Cyngor Facebook: Creu Proffil Neu Dudalen

by ProMo Cymru | 1st Mai 2017

Ysgrifennwyd gan Dan Grosvenor

Defnyddio Facebook fel Sefydliad

Rhan 1: Creu Proffil Neu Dudalen

Cyfryngau cymdeithasol ydy’r ffordd fwyaf poblogaidd i bobl gael mynediad i wybodaeth am, a chysylltu gyda, sefydliadau. Mae’n hanfodol bod y wybodaeth sy’n agored iddynt yn gyfoes ac yn gywir, a bod cysylltu gyda chi yn rhwydd. Bwriad y gyfres yma o ganllawiau byr ydy i ddysgu’r hanfodion o ddefnyddio Facebook yn effeithiol fel sefydliad.

Tudalennau a Phroffiliau

Os ydych chi’n newydd i Facebook y peth cyntaf i’w ddeall ydy bod yna ddau fath o ddefnyddiwr Facebook:

Mae gan bob defnyddiwr Facebook Broffil. Proffil ydy eich hunaniaeth ar-lein: mae’n bersonol ac yn gymedrol breifat. Dyma ble rydych chi’n rhestru eich hoff bethau (Hoffi), ac yn rhannu eich meddyliau a’ch atgofion, ac mae’n cael ei ddefnyddio i ryngweithio ag eraill. Pobl ydy proffiliau.

Tudalen Dan - Cyngor Facebook - Rhan 1: Creu Proffil Neu DudalenProffil

Mae Tudalen yn bresenoldeb cyhoeddus. Rhaid ystyried hwn fel eich gwefan. Gall tudalen ymwneud ag unrhyw beth: cwmni, cynnyrch, seleb, ymgyrch… Y bwriad ydy i gael pobl (Proffiliau) i Hoffi a chysylltu gyda Thudalen eich sefydliad. Os yw hyn yn drysu, na phoener: pan fyddech chi wedi cofrestru i Facebook ac yn dechrau ei ddefnyddio bydd yn gwneud synnwyr.

Tudalen

Ar un adeg dim ond Proffiliau oedd ar Facebook. Os oes gennych chi hen gyfrif efallai bydd yn edrych fel Proffil person yn hytrach nag Tudalen sefydliad. Na phoener – mae’n hawdd ei droi i mewn i Dudalen. Neu, efallai hoffech ei droi’n Broffil Proffesiynol:

https://www.promo.cymru/proffil-facebook-proffesiynol/?lang=cy

Bydd angen Proffil cyn i chi sefydlu Tudalen cwmni eich hun. Peidiwch â phoeni gormod am y Proffil am nawr – cadwch ef wedi’i gloi i lawr yn breifat os hoffech, byddem yn trafod hyn mewn pennod hwyrach.

Creu Tudalen

Nawr mae’n amser creu Tudalen

Dewiswch y categori sydd yn gweddu eich sefydliad orau

Bydd gofyn i chi ddewis gwahanol feysydd i’w llenwi. Llenwch y rhain mor gywir â phosib: bydd eich tudalen yn fwy diddorol gyda mwy o wybodaeth (er esiampl: bydd rhoi cyfeiriad yn gosod map rhyngweithiol ar eich Tudalen).

Ei Gyhoeddi’n Swyddogol

Gall unrhyw un sefydlu Tudalen. Dylid un o’ch blaenoriaethau cyntaf fod yn sicrhau ymwelwyr mai hwn ydy’r Dudalen swyddogol. Llwythwch eich logo fel eich avatar, a darganfod llun llydan da – wedi’i frandio gorau oll – ar gyfer eich llun clawr. Efallai llun grŵp o’r staff, neu rywbeth sydd yn cynrychioli’r gwaith rydych chi’n ei wneud.

Gwireddwch eich tudalen. Bydd hyn yn gwneud iddo ddangos yn uwch mewn canlyniadau chwiliadau ac yn gosod tic swyddogol ar y brig.

Cofleidio’r Hoffi (yn enwedig os ydych chi’n cynnal sawl tudalen!)

Mae Tudalennau yn gallu Hoffi Tudalennau eraill, ac yn awgrymu 5 o’u ffefrynnau. Ewch ati i ddarganfod pa sefydliadau partner neu Dudalennau eraill sydd yn adlewyrchu eich ethos. Cliciwch y ‘…’ botwm a dewis ‘Hoffi fel eich Tudalen’.

Dychwelwch i’ch Tudalen, agor Gosodiadau, ewch i ‘Featured’ a dewis ‘Add Featured Likes’ (y dewisiadau yma ar gael yn uniaith Saesneg pan ysgrifennwyd y blog yma).

I gychwyn gall hyn fod yn ddefnyddiol i roi syniad i’ch cynulleidfa o’r fath o sefydliadau rydych chi’n cysylltu â nhw neu’n debyg iddynt. Ond mae ei gwir werth yn dod wrth i chi berswadio eraill i restru chi fel ‘Featured Like’ gan ei fod yn amlygiad am ddim gwych.

Ateb yn Brydlon i Negeseuon

Bydd gwneud hyn yn datgloi eicon ychwanegol – ond rhaid cadw ati neu bydd hwn yn diflannu! (Ond mae posib gosod oriau swyddfa fel bod pobl yn ymwybodol o’r amser gorau i’ch cysylltu.)

Unwaith i chi gael digon yn Hoffi, bydd posib i chi ddewis addasu eich URL (e.e. www.facebook.com/fysefydlidad).

Gobeithio bod hyn yn ddigon i’ch cychwyn. Dilynwch ni ar Facebook am gyngor a thriciau ychwanegol!

Eisiau dysgu mwy? Cysylltwch am ein hyfforddiant cyfryngau cymdeithasol pwrpasol.