Model TYC: TheSprout a Hidlyddion Homoffobig Ysgolion

by Tania Russell-Owen | 27th Medi 2017

Nid o dechnoleg yn unig ddaw arloesiad. Mae’n dod o ddealltwriaeth o’r ffordd mae pobl yn cysylltu gyda gwasanaethau. A sut i fod o werth i unigolyn.

Dyma’r dull sydd wrth galon ein model TYC.

Mae TheSprout yn gylchgrawn ar-lein i bobl ifanc Caerdydd. Mae’n cael ei danategu gan adran gwybodaeth ieuenctid. Mae theSprout yn le i bobl ifanc rannu eu newyddion, barn, gwybodaeth, cyngor a mwy.

TheSprout.co.uk Logo

Un o’r esiamplau cynnar o Fodel TYC ProMo-Cymru oedd pan rannodd defnyddiwr y newyddion bod eu hysgol yn rhwystro mynediad i wefannau am artistiaid hoyw. Dyma ShroukiePoo! i fanylu…


Chwiliad Diogel Ysgol: Homoffobig?

Heddiw roedd rhaid i mi wneud gwaith ymchwil ar gyfer gwaith Celf AS yn ymwneud ag artistiaid. Roedd un o’r artistiaid, Elizabeth Peyton, gyda llun portread o Oscar Wilde a Bosie (ei gariad gwryw). Felly penderfynais geisio chwilio “Oscar Wilde a Bosie” ac roedd Chwilio Diogel RM yn gwahardd mynediad i’r mwyafrif o’r gwefannau oedd yn ymddangos yn y chwiliad, felly ymlaen a fi.

Oscar a Bosie, 1998 gan Elizabeth Peyton ar gyfer Model TYC: TheSprout a Hidlyddion Homoffobia Ysgolion

Oscar a Bosie, 1998 gan Elizabeth Peyton trwy Pinterest

Yna roedd rhaid i mi chwilio am Andy Warhol ac roedd y mwyafrif o’r gwefannau yma wedi’u gwahardd hefyd. Roeddwn eisiau sicrhau bod y Diogelwch RM yn blocio oherwydd rhywioldeb ac nid am ryw reswm arall. Chwiliais ‘gwrywgydiaeth” ac… ROEDD WEDI’I FLOCIO! SIOC!

Dywedais wrth athrawes a chwarddodd hithau, yna dywedodd wrth athrawes arall a dywedodd hi wrthyf ddweud wrth fy athro celf nad allwn ymchwilio fy ngwaith am ei fod wedi’i wahardd. Roedd hyn yn braf ond nid dyma’r pwynt! Nid oedd neb yn cymryd hyn o ddifrif! Mae’r Chwiliad Diogelwch RM, yn ôl yr hyn y deallaf, yn cael ei osod gan y cyngor (dylid bod yn esiampl i ieuenctid Cymru) sydd yn gosod esiampl ddrwg iawn wrth flocio pethau fel hyn.

Wrth wahardd mynediad i ymchwilio ‘gwrywgydiaeth’ mae’n gyrru’r neges bod siarad am neu drafod gwrywgydiaeth yn anghywir. Dwi’n credu hefyd mai pethau fel hyn sydd yn ei wneud yn iawn i rai myfyrwyr gael eu poeni oherwydd eu tueddiad rhywiol.

Nid yw hyn yn iawn! Dwi ddim yn gwybod ble i gwyno gan nad yw’r athrawon wedi cynnig help o gwbl a ddim yn meddwl ei fod yn broblem fawr ychwaith! E-bostiais Stonewall am hyn yn y gobaith o ledaenu’r neges a chymryd y camau cywir. A dylech chi hefyd, bobl hyfryd theSprout, wneud FFWDAN FAWR!

Diolch o galon.


Ac yn wir bu ffwdan fawr

Cysylltais â swyddog cydraddoldeb Cyngor Caerdydd, yn ogystal ag arweinydd y grŵp LHDT o Gaerdydd Loud and Proud, a’u hannog i ymateb i’r erthygl yn yr adran sylwadau.

Gyda dialog rhwng y bobl ifanc oedd yn poeni a’r swyddogion yn y cyngor, llwyddodd theSprout i hwyluso’r newid positif. Newidiwyd y llen dân. Ond ni ddarganfuwyd pa farc gafodd ShroukiePoo! am ei gwaith cartref.

Dyma yw ystyr arloesiad a’r model TYC. Amlygu sut i gysylltu a chefnogi gyda dull dynol a digidol.


Mae popeth yn cychwyn gyda sgwrs

Mae ProMo-Cymru yn gweithio tuag at greu newid positif a pherthnasau parhaol rhwng unigolion, teuluoedd a chymunedau. Rydym yn darparu datrysiadau arloesol a chreadigol gyda sgyrsiau ystyrlon a thechnoleg ddigidol. Os hoffech drafod sut gall ein Model TYC helpu eich sefydliad yna cysylltwch.

029 2046 2222
info@promo.cymru
@ProMoCymru

 Llun clawr: CC BY-SA 3.0, Dolen