Manteisio ar Ffenomenon y Podlediad

by Thomas Morris | 6th Maw 2019

Mae’r podlediad yn atgyfodi. Yn ganlyniad cyfres o ddamweiniau difyr yn y 00’au cynnar, mae fformat y podlediad wedi prifio ac yn cael ei dderbyn fel ffurf gyffredin o adloniant bellach – a’r un mwyaf democratig gellir dadlau.

Os ydych chi’n elusen neu’n fenter gymdeithasol sydd yn ceisio cael neges allan i gynulleidfa ehangach, yna mae’n hanfodol i chi ddeall a chysylltu â’r cyfrwng yma sydd wedi aeddfedu’n ddiweddar.

Meic radio o flaen ipad ar gyfer erthygl podlediad

Tiwnio i’r pod-ddalwyr

Os nad ydych chi’n dyst i’r ffenomenon clywedol cludadwy eto, yna rydych chi’n colli allan! Mae yna sawl rhaglen gwrando ar bodlediadau gwych i roi tro arnynt, gelwir yn pod-ddalwyr (podcatchers).

Mae Apple yn rhoi cefnogaeth swyddogol – ac yn brif geidwad – i’r cyfrwng ers tro, gydag adran podlediadau iTunes. Bellach mae Google wedi rhyddhau rhaglen podlediad swyddogol, sydd yn argoeli’n dda i ddefnyddwyr Android.

Cysylltu â’r podledwyr

Am beth fydd pobl yn siarad amdanynt ar bodlediadau? Mae yna raglenni radio wedi’u haddasu fel The Reith Lectures a Tomorrow’s World y BBC.

Ond mae’r gwir unigoliaeth yn dod gyda’r podlediadau llai, rhai sy’n cael eu staffio gan un neu ddau berson, yn cael eu recordio mewn ystafell wely yn aml – esiampl dda fydda Minty’s Gig Guide to Cardiff, ble mae’n cyfweld cerddorion ar wahanol gyfnodau yn eu gyrfa o’i stiwdio (neu’r ‘ystafell wely’ fel mae’n cyfaddef yn frwdfrydig).

Hysbyseb podlediad Distraction Pieces

Buddiannau podledu

Braint arall sydd gan bodledwyr ydy’r mynediad i ddata cyfoethog am ddemograffeg y bobl sydd yn gwrando ar y podlediad – sydd yn aml yn cael ei gyfoethogi gyda chymuned cyfryngau cymdeithasol agos. Mae llawer o bodlediadau yn ddibynnol ar arddull cyfweliad ar gyfer cynnwys, ac mae cyflwynwyr yn aml yn awyddus iawn i groesawu elusennau i ddod i siarad am eu hachos. Bu Scroobius Pip, podlediwr a’r cerddor, yn cyfweld â Natalie Clapshaw yn ddiweddar o’r elusen anafiadau i’r ymennydd, Headway, ar ei bodlediad Distraction Pieces. Mae Radio Cardiff hefyd yn cyflwyno sioe reolaidd i elusennau gael trafod eu gwaith.

Un o’r pethau gorau am y cyfrwng ydy bod y gwrandawyr yn teimlo cysylltiad yn aml. Mae gwrandawyr wedi cadw amser arbennig yn ystod y dydd, i ddysgu rhywbeth diddorol am y byd wrth ddodi’r clustffonau ymlaen a gwrando.

Hunanlediad

Os ydych chi’n meddwl bydda podlediad yn ffordd dda i gael neges eich sefydliad allan yn well, mae yna sawl opsiwn i chi sydd yn cadw costau’n isel.

Yr opsiwn hawsaf ydy defnyddio’r rhaglen Anchor. Mae posib recordio gyda ffôn clyfar, golygu ar eich cyfrifiadur, a chyflwyno’ch podlediad i iTunes ac, o fan hyn, yr holl pod-ddalwyr eraill, gydag un neu ddau glic.

Fel arall, gellir defnyddio’r rhaglen cyfrifiadur Virtual DJ, sydd yn cynnwys cymysgu aml sianel, i gyd am ddim. Mae’r gwasanaeth gwe Podbean yn cynnig gwe-letya podlediad yn rhad/am ddim, mae Mixcloud yn gwneud hynny hefyd. Os oes gennych chi gyfrif Apple, mae’n hawdd cyflwyno’ch porth RSS i iTunes, ac o’r pwynt yma mae’r byd yn agored i chi.

Logo Podlediad Strangetown

Here to help

Mae gan ProMo-Cymru brofiad yn cyflwyno hyfforddiant podlediad ac wedi datblygu podlediad i bobl ifanc mewn cydweithrediad â Radio Platfform. Mae Strangetown wedi’i greu i wefan theSprout ar gyfer pobl ifanc yng Nghaerdydd. Gellir gwrando ar y rhaglenni diweddaraf wrth sgrolio i waelod tudalen cartref y Sprout neu ar dudalen Radio Platfform ar wefan Canolfan Mileniwm Cymru.

Os hoffech gymorth i sefydlu Podlediad yna byddem yn hapus iawn i drafod sut gall ProMo-Cymru helpu gyda hyfforddiant. Cysylltwch: arielle@promo.cymru

Gair o gyngor: os ydych chi’n cychwyn podlediad cynnar, nid chi fydd yr unig un. Gan ei bod yn llawer haws i wneud hyn bellach, mae pawb yn dewis gwneud. Bydd rhaid i chi ddeall y diweddaraf yn yr arena glywedol yma – lle da i wneud hyn ydy gyda chylchlythyr Hot Pod Nick Quah a Nieman Lab.