Sut Hawliom Ein Presenoldeb Ar-lein ar Facebook, TripAdvisor a Thu Hwnt

by ProMo Cymru | 18th Hyd 2017

Ysgrifennwyd gan Dan Grosvenor

Defnyddio Facebook fel Sefydliad:

Hawlio’ch Presenoldeb Ar-lein

Cyfryngau cymdeithasol ydy’r ffordd fwyaf poblogaidd i bobl gael mynediad i wybodaeth am, a chysylltu gyda, sefydliadau. Mae’n hanfodol bod y wybodaeth sy’n agored iddynt yn gyfoes ac yn gywir, a bod cysylltu gyda chi yn rhwydd. Bwriad y gyfres yma o ganllawiau byr ydy i ddysgu’r hanfodion o ddefnyddio Facebook yn effeithiol fel sefydliad.

Mae’n debyg eich bod chi ar Facebook yn barod

Hyd yn oed os nad ydych chi wedi cyffwrdd mewn cyfrifiadur erioed, efallai bod gennych chi dudalen Facebook yn barod… neu sawl un!

Unwaith i chi gofrestru i Facebook, y cam cyntaf dylid ei wneud yw chwilio enw eich sefydliad. Pam? Rhag ofn eich bod yno’n barod.

Nid yw Facebook yn disgwyl i chi ymuno, os yw pobl yn siarad amdanoch chi, mae Facebook yn creu tudalen. Mae rhai defnyddwyr hefyd yn creu tudalennau a grwpiau, yn enwedig i leoliadau.

Dyma oedd yn arfer ymddangos wrth i chi chwilio EVI:

chwiliad evi ar gyfer cyngor Facebook

Er yr amrywiad bychan yn yr enw a’r manylion, mae’n amlwg bod y rhain i gyd yn cyfeirio at yr un lleoliad.

Colli rheolaeth

Mae yna sawl rheswm pam bod hyn yn broblem. Mae’n ddryslyd gan nad oes posib gwybod pa un yw’r tudalen swyddogol (os oes un o gwbl). Yn aml mae tudalennau answyddogol yn cynnwys gwybodaeth o Wikipedia ac/neu fewnbwn gan aelodau’r cyhoedd – nid yw’n ddibynadwy bob tro (nid yw Glyn Ebwy yng Nghas-gwent). Nid oes gennych chi unrhyw reolaeth dros y pethau dywedir. Yn ogystal ag achosi dryswch, mae’n hollti eich cynulleidfa. Wrth gyfuno’r tudalennau yma yn un bydd yna *9,169 o gefnogwyr a 871 yn dweud eu bod wedi bod yno.

* Yn cymryd yn ganiataol bod pob ‘hoffi’ yn dod o ddefnyddiwr unigryw. Mewn gwirionedd roedd nifer o’r defnyddwyr yma wedi hoffi sawl tudalen EVI.

Nid yw’r tudalennau answyddogol yma yn debygol o fod yn faleisus. Mae’n fwy tebygol eu bod wedi’u creu gan bobl sydd wedi tagio, adolygu neu wedi bod yn rhan o’ch sefydliad fel arall ac eisiau siarad amdano. Edrychwch ar y dudalen answyddogol:

Mae’n debyg bod y tudalen yma wedi’i greu am fod defnyddiwr wedi tagio lleoliad llun ar Instagram (mae Facebook yn berchen arno). Nodwch fod yna ddiffyg gwybodaeth, gan gynnwys camlythreniad yng nghyfeiriad y wefan.

Datrys y dryswch

Yn ffodus, mae’n hawdd hawlio tudalennau answyddogol. Bydd hyn yn caniatáu i chi eu cymryd drosodd neu gyfuno’r rhain gyda thudalen swyddogol.

Cliciwch ar ‘Is this your business?’ yn y gornel top ar y dde

Mae tudalen wedi’i wireddu yn dangos yn uwch mewn canlyniadau chwilio ac yn cynnwys tic cysurol, yn cadarnhau ei fod yn swyddogol. Os oes rhif ffôn swyddfa wedi’i restru yna mae cael eich gwireddu yn hawdd wrth i chi ateb galwad a theipio cod. Mae’n werth gwneud.

Ar ôl gwireddu ein tudalen a’i gyfuno gyda’r tudalennau answyddogol, roedd y canlyniadau chwilio yn edrych llawer gwell:

Llawer mwy twt. Dim dryswch, a thic wedi’i wireddu.

Cofiwch, ni ddylid tynnu hawl pobl i siarad am eich sefydliad; dylid caniatáu i hyn ddigwydd mewn un lle swyddogol (gyda’r opsiwn o safoni os oes angen). Felly sicrhewch y gall pobl barhau i bostio ar y wal, tagio’r dudalen, a bod yn rhan ohono. Dyma’r neges dylid ei rannu – “Hei, diolch i ti am siarad amdanom ni – parhewch i wneud hynny ar y dudalen newydd, swyddogol” yn hytrach nag “ni sydd yn rheoli nawr, felly wfft i chi”.

Gwnewch eto!

Nawr eich bod yn deall sut i hawlio’ch presenoldeb ar-lein ar Facebook, cadwch lygaid am wefannau eraill ble mae posib gwneud yr un peth. O LinkedIn i Foursquare, mae yna ddigonedd o lefydd ble mae pobl yn siarad amdanoch chi. Sicrhewch eich bod yn rhan o’r sgwrs.

Nid i Facebook yn unig mae hyn yn wir. (Sgrinlun o fapiau Bing)

Mwy o Gyngor Facebook


Os oedd yr erthygl yma yn gynorthwyol i chi, dilynwch ni ar Facebook am awgrymiadau a thriciau eraill!

Eisiau dysgu mwy? Cysylltwch am ein hyfforddiant cyfryngau cymdeithasol pwrpasol.