwirfoddoli yn EVI
6. Cefnogi cyfleoedd gwirfoddoli sy’n bodoli yn EVI a chreu a datblygu cyfleoedd ychwanegol
7. Gweithio’n agos gyda’r tîm EVI i gefnogi cymuned Glynebwy a Blaenau Gwent wrth ddatblygu gwasanaethau a gweithgareddau
8. Cefnogi arolygu ac adrodd i ‘Pobl a Sgiliau’ Cronfa Ffyniant Cyffredin y DU trwy Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
Dyddiad cau: 27ain Hydref 2023
Dyddiad cyfweld: w/c 6ed Tachwedd 2023
Cyswllt: info@promo.cymru