O Gymru i Catalunya: Archwilio Mentrau Ieuenctid Dramor

by ProMo Cymru | 11th Ion 2024

Bu tri aelod o’n tîm ar daith astudio gyffrous i Gatalonia yn ddiweddar gyda chyd gynrychiolwyr o Fwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid Llywodraeth Cymru (yn cynrychioli ProMo Cymru, CWVYS a Youth Cymru).

Cawsom groeso cynnes gan yr Agència Catalana de la Joventut (Asiantaeth Ieuenctid Catalonia), a chawsom daith o amgylch y rhanbarth yn archwilio mentrau ieuenctid, rhannu arferion da a gwneud cysylltiadau.

Diwrnod 1: Barcelona

Cychwynnodd y daith gyda chroeso cynnes yn yr Agència Catalana de la Joventut ym Marcelona. Rhannodd Rut Ribas, Directora General de Joventut, a’i chyd weithwyr, fewnwelediadau gwerthfawr i bolisïau ieuenctid Catalonia, gan drafod pynciau fel iechyd meddwl, amrywiaeth, dwyieithrwydd, a sawl ffactor cyd-destunol sydd yn dylanwadu’r rhanbarth. Ymwelwyd â Phwynt Gwybodaeth Ieuenctid, dysgu am bwrpas dros 300 o bwyntiau gwybodaeth ieuenctid ledled y rhanbarth, a’r 500,000 o ddefnyddwyr sydd yn defnyddio’u cerdyn ieuenctid. Roedd y diwrnod hefyd yn cynnwys ymweliad i ysgol Ail Gyfle Fundacio Comtal, sydd yn canolbwyntio ar addysg a lleoliadau gwaith plant a phobl ifanc sydd mewn perygl cymdeithasol yn Ciutat Vella.

Diwrnod 2: Girona

Parhaodd ein hymweliad i ddinas odidog Girona. Ymwelwyd â chanolfan iechyd ieuenctid, ble rhannodd y tîm eu hymgyrchoedd a’r gwaith helaeth yn hyrwyddo iechyd rhyw i bobl ifanc y rhanbarth. Yna, ymwelwyd â Swyddfa Ieuenctid La Selba, gan ddysgu am yr ymgyrch iechyd meddwl ieuenctid anhygoel ‘Cap Caos al Cap’ (Dim Anrhefn yn y Clogyn). Cafwyd cloi’r dydd gydag ymweliad i glwb ieuenctid yn Breda, ble cawsom gyfarfod â gweithwyr ieuenctid a phobl ifanc, yn cael mewnwelediad i’w prosiectau a chael mwynhau gêm o Fifa!

Gôl! Gêm Fifa llwyddiannus gyda phobl ifanc Breda.

Diwrnod 3: Y diwrnod olaf

Gorffennwyd yr ymweliad astudio yn Sant Boi de Llobregat, lle cawsom gyfarfod ag adran ieuenctid y fwrdeistref a chael taith gyfoethog a thrafodaeth am eu gwaith. Cawsom hefyd gyfle i gael blas ar ddiwylliant yr ardal hefyd wrth gwrs!

Roedd y daith yn llawn dysgu, rhannu a chymharu ein dulliau gwaith ieuenctid ac ymgysylltu, arfer da, a chreu perthnasau parhaol. Teithiom adref gyda gwybodaeth werthfawr fydd yn ein helpu i ddatblygu ein gwaith wrth ddatblygu gwybodaeth ieuenctid digidol a chynllun hawliau ieuenctid yng Nghymru. Byddem yn rhannu ein mewnwelediadau a’n darganfyddiadau mewn adroddiad yn fuan.

Diolch i Taith am gyllido’r daith gyfoethog hon ac i Agència Catalana de la Joventut am y croeso cynnes a chynllunio taith gynhwysfawr, addysgiadol a phleserus!


Cyllidwyd y daith astudio hon gan Taith.