[Wedi cau] Swyddog Prosiectau Digidol 

by Andrew Collins | 8th Tach 2023

Cyfle cyffrous i ymuno â’r tîm ProMo-Cymru fel Swyddog Prosiectau Digidol. 

Swyddog Prosiectau Digidol
35 awr yr wythnos
Cyflog £24,410 – £29,250
Cytundeb parhaol (yn amodol ar gyllid)  


Gwybodaeth am ProMo-Cymru 

Mae ProMo-Cymru yn elusen gofrestredig gyda changen fasnachu. Rydym ni’n gweithio i sicrhau bod pobl ifanc a chymunedau yn wybodus, yn ymgysylltu, yn gysylltiedig ac yn cael eu clywed. 

Rydym yn cydweithio i greu cysylltiadau rhwng pobl a gwasanaethau gan ddefnyddio creadigrwydd a thechnoleg ddigidol. Yn cefnogi’r trydydd sector a’r sector cyhoeddus i ddychmygu, profi a chreu gwasanaethau gwell. 

Mae ProMo-Cymru yn gweithio gyda chymunedau trwy gyfathrebiadau, eiriolaeth, ymgysylltiad diwylliannol, digidol a chynnyrch cyfryngol. Mae dros 20 mlynedd o drosglwyddo prosiectau gwybodaeth ieuenctid digidol yn dylanwadu ein gwaith. Rydym yn rhannu’r wybodaeth yma drwy hyfforddiant ac ymgynghoriad, yn creu partneriaethau hir dymor fydd yn buddio pobl a sefydliadau. 

Yn y 30 mlynedd diwethaf mae ProMo-Cymru wedi gweld llawer o arloesedd a thyfiant. Rydym yn gwerthfawrogi pwysigrwydd cymwysterau a phrofiad ond rydym hefyd yn chwilio am yr unigolion cywir sydd yn gallu cynnig rhywbeth newydd a gwahanol i’n sefydliad.  

 Mae gennym gydbwysedd o waith tîm, ymreolaeth a theimlad o gyfrifoldeb i wella ein gwasanaethau a’n cynnyrch. Rydym yn gweithio’n galed i’n cleientiaid a’n partneriaid ac yn mwynhau rhannu’r gwobrau gyda nhw. Anogir i’n staff i fod yn rhan o’r arweinyddiaeth a’r broses o wneud penderfyniadau, gan roi sylw personol i eraill a gwneud i bob unigolyn deimlo gwerth unigryw.   

Rydym yn chwilio am gydweithwyr sydd yn gallu gweithio i’r gwerthoedd yma. Rydym angen pobl sydd yn rhagweithiol sydd â brwdfrydedd, eglurder a gweledigaeth. Os ydych chi’n teimlo mai chi yw hyn, rydym yn recriwtio a byddem wrth ein boddau yn clywed gennych chi!  

Gwybodaeth am y swydd 

Mae ein tîm Cyfathrebu ac Ymgysylltu yn chwilio am Swyddog Prosiectau Digidol creadigol, trefnus ac sy’n gallu cymell ei hun, sy’n hoffi technoleg ac sydd â’r profiad a’r hyder i redeg nifer o brosiectau digidol ar yr un pryd mewn amgylchedd prysur. 

Mae ein prosiectau’n canolbwyntio ar gefnogi’r trydydd sector a’r sector cyhoeddus i greu gwell gwasanaethau a galluogi llais ieuenctid a chymunedau drwy greadigrwydd a digidol. Rydym ni’n credu y dylai pobl ifanc a chymunedau gael mynediad at wybodaeth, eiriolaeth a chefnogaeth mewn ffordd sy’n hawdd dod o hyd iddi, yn syml i’w deall mewn fformat y gallan nhw ei ddefnyddio. 

Mae ein gwasanaethau masnachu yn canolbwyntio ar drawsnewid digidol drwy’r canlynol: Cynllunio Gwasanaeth, Cyfryngau Digidol sy’n cael eu Cyd-gynllunio, Gwybodaeth Ieuenctid Digidol, Hyfforddiant ac Ymgynghori. Hoffem glywed gan ymgeiswyr sydd â sgiliau cyfathrebu a chynllunio rhagorol ynghyd â phrofiad o gyflawni prosiectau digidol. 

Gwybodaeth Amdanoch Chi 

Rydym ni’n chwilio am rywun sy’n cymryd yr awenau ac sy’n ffynnu ar yr her o weithredu a datblygu nifer o brosiectau ar yr un pryd. Bydd yr ymgeisydd yn frwd dros ddefnyddio technoleg ddigidol i ymgysylltu â phobl ifanc neu gymunedau, ac yn gyfarwydd â’r datblygiadau technolegol diweddaraf. Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol brofiad o weithio yn y trydydd sector a’r sector cyhoeddus, a hyfforddi a chefnogi elusennau ym maes technoleg neu ddigidol.  

Rydym ni’n gwerthfawrogi unigolion hyblyg sy’n awyddus i ddatblygu eu hunain, prosiectau a ProMo-Cymru. Byddwn ni’n annog ac yn disgwyl i bobl ddatblygu sgiliau newydd a chymryd cyfrifoldebau newydd.  

Rydym ni’n chwilio am y bobl iawn sy’n rhannu ac yn gweithio tuag at werthoedd ac ethos ProMo-Cymru. Rydym ni’n croesawu pobl o bob cefndir gan ein bod yn gwybod bod meddyliau, profiadau a chefndiroedd amrywiol yn helpu i annog arloesedd a pherfformiad sefydliadol. 

I gael rhagor o wybodaeth am bwy ydyn ni a’n prosiectau, ewch i: ProMo Cymru: www.promo.cymru 

Lawr lwythwch y pecyn cais yma

Dyddiad Cau:  

Dydd Sul 3 Rhagfyr  

Dyddiadau Cyfweliadau:  

13 a 14 Rhagfyr, mewn person, Swyddfa Caerdydd. 

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â people@promo.cymru  

(029) 2046 2222 

ProMo-Cymru 
17 Stryd Gorllewin Bute  
Bae Caerdydd
CF10 5EP  

www.promo.cymru