Cynhadledd Lwyddiannus Dyfodol Iechyd Meddwl Pobl Ifanc

by Halyna Soltys | 28th Meh 2023

Sut olwg sydd ar ddyfodol gwasanaethau iechyd meddwl i bobl ifanc?

Ar ddydd Iau, 8fed Mehefin, cyflwynodd ProMo-Cymru ac Adferiad Recovery gynhadledd ar-lein wedi’i gyd-gynhyrchu am ddyfodol cymorth iechyd meddwl i bobl ifanc Cymru.

Roedd y gynhadledd yn rhan o brosiect ‘Ein Meddyliau ein Dyfodol’ (EMED) Cymru. Mae’r prosiect yma yn rhoi grym i bobl ifanc i greu newidiadau ystyrlon i wasanaethau iechyd meddwl wrth godi ymwybyddiaeth o’u profiadau a siarad gyda dylanwadwyr a’r rhai sydd yn gwneud penderfyniadau.

Roedd y digwyddiad ar-lein pedwar awr yma yn canolbwyntio ar dri phrif beth oedd yn bwysig i’r saith person ifanc oedd yn rhan o’r prosiect.

Gweithdy 1

Roedd y gweithdy yma yn archwilio gofal iechyd meddwl i gleifion mewnol ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru. Roedd dau o eiriolwyr ifanc EMED, Martha a Rain, yn rhannu eu profiad o ofal fel claf mewnol. Arweiniodd hyn at drafodaethau am bethau llwyddiannus a’r hyn gellir ei wella. Hwyluswyd y gweithdy gan Dr Euan Hails, a gafodd MBE yn 2022 am ei wasanaethau i iechyd meddwl plant a phobl ifanc yng Nghymru.

Gweithdy 2

Roedd y gweithdy yma yn amlygu sut gellir defnyddio cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo iechyd meddwl da. Eglurodd Andrew Collins a Lucy Palmer, arbenigwyr digidol o ProMo-Cymru, yr angen i wasanaethau fod ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol i gynnig cefnogaeth i bobl ifanc yn y llefydd y maent yn treulio’u hamser. Canolbwyntiwyd ar sut y gall sefydliadau dorri drwy sŵn cynnwys niweidiol ar-lein a tharfu ar y llif yma er mwyn cefnogi pobl ifanc.

Gweithdy 3

Roedd y gweithdy yma yn amlygu’r fframwaith NYTH a’r gwahaniaeth mawr mae’n ei gael ar ofal atal ac ymyriad cynnar yng Nghymru. Millie Boswell, Arweinydd Gweithredu Fframwaith NYTH/NEST ar gyfer Llywodraeth Cymru, oedd yn cynnal y sesiwn. Eglurai sut mae’n gweithredu’r fframwaith NYTH i greu dull system gyfan i wella gwasanaethau iechyd meddwl a lles i fabanod, plant a phobl ifanc. Rhannodd Josh a pherson ifanc arall, dau o eiriolwyr ifanc EMED, eu stori am sut mae cefnogaeth ymyrraeth gynnar dda yn edrych, a’r ffordd mae hyn wedi bod o gymorth iddynt yn eu hadferiad.

Adborth

Roedd y gynulleidfa, y mwyafrif ohonynt yn weithwyr proffesiynol o’r sectorau cyhoeddus a phreifat, wedi cymryd rhan frwdfrydig ac wedi gadael adborth positif, gan gynnwys:

“Dyma’r gynhadledd ar-lein gorau i mi fynychu”.

“Roeddwn wrth fy modd yn clywed gan y bobl ifanc eu hunain. Roedd hyn mor rymus ac yn ddiddorol, cefais fy synnu gyda’r hyder a’r huodledd o ystyried pwnc mor bersonol a heriol. Da iawn wir ar eich gwaith yn cysylltu gyda nhw; mae’n amlwg eu bod yn gallu ymddiried ynoch ac yn teimlo wedi’u grymuso!”

“Fel rhywun sydd yn gweithio i CAMHS yn Llywodraeth Cymru, nid wyf yn cysylltu â phobl ifanc, felly, pan fyddaf mewn cyfarfodydd ac yn gwneud fy ngwaith o hyn ymlaen, byddaf yn cofio’r hyn y dysgais.”

Wrth i gyllid y prosiect agosáu at ei flwyddyn olaf fis Rhagfyr, mae eiriolwyr ifanc Ein Meddyliau Ein Dyfodol yn gobeithio rhannu’r adborth o’r gynhadledd ryngweithiol yma gyda dylanwadwyr a’r rhai sydd yn gwneud penderfyniadau, er mwyn siapio dyfodol gwasanaethau iechyd meddwl i bobl ifanc ledled Cymru.