by Tania Russell-Owen | 1st Rhag 2016
Eisiau rhoi ychydig o flas seiberpync ar eich delweddau? Mae Sam, ein cydlynydd golygyddol yma yn ProMo-Cymru, yn rhannu 3 rhaglen ar-lein sydd yn gallu difetha’ch lluniau o ddifrif.
Mewn ffordd dda.
Dwi’n eithaf hoff o bethau sydd yn wonci. Pethau sydd wedi’u manglo braidd, wedi cael eu manipiwleiddio. Bod hynny’n fysus rhydlyd Rothfink, neu mp3’s o ansawdd isel, dwi wrth fy modd pan fydd pethau’n dechrau mynd o’i le. Mae hyn yn enwedig o wir pan ddaw at luniau. Mae ‘glitches’, rhwygo sgrin, ‘datamoshing‘ i gyd yn dda yn fy marn i.
“Ar hyn o bryd nid oes gwir gonsensws am y gwahaniaeth rhwng y termau ‘glitch’ a ‘byg’. Yng nghyfundrefn enwau rhyngrwyd cyffredinol, mae’r ddau air yn cyfeirio at gamgymeriadau sydd yn gweithio yn erbyn bwriad awduro, ond mae “byg” yn aml yn cael ei ystyried fel rhywbeth sydd yn fai ar rywun, tra bod “glitch” yn awgrymu rhywbeth mwy dirgel ac anhysbys sy’n cael ei greu gan fewnbwn annisgwyl neu stwff y tu allan i gylch y cod. Yn aml mae’r termau yn cael eu defnyddio’n gydgyfnewidiol.” – Alex Pieschel, Glitches: A Kind of History, Rhagfyr 2014
Dyma’r ddelwedd wreiddiol byddaf yn ei ddefnyddio i esbonio posibiliadau’r ‘glitch’…
Felly, ydych chi eisiau manipiwleiddio’ch lluniau? Dyma dair ffordd ar y we i chi wneud hynny.
1. Image Glitch Tool
Mae’r wefan gyntaf i mi ddod ar ei draws yn haeddu lle arbennig yn fy nghalon rhyngrwyd. Image Glitch Tool ydy’r rhaglen orau a fwyaf pur ar y rhestr yma, gyda’r canlyniadau yn aml mor wahanol fel nad allech chi adnabod y gwreiddiol ynddo.
2. Image Glitcher
Image Glitcher ydy’r un fwyaf Instagram gyfeillgar o’r cwbl, gan fod opsiwn ychwanegu llinellau CRT i gael golwg hollol retro.
3. MOSH
Hwn ydy’r peth newydd gorau gen i. Mae MOSH yn stwnshio data eich lluniau o fewn modfedd o’i fywyd. Mae yna lwyth o reolyddion, ond gallech chi hefyd recordio gifs wedi’u hanimeiddio a chwarae gydag ef mewn gwir amser wrth alluogi’ch gwe gamera. Mae MOSH yn adnodd am ddim gwych sydd yn creu delweddau anhygoel. Hefyd, os ydych chi’n pwyso ac yn dal y botwm bylchau ac yn recordio, mae hyn yn digwydd…
Rydym yn gwirioni cael creu delweddau anhygoel yma yn ProMo-Cymru ac yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau gan gynnwys ffotograffiaeth, a hyfforddiant sgiliau pwrpasol ar Fideo, Ffotograffiaeth ac Animeiddio.
Cysylltwch os hoffech chi drafod ffyrdd i weithio â’n gilydd i greu newid positif. A rhannwch eich campweithiau ‘glitch’ ar Twitter ac Instagram – @ProMoCymru.
Delwedd clawr gwreiddiol: Gan Jørund Føreland Pedersen (Gwaith ei hun) [CC BY-SA 3.0], trwy Wikimedia Commons