by Andrew Collins | 4th Rhag 2023
Mae gan ProMo-Cymru ddwy swydd agored i ymuno â’r Tîm Gweithredu Cymdeithasol, yn gweithio ar draws sawl llinell gymorth!
Wedi ei adnewyddu am 4 mlynedd arall yn 2022, mae’r gwasanaeth arobryn Meic Cymru yn ehangu ac yn datblygu. Wrth weithio fel rhan o’r Tîm Gweithredu Cymdeithasol byddech yn trosglwyddo gwasanaethau llinellau cymorth gwybodaeth, cyngor, cymorth ac eiriolaeth i blant, pobl ifanc, rhieni, gofalwyr a gweithwyr proffesioynol wedi’i seilio ar hawliau ac yn canolbwyntio ar y person.
Rheolwr Gweithrediadau Llinellau Cymorth
£31,301 – £36,680
Dyddiad Cau: 5yh, Dydd Gwener 29fed Rhagfyr
Dyddiadau Cyfweliadau: 25 Ionawr 2024
Gyrrwch ffurflenni cais electroneg i: info@promo.cymru
Eiriolwyr Gynghorwyr Llinell Gymorth
£24,410-£28,627
Dyddiad Cau: 5yh, Dydd Gwener 29fed Rhagfyr
Dyddiadau Cyfweliadau: 24 Ionawr 2024
Gyrrwch ffurflenni cais electroneg i: info@promo.cymru
Mae’r ddwy swydd wedi’u lleoli yn y swyddfa ac/neu gartref.
Byddech yn:
– mwynhau gwaith ysgogol, heriol, a gwobrwyol
– creu cysylltiad cadarnhaol gydag amrywiaeth eang o bobl
– gwneud gwahaniaeth cadarnhaol gyda’r bobl sydd yn cysylltu
– cael dylanwad cadarnhaol ar y tîm
– gweithio sifftiau gan gynnwys penwythnosau a gyda’r nos (Eiriolwyr Gynghorwyr yn unig)
Yn ddelfrydol byddech yn gallu:
– cyfathrebu yng Nghymraeg neu fod yn barod i ddysgu
Dyddiad Cau: 5yh, Dydd Gwener 29fed Rhagfyr
Bydd angen archwiliad DBS uwch.
Cysylltwch â info@promo.cymru am wybodaeth
Gyrrwch ffurflenni cais electroneg i: info@promo.cymru
Mae ProMo-Cymru wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.
Mae ProMo-Cymru Cyf yn Elusen Gofrestredig Rhif: 1094652 Cwmni Cyfyngedig Rhif: 1816889