by ProMo Cymru | 25th Maw 2020
Ysgrifennwyd gan Giulia Mammana
Wrth weithio o adref, mae’n anodd canolbwyntio gyda’r holl newyddion a barnau yn cael eu rhannu ar gyfryngau cymdeithasol. Dim ond cip bach i weld beth sydd yn digwydd ac yna rydych chi wedi’ch dal mewn cylch cythreulig heb i chi sylwi. Yn llywio o un darn o newyddion i un arall, nid oes amser gwaeth i ymgolli’ch hun mewn gwe o ddadlau, newyddion ffug a chynllwynion.
Pan fydd rhaid i chi ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol yn eich gwaith mae hyn yn fwy gwir fyth, sydd yn golygu bod rhaid treulio mwy o amser ar y we yn dysgu am bynciau sy’n ‘trendio’ a’r sefyllfa ddiweddaraf. Ond nid yw hyn yn golygu nad yw cyfryngau cymdeithasol yn fuddiol yn y cyfnod yma o ansicrwydd. Dwi ddim yn meddwl bod cyfyngiadau hunan-orfodol, fel chwilio am y wybodaeth sydd ei angen yn unig, yn realistig mewn cyfnodau o argyfwng fel hyn. Mae pethau yn newid yn sydyn ac mae angen deall y wybodaeth ddiweddaraf bob dydd.
Swm iach o gyfryngau cymdeithasol
Mae’r swm o erthyglau targedu a gwybodaeth gellir ei gael o gyfryngau cymdeithasol yn gallu arbed llawer o amser chwilio i chi. Mae’n gallu rhoi gwybodaeth i chi yn sydyn ac yn glir am sut i amddiffyn eich hun a’r bobl o’ch cwmpas.
Er mwyn arwain bywyd iach wrth ymbellhau’n gymdeithasol bydd angen datblygu strategaeth bersonol eich hun, a chael cydbwysedd rhwng gwirio gwybodaeth a gwastraffu amser gwerthfawr. Nid yw byth yn syniad da ychwanegu at anghytundeb ar-lein yn fy marn i. Cyn hir byddech chi’n colli eich hun yn ymateb i’r hyn mae eraill yn ei ddweud, a gall pethau newid i eiriau ymosodol yn sydyn iawn. Nid fydd hyn yn gwneud i chi deimlo’n dda, yn enwedig mewn cyfnod sydd yn anodd yn feddyliol i bawb.
Yn bersonol, rwyf yn treulio oddeutu 15 munud o amser rhydd bob dydd ar gyfryngau cymdeithasol, un ai’n fuan yn y bore neu yn y nos, i sicrhau fy mod i’n cael gwybod newyddion y dydd. Efallai byddaf yno’n hirach yn cael fy nhynnu gan gynnwys doniol neu ddeniadol, ond rwy’n ceisio peidio cosbi fy hun pan fydd hyn yn digwydd. Dwi’n deall ei fod yn ffordd dda i gael gwared ar straen hefyd.
Penderfynwch beth sydd yn ddibynadwy a beth sydd ddim
Treuliwch amser yn sicrhau bod yr hyn rydych chi’n ei ddarllen ac yn ei rannu yn dod o ffynonellau dibynadwy. Edrychwch ar yr holl dudalennau rydych chi’n eu dilyn. Ydy’r rhain yn ffynonellau a barchwyd? Os ddim, yna cliciwch i beidio dilyn. Mae yna ddigon yn digwydd yn y byd ar hyn o bryd heb roi mwy o straen arnoch chi’ch hunain.
Byddwch yn ymwybodol bod yna lawer o bobl yn rhannu newyddion ffug. Fel arfer mae’n hawdd eu hadnabod, gan eu bod yn tueddu cysylltu i ddolen anhysbys, ffynonellau di-nod ac yn defnyddio cyfathrebu ymosodol.
Os ydych chi’n teimlo nad ydych chi’n cael digon o wybodaeth werthfawr yn eich porth cyfryngau cymdeithasol yna beth am ail-ystyried y tudalennau rydych chi’n ei ddilyn? Meddyliwch am yr hyn fydda’n fuddiol i chi a dechrau dilyn tudalennau newydd.
Cydbwysedd perffaith o dudalennau addysgiadol ac ysgafn fydda tua 80:20 yn fy marn i. Mae cyfryngau cymdeithasol yn arf pwerus iawn i gael gwybodaeth sydyn, gynhwysfawr, dim ond i chi ei ddefnyddio mewn ffordd graff ac adeiladol.
Gwybodaeth bellach
I ddarganfod mwy am ein gwaith, edrychwch ar ein tudalennau Prosiect. Dilynwch ar Facebook a Twitter i gael y diweddaraf yn ystod y cyfnod yma o argyfwng.
Os ydych chi’n gweithio gyda phobl ifanc rhowch wybod iddynt am y llinell gymorth Meic sydd yn parhau i redeg fel arfer yn ystod y cyfnod yma. Mae erthyglau dibynadwy addas i bobl ifanc yn cael eu postio am yr argyfwng Covid-19 ar y tudalennau newyddion. Gall plant, pobl ifanc a gweithwyr proffesiynol ddysgu am y diweddaraf ar y tudalennau Facebook a Twitter.