Dod i Adnabod Ein Gwirfoddolwr EVS Daniele

by Tania Russell-Owen | 30th Ebr 2019

Dros y blynyddoedd mae 17 o wirfoddolwyr Ewropeaidd wedi dod trwy ddrysau ProMo-Cymru trwy’r cynllun EVS*. Maent yn gweithio i’r sefydliad am hyd at 12 mis, yn gwella sgiliau, dod yn aelod gwerthfawr o’r tîm ac yn ein helpu i dyfu ac arloesi. Dyma gyfle i gyflwyno’r diweddaraf.

Gwirfoddolwr EVS Daniele Mele

Mae Daniele Mele, 27, yn dod o Nuoro, Sardinia, tref fach llawn hanes a natur, wedi’i leoli ymysg y mynyddoedd yng nghanol yr ynys. Ers hwyr yn 2018 mae wedi bod yn rhan o dîm ProMo-Cymru, a dyma amser perffaith i ddarganfod mwy amdano a dysgu mwy am ei brofiad hyd yn hyn.

Mae Daniele wedi bod yn gweithio yn y maes hysbysebu a chyfathrebu ers gadael yr ysgol. Ar ôl gweithio yn y maes amgylcheddol yn ddiweddar, mae wedi dod yn brofiadol mewn dylunio graffeg, cynhyrchu cynnwys amlgyfrwng, marchnata a chyfathrebu.

Beth oedd apêl y cynllun EVS?

Clywais am y cynllun ychydig flynyddoedd yn ôl gan gwpl o ffrindiau oedd yn wirfoddolwyr EVS yn Sbaen. Blwyddyn yn ôl roeddwn yn chwilio am brofiad gweithio dramor a chofiais amdano.

Maent yn cynnig llawer o gyfleoedd, ac mae posib darganfod prosiectau sydd yn ffitio i’ch disgwyliadau gyrfaol. Maent yn gynorthwyol iawn os ydych chi’n gweithio dramor am y tro cyntaf, yn eich tywys drwy bob cam fel nad ydych chi ar ben eich hun wrth wneud y newidiadau mawr yma. Mae gennych chi diwtor sydd yn helpu chi i setlo yn y wlad a’r swydd newydd.

Pam dewis ProMo-Cymru a Chaerdydd?

Roeddwn yn chwilio am brosiect i gyd-fynd â’m sgiliau, ac eisiau rhywbeth yn y DU fel y gallwn wella fy Saesneg. Roedd ProMo-Cymru yn cynnig cyfle i weithio mewn cynhyrchu cyfryngau a chyfathrebu, i ddysgu gan dîm proffesiynol a gweld sut roeddent yn gweithio ac yn datblygu prosiectau yn y trydydd sector. Roeddwn hefyd yn awyddus iawn i weithio mewn cynhyrchu fideo ac eisiau dysgu sgiliau newydd. Roedd byw mewn dinas fel Caerdydd yn apelio hefyd. Roedd y syniad o fyw mewn prifddinas dramor yn gyffrous iawn i rywun o dref fach yn yr Eidal.

Beth yw dy farn am Gymru hyd yn hyn?

Doeddwn i ddim wedi teithio llawer y tu allan i’r Eidal cyn dod yma. Dyma’r tro cyntaf i mi ymweld â’r DU. Wyddwn i ddim llawer am Gymru o flaen llaw. Ar ôl gwneud y cais, dechreuais ddysgu mwy. Mae wedi rhagori pob disgwyliad. Rwy’n teimlo’n gartrefol yma ers yr wythnos gyntaf, ac mae’r mwyafrif o’r bobl wedi bod yn hapus i helpu a’m nghyflwyno i Gaerdydd a Chymru. Ar ôl bod yma ychydig fisoedd, mae’n glir bod caredigrwydd yn rhan o’r diwylliant yma. Mae’n fy atgoffa o Sardinia.

Rwy’n hoff iawn o Gaerdydd. Mae’n ddinas llawn bywyd gyda rhywbeth i’w wneud pob dydd a llawer o fyfyrwyr rhyngwladol i ddod yn ffrindiau â nhw. Mae’r bywyd nos yn peri syndod hefyd!

Rwyf wedi ymweld â sawl lle dros y wlad. Rwy’n hoff o ba mor amrywiol yw’r dirwedd, a chymaint o lefydd naturiol anhygoel gellir ymweld â nhw, fel y mynyddoedd, coedwigoedd a thraethau. Mae yna lawer o gastelli, adfeilion a threfi bychan, felly digonedd i wneud heb orfod teithio’n rhy bell.

Beth yw’r prif wahaniaethau rhwng adref ac yma?

Mae’n eithaf doniol, rwy’n meddwl bod Sardinia a Chymru yn debyg iawn. Rydym yn ddwyieithog (yn siarad Eidaleg a Sardineg). Mae yna fwy o ddefaid na phobl ac nid oes llawer o ddinasoedd, ond mae yna nifer o drefi bach ymysg y mynyddoedd ac ardaloedd gwledig. Mae’r bobl hefyd yn falch iawn o’u hunaniaeth genedlaethol neu ranbarthol a’u diwylliant.

Ond mae yna lawer o wahaniaethau hefyd, y prif un yw’r tywydd. Mae’n llawer oerach a glawog yma yng Nghymru! Mae’r tirweddau a’r bensaernïaeth yn wahanol hefyd.

Mae’r bwyd yn wahanol iawn, nid y math o fwyd yn unig, ond y ffordd mae’n cael ei fwyta. Mae’n beth cyffredin i bawb bwyta gyda’i gilydd fel teulu ac rydym yn mynd adref am ginio yn ystod y diwrnod gwaith, mae hwn yn bryd pwysig iawn yn yr Eidal. Mae pobl Brydeinig yn bwyta pryd nos yn fuan iawn, ac mae oriau’r gwaith yn wahanol hefyd. Mae’r swyddfeydd yma yn cau llawer mwy buan, am fod y cyfnod cinio yn fyrrach mae’n debyg.

Rwy’n hoff iawn o fod yma, yn dysgu am ddiwylliant Cymru a Phrydain, ond os oes un peth rwy’n ei golli yna prydferthwch yr Eidal yw hynny. Mae’n anodd egluro, ond mae yna brydferthwch a choethder yn perthyn i’r Eidal, rydych chi’n ei deimlo o’ch cwmpas, yn y manylion i gyd. Efallai dyma sydd yn gwneud yr Eidal yn enwog ac yn unigryw ledled y byd.

Beth fyddi di’n ei ddysgu o dy brofiad yma?

Rwyf wedi bod yma ers sawl mis nawr ac wedi dysgu llawer am gynhyrchu fideo, sut i ddefnyddio’r offer a defnyddio meddalwedd newydd. Bydd y profiad EVS yma yn fy helpu i wella fy ngwybodaeth a sgiliau proffesiynol.

Mae dysgu sut mae tîm fel ProMo-Cymru yn gweithio wedi bod yn ddiddorol iawn, a’r ffordd rwyf wedi gallu integreiddio a gweithio’n dda mewn cwmni mewn gwlad ddiarth.

Un o’r prif resymau dros ddod yma, a’r her fwyaf, oedd gwella fy Saesneg. Rwy’n teimlo mod i’n gwella bob dydd a ddim yn teimlo bod iaith yn broblem mwyach – mae’n rhan o’r siwrne yma ac un o’m nghyflawniadau pwysicaf.

Roedd yn bwysig gweld sut y byddwn yn setlo i fywyd newydd dramor, mewn gwlad ddiarth a’r holl newidiadau byddai’r flwyddyn yn ei gyflwyno. Rwy’n teimlo mod i wedi cyflawni rhywbeth pwysig yn gwneud hyn.

Beth wyt ti’n gobeithio ei wneud gyda’r amser sydd yn weddill?

Yn y misoedd nesaf hoffwn deithio mwy dros Gymru a’r DU, i ddarganfod cymaint â phosib am y diwylliant. Hoffwn barhau i wella fy Saesneg a chymryd amser i feddwl am beth i’w wneud yn dilyn fy mhrofiad EVS.

Ac yn olaf, beth yw’r pethau gorau i ti ei ddarganfod yng Nghymru hyd yn hyn?

Cacennau cri a’r tafarndai! 😀

Cysylltwch

Os hoffech holi mwy am gyfleoedd gwirfoddoli neu brofiad gwaith gyda ProMo-Cymru, cysylltwch.

*Cyfnewid UNA sydd yn trefnu’r rhaglen EVS defnyddir gan ProMo-Cymru i recriwtio gwirfoddolwyr o Ewrop.